CAMPWS PARC SINGLETON Y GYFRAITH
YMCHWIL O SAFON RYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 96 %
Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn gymuned fywiog, sy'n datblygu'n barhaus er mwyn sicrhau bod ein graddedigion mewn sefyllfa i fodloni gofynion byd cyfreithiol modern sy'n newid yn barhaus. Fel myfyriwr ôl-raddedig, byddwch yn dilyn ystod gyffrous o fodiwlau sy'n torri tir newydd gyda chymorth academyddion sydd â phrofiad gwirioneddol ar flaen y gad yn eu meysydd ymchwil. Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â heriau mawr mewn cymdeithas, yn cael effaith, ac yn gwneud gwahaniaeth. Rydym wedi meithrin arbenigedd ym meysydd hawliau plant, seiberderfysgaeth, cyfraith amgylcheddol, hawliau dynol, eiddo deallusol, cyfraith ryngwladol, TechCyfreithiol a chyfraith morio a masnach.
bygythiadau, tueddiadau, materion, ymatebion a chwestiynau moesegol sy'n gysylltiedig â therfysgaeth a seiberdroseddu. Mae'r staff yn ymchwilwyr profiadol yn y meysydd hyn ac mae cyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â'u hymchwil wreiddiol fel rhan o'u traethodau terfynol. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • A tal Eithafiaeth Dreisgar Ar-Lein • Dulliau Ymchwil a Moeseg • H awliau Dynol a Therfysgaeth Ar-Lein • Plismona Digidol • P ropaganda a Radicaleiddio Ar-Lein • T erfysgaeth Gyfoes Mewn Cyd-Destun Hanesyddol ac Athronyddol • Troseddu yn y Seiberofod HERIAU BYD-EANG: Y GYFRAITH, POLISI AC YMARFER MA ALl Bydd y cwrs gradd meistr hwn a ariennir yn llawn ac sy'n rhan allweddol o Raglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr rhagorol byd go iawn ym meysydd ysgolheictod, gweithredaeth ac ymarfer cyfreithiol. Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael â heriau brys, gan gynnwys: newid yn y hinsawdd, anghyfiawnder ar sail hil, newid ar-lein, hawliau plant, a hawliau dynol a thecnoleg.
Mae modiwlau gorfodol fel arfer yn cynnwys: • Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol • Prosiect Ymchwil Heriau Byd-Eang • Trawsnewid Cyfraith a Pholisi • Wynebu Heriau Byd-Eang • Ymchwil Gyfreithiol Uwch Mae modiwlau arbenigol opsiynol fel arfer yn cynnwys: • A tal Eithafiaeth Dreisgar Ar-Lein • H awliau Dynol a Therfysgaeth Ar-Lein • Hawliau Dynol a'r Amgylchedd • Hawliau Dynol, Lloches a Ymfudo • Troseddu yn y Seiberofod HAWLIAU DYNOL LLM ALl RhA Ffocws ar heriau cyfoes sy'n wynebu hawliau dynol byd-eang a sut i ymateb drwy'r gyfraith, polisi ac arfer. Bydd myfyrwyr yn cyflawni astudiaethau uwch yng nghyfraith hawliau dynol, ymchwil a gweithredu. Modiwlau gorfodol: • Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol • Rhoi Hawliau Dynol ar Waith • Traethawd Hir ar Bwnc Hawliau Dynol • Ymchwilio i Hawliau Dynol Mae modiwlau arbenigol dewisol fel arfer yn cynnwys: • Dulliau Datblygu Seiliedig ar Hawliau • Hawliau Dynol a Therfysgaeth Ar-Lein • Hawliau Dynol a'r Amgylchedd • Hawliau Dynol Plant • Hawliau Dynol, Lloches a Mewnfudo
SEIBERDROSEDDU A THERFYSGAETH MA ALl RhA Mae'r MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth yn gwrs rhyngddisgyblaethol, sy'n tynnu ar wyddoniaeth wleidyddol, seicoleg, troseddeg, y gyfraith a hanes i ymgysylltu'n feirniadol â throsedd ar-lein a therfysgaeth. Trwy gydol y cwrs hwn byddwch yn dysgu am y
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
97
Made with FlippingBook - Online magazine maker