Employability Student Handbook - Welsh

CV AC AWGRYMIADAU EURAIDD Y LLYTHYR EGLURHAOL

Eglurhaol

YR HYN SY’N DDA

YR HYN SY’N DDRWG Peidiwch â dweud celwydd Byddwch yn onest ac yn wrthrychol. Efallai y gofynnir cwestiynau manwl i chi am eich CV yn ystod y cyfweliad. Peidiwch â defnyddio’r un CV ar gyfer pob cais am swydd – MAE ANGEN TEILWRA!

Dylech deilwra eich CV yn unol â phob swydd benodol. Gwiriwch fanylion CV da yn eich sector chi.

Parwch y sgiliau sydd gennych â'r sgiliau mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt. Hynny yw, darllenwch y disgrifiad swydd. Gwnewch yn si w ˆ r ei fod yn HAWDD EI DDARLLEN. Bydd CV deniadol yn denu sylw. Rhowch sylw i sillafu a gramadeg: Efallai na fydd eich CV yn cyrraedd y rownd nesaf os oes gwallau ynddo. Rhowch enghreifftiau penodol er mwyn arddangos eich sgiliau. Cofiwch: pwy, beth, pryd a sut. Gofynnwch i rywun DDARLLEN DROS eich CV cyn i chi gyflwyno eich cais.

Peidiwch ag ysgrifennu ‘curriculum vitae’ ar frig eich CV.

Peidiwch ag ysgrifennu brawddegau disgrifiadol hir – byddwch yn gryno ac yn economaidd gyda’ch geiriau. Peidiwch â bod yn negyddol. Ceisiwch osgoi geiriau negyddol, diymhongarwch ffug neu gyfeiriadau e-bost amhriodol. Peidiwch â chynnwys ffotograff oni bai eich bod yn gwneud cais am swydd fel model neu actor.

YMWELWCH Â NI YN YR HYB CYFLOGADWYEDD AM APWYNTIAD UN I UN YN SYTH AR ÔL ICHI DDECHRAU YN Y BRIFYSGOL I WNEUD Y MWYAF O’N GWASANAETHAU!

ISDEITLAU A STRWYTHUR Y CV Does dim templed cyffredinol i bawb pan ddaw i lunio CV. Gall yr hyn rydych chi’n ei gynnwys ac yn ei hepgor newid, yn seiliedig ar y swydd dan sylw.

• Manylion Personol • Proffil • Addysg

• Profiad Gwaith Perthnasol • Sgiliau a Chyflawniadau • Gwybodaeth Ychwanegol neu swyddi â chyfrifoldeb • Diddordebau • Geirdaon CYNGOR DA AR GYFER YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL/PROFFIL • Byddwch yn gryno: Ceisiwch osgoi disgrifiadau hir a gwnewch y datganiad yn fachog ac yn llawn gwybodaeth. • Ysgrifennwch rhwng 50 ac uchafswm o 200 o eiriau. • Os oes digon o le gennych, defnyddiwch fwlch 1.5 rhwng llinellau i’w gwneud hi’n haws darllen y datganiad. • Cofiwch gyfeirio at y fanyleb swydd a’r disgrifiad swydd mewn datganiad a luniwyd yn dda. • Darllenwch eich proffil yn uchel i sicrhau ei fod yn darllen yn naturiol. • Peidiwch â defnyddio’r person cyntaf a’r trydydd person yn yr un frawddeg.

10

11

Made with FlippingBook HTML5