Employability Student Handbook - Welsh

DIFFINIADAU LINKEDIN Dyma ambell derm defnyddiol y dylech chi eu gwybod wrth ddefnyddio LinkedIn: Cysylltiadau – Cysylltiadau yw defnyddwyr cofrestredig rydych chi’n eu hadnabod yn bersonol ar LinkedIn. Er y gallwch wahodd unrhyw un i fod yn gyswllt, bydd angen iddo agor cyfrif i ddefnyddio’r wefan. Cysylltiadau eilradd – Mae’r rhain yn gysylltiadau sydd gan eich cysylltiadau chi. Er enghraifft, rydych chi’n ffrindiau gyda Bill, sydd wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’i reolwr. Mae rheolwr Bill yn gyswllt eilradd i chi. Trydydd cyswllt – Mae unrhyw gysylltiadau o’ch cysylltiadau eilradd chi’n drydydd cysylltiadau. Felly byddai cysylltiadau rheolwr Bil yn drydydd cysylltiadau i chi. Tudalen proffil – dyma eich tudalen bersonol ar LinkedIn. Gall pob defnyddiwr cofrestredig ar LinkedIn ei gweld (oni bai y byddwch yn ei gosod fel tudalen breifat). Gallwch restru eich addysg, eich hanes gwaith, eich prosiectau presennol a blaenorol, eich grwpiau a’ch cymdeithasau a mwy ar eich proffil. Gall defnyddwyr hefyd anfon eich tudalen proffil ymlaen at gysylltiadau ar eu rhestrau. Gallwch hefyd wneud eich tudalen proffil yn un “gyhoeddus” fel y gall unrhyw un (hyd yn oed pobl nad ydynt ar LinkedIn) ei gweld. Argymhellion – Gall eich cysylltiadau ysgrifennu argymhellion, neu eirdaon, ar gyfer eich proffil. Gall y rhain fod yn arf pwerus i’ch busnes a’ch sgiliau proffesiynol. Cyflwyniadau – Cyflwyniadau yw pan fydd trydydd parti yn cyflwyno dau berson nad ydynt wedi’u cysylltu ar hyn o bryd. Er enghraifft, nid yw eich cydweithiwr Sue a’ch cleient Dan yn adnabod ei gilydd. Rydych chi’n meddwl y gallai Sue ddatrys problem sydd gan Dan yn un o’i brosiectau, felly rydych chi’n cyflwyno Sue a Dan drwy LinkedIn. Mae cyflwyniadau’n ffordd syml o ddod â phobl ynghyd ar y wefan.

DEFNYDD PROFFESIYNOL Mae llawer o ffyrdd i ddefnyddio LinkedIn i’ch helpu i dyfu’n broffesiynol. Rhwydweithio – mae LinkedIn yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i bobl a sefydliadau proffesiynol yn eich diwydiant chi. Mae’n eich helpu i ddilyn y diweddaraf yn nhueddiadau eich diwydiant a rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n gwneud gwaith tebyg i chi. Yn ychwanegol at rwydweithio â phobl yn eich rhwydwaith estynedig ar LinkedIn, gallwch hefyd sefydlu ac ymuno â grwpiau penodol i drafod syniadau a rhannu newyddion y diwydiant. Mae’n ffordd wych o ddatblygu eich rhwydwaith proffesiynol ymhellach. Gofyn ac ateb cwestiynau – Mae llawer o bobl yn defnyddio’r grwpiau ar LinkedIn fel math o felin drafod neu sesiynau sbarduno syniadau agored. Drwy gynnig eich arbenigedd i bobl yn eich rhwydwaith, rydych chi’n meithrin ymddiriedaeth ac yn gwella eich enw da fel arbenigwr. Gallwch hefyd ddefnyddio diweddariad statws eich proffil i ofyn cwestiynau i bobl yn eich rhwydwaith, neu rannu newyddion neu gyngor. (Mae’ch ffrwd statws ar LinkedIn yn gweithio mewn ffordd debyg i Twitter®.) Ymchwil – Gallwch ddefnyddio LinkedIn i gael rhagor o wybodaeth am y bobl a’r sefydliadau rydych chi’n gwneud busnes â nhw. Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi ar fin cwrdd â chleient posib pwysig. Rydych chi’n gwneud chwiliad cyflym ar LinkedIn ac yn dysgu yr aeth yr unigolyn hwnnw i’r un brifysgol â chi. Mewn gwirionedd, rydych chi’n adnabod llawer o’r un bobl. Nawr, mae gennych bwnc gwerthfawr i sbarduno sgwrs a fydd yn eich helpu i feithrin perthynas â’r cleient. Arf chwilio am swyddi – Ychwanegwch eich diddordebau gyrfa personol i’r offeryn hwn a chaiff swyddi eu hargymell i chi. Po fwyaf byddwch chi’n defnyddio’r swyddogaeth hon, mwyaf perthnasol fydd y swyddi sy’n cael eu hargymell. Gallwch hefyd ddewis botwm i roi gwybod i recriwtwyr eich bod chi’n agored i ystyried mathau penodol o swyddi.

GWEFAN RHWYDWEITHIO CYMDEITHASOL I FUSNESAU. MAE’N HELPU POBL I RWYDWEITHIO A GELLIR EI DDEFNYDDIO AM DDIM. MAE’R WEFAN YN EICH HELPU I DDOD O HYD I GYSYLLTIADAU BUSNES ERAILL, CLEIENTIAID A CHYDWEITHWYR RYDYCH CHI EISOES YN EU HADNABOD. BYDDWCH YN “CYSYLLTU” Â NHW DRWY’R WEFAN, AC YNA BYDDANT YN RHAN O’CH RHWYDWAITH. Pan fyddwch chi wedi cysylltu ag unigolyn, bydd gennych fynediad at restr eu cysylltiadau nhw. Gelwir hyn yn “rhwydwaith estynedig.” Gallwch wneud cais i gael eich cyflwyno i bobl yn eich rhwydwaith estynedig drwy eich cyswllt cyffredin. Yn ogystal, mae LinkedIn hefyd yn darparu nodweddion sy’n cynnwys y gallu i ddechrau ac ymuno â grwpiau, ac adran swyddi lle gall aelodau hysbysebu swyddi gwag neu wneud cais am swydd.

16

17

Made with FlippingBook HTML5