Employability Student Handbook - Welsh

Y peth cyntaf y bydd darpar gyflogwr yn ei weld yn eich cais am swydd fydd y llythyr eglurhaol. Nid yw hyn yn cefnogi eich CV yn unig – mae’n gyfle i chi ddisgleirio ymhlith y dorf a dwyn perswâd ar y recriwtiwr i’ch cynnwys yn y rownd nesaf. Byddwch yn effro i beryglon treulio oriau yn perffeithio eich CV ar draul cynnwys eich llythyr eglurhaol. Mae llythyr eglurhaol yn gyfle i chi arddangos sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn paru â’r swydd ond y cwmni’n gyffredinol hefyd. Yn eich llythyr eglurhaol, dylech chi fod yn dangos eich gwybodaeth am y sector diwydiant a chysylltu hyn yn barhaus â sgiliau’r rôl rydych chi’n gwneud cais amdani. Gan fod cyflogwyr yn derbyn nifer fawr iawn o geisiadau’n aml iawn ar gyfer pob swydd wag, mae angen i chi sicrhau y bydd eich llythyr eglurhaol yn creu argraff barhaus. Templed

LLYTHYR EGLURHAOL

1. Byddwch yn gryno ac yn fanwl – ysgrifennwch ochr A4 yn unig.

2. Defnyddiwch yr un papur gwyn plaen o safon a wnaethoch i argraffu eich CV. 3. Cofiwch gynnwys enw cyswllt lle bynnag y bo modd i ddangos eich bod wedi’i anfon ato/atynt yn bersonol. 4. Gwnewch eich sgiliau’n berthnasol i’r hysbyseb swydd a chrëwch achos cryf dros pam y dylai’r cyflogwr gwrdd â chi. 5. Prawf-ddarllenwch – sicrhewch eich bod chi bob tro yn gwirio eich sillafu a’ch gramadeg heb ddibynnu ar raglen gwirio sillafu cyfrifiadurol. 6. Targedwch y cwmni drwy deilwra eich llythyr eglurhaol ar gyfer pob cais. 7. Dylai cynllun y dudalen fod yn hawdd edrych arno, ac wedi’i gynllunio gyda’r gynulleidfa mewn cof. 8. Gwiriwch fod enw’r cwmni a manylion allweddol eraill yn gywir. 9. Darllenwch y gwaith, gan ddileu geiriau neu frawddegau diangen. 10. Os ydych chi’n ei anfon yn electronig, rhowch y testun yng nghorff yr e-bost yn hytrach na mewn atodiad er mwyn atal hidlwyr sothach rhag ei ddatgelu. 11. Defnyddiwch eich geiriau chi, gan osgoi jargon a hen drawiadau ffurfiol.

11 rheol Llythyr Eglurhaol llwyddiannus:

CEIR LLYTHYR EGLURHAOL ENGHREIFFTIOL AR Y DUDALEN GANLYNOL

12

13

Made with FlippingBook HTML5