Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021

• Gwenwyneg Nano (geno) • Gwyddoniaeth gwahanu a thechnegau moleciwlaidd ar gyfer Nanofeddygaeth • Meddygaeth Adfywiol • Nanofeddygaeth a Therapiwteg • Technegau Dadansoddol • Traethawd Hir Gofynion mynediad Fel arfer gradd anrhydedd 2:2 neu uwch mewn gwyddor fiolegol neu bwnc cysylltiedig; peirianneg; ffiseg; cemeg neu gymhwyster cyfatebol.

• Clefydau Heintus • Damweiniau • Diabetes • Epilepsi

GWYDDONIAETH DDADANSODDOL GYMHWYSOL (LCMS) MRes ALl RhA Mae galw drwy'r byd am sbectrometreg màs a chromatograffaeth wedi cynyddu ar raddfa fawr, ac mae graddedigion cymwys yn brin ac yn unigolion y mae galw mawr iawn amdanynt. Bydd y cyfuniad unigryw o gyfranogiad yn y diwydiant a chynnwys y cwrs yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol- berthnasol gyda hyfforddiant a phrofiad amhrisiadwy y mae galw amdano yn y DU ac yn fyd-eang. Mae'r rhaglen mewn dau gam: Modiwlau a Addysgir: • Dadansoddi Data a Datblygu Dulliau Gweithredu • Gwyddor Gwahanu a Thrin Samplau • Rheoli Arferion Labordy yn Broffesiynol • Sbectrometreg Màs – Hanfodion a Phethau Sylfaenol Ymchwil: • Prosiect ymchwil lefel meistr, sy'n canolbwyntio ar eich diddordeb ymchwil eich hun ac ymarfer presennol Doethuriaeth Broffesiynol hyn yn anelu at gynhyrchu tystiolaeth ar gyfer addysg Gweithwyr Iechyd Proffesiynol. Maent yn addas ar gyfer unrhyw un sydd am wneud ymchwil drylwyr sy'n canolbwyntio ar ymarferi addysg gweithwyr iechyd proffesiynol. Croesewir hyfforddeion hefyd. Gall ymgeiswyr gofrestru ar gyfer rhaglen meistr fer (MRes) neu radd ymchwil Lefel Ddoethurol hir (DProf) mewn rhaglen sy'n cyfuno cam addysgu cychwynnol ag ymchwil a oruchwylir. Fel arfer gwneir yr ymchwil yng ngweithle'r myfyriwr. YMCHWIL YM ADDYSG Y PROFFESIYNAU IECHYD MRes/DProf ALl RhA Mae'r graddau ymchwil

• Gastroenteroleg • Gofal cyn Ysbyty • Gofal Symudol • Heneiddio • Llawdriniaeth Oherwydd Trawma • Llosgiadau a Phlastigau • Rhiwmatoleg • Seiciatreg • Ysbyty Gartref GWYBODEG IECHYD MRes RhA Mae disgyblaeth gwybodeg iechyd, sy'n datblygu, yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o ddarpariaeth iechyd yn yr 21ain ganrif. Cynlluniwyd y cwrs MRes mewn Gwybodeg Iechyd ar gyfer pobl sydd â phrofiad o wybodeg iechyd ac sydd am gyfrannu at y maes drwy helpu i ddatblygu'r sail wybodaeth. Canolbwyntir ar ymchwil sylfaenol, gyda sgiliau'n cael eu datblygu dros ddwy flynedd. Gellir cyflawni'r prosiect ymchwil yn eich gweithle eich hun. Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys: • Bydd yr ail flwyddyn yn cynnwys cwblhau traethawd ymchwil estynedig dan oruchwyliaeth • Cefnogir yr ymchwil gan sefydliad sydd ag enw da am wneud ymchwil a chewch eich goruchwylio ar sail un i un ar bob cam o'r broses ymchwil • Drwy bartneriaethau â chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru, gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleoedd ymchwil • Dysgu seiliedig ar ymarfer • Ffocws ar ymchwil sylfaenol • Meithrin sgiliau ymchwil drwy dri modiwl byr wrth i chi ddatblygu eich prosiect ymchwil gwybodeg iechyd ei hun yn ystod naw mis cyntaf y cwrs

ASTUDIAETHAU MEDDYGOL A GOFAL IECHYD MSc drwy

Ymchwil/MPhil/PhD/MD ALl RhA Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'r meysydd ymchwil arbenigol canlynol: • Biofarcwyr a genynnau • Dyfeisiau meddygol • Iechyd a gwybodeg cleifion a phoblogaeth • Microbau ac imiwnedd Hefyd, mae gan yr Ysgol gysylltiadau cryf â'r GIG ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb ymchwil glinigol mewn: • Canser • Clefyd Cardiofasgwlaidd

95

Made with FlippingBook - Online magazine maker