PARATOI
1. TACLUSO O’CH CWMPAS Dyma rywbeth mae llawer o bobl yn anghofio amdano pan fyddant yn cael cyfweliad fideo, ond os yw eich cefndir chi’n cynnwys posteri Metallica wedi’u rhwygo, dillad isaf brwnt a gwely heb ei wneud, yna mae’n debygol na fyddwch chi’n cael y swydd. Ac nid oherwydd bod cyfwelwyr yn casáu cerddoriaeth metel trwm, byddwch yn ymddangos i fod yn berson anhrefnus, yn ddiog a heb drafferthu i greu argraff dda. Dewiswch gefndir niwtral ar gyfer eich cyfweliad fideo, a pheidiwch â meddwl bod yn rhaid i chi ddangos gwybodaeth bersonol – cewch eich barnu ar sail eich cymhwysedd, nid oherwydd bod gennych gasgliad llawn gweithiau Dostoyevsky. Yn ogystal, os ydych chi’n byw gyda phobl eraill, neu mae eich cymdogion yn swnllyd iawn, gallech ddweud wrthyn nhw o flaen llaw eich bod chi’n cael cyfweliad. Dylai hyn sicrhau na fydd tarfu ar eich cyfweliad fideo gan gydbreswylwyr yn eich galw chi neu fwrlwm o gerddoriaeth uchel. 2. GWISGWCH YN DRWSIADUS Er ei fod yn demtasiwn rhoi crys dros eich trowsus pyjama sy’n llawn hufen iâ, mae’n bwysig iawn nad ydych chi’n gwneud hynny. Os bydd yn rhaid i chi sefyll yn ystod y cyfweliad, bydd yn amlwg yn syth eich bod chi’n fochyn. Yn lle hynny, dylech wisgo fel y byddech ar gyfer cyfweliad wyneb yn wyneb – pen i draed – gan gyflwyno eich hun fel rhywun priodol ar gyfer y swydd rydych chi’n gwneud cais amdani. Gan na fyddwch chi yno yn bersonol, mae’ch golwg yn bwysicach fyth wrth greu argraff dda ac, felly, mae ganddo rôl bwysicach wrth eich helpu i gael y swydd. Felly gwnewch ymdrech: Mynnwch gawod, brwsiwch eich dannedd, brwsiwch eich gwallt a gwisgwch yn drwsiadus yn hytrach nag yn anffurfiol.
3. GWNEWCH YN SI Ŵ R EICH BOD CHI’N GYFARWYDD Â’R DREFN Os ydych chi’n newydd i Skype a galwadau fideo, byddai’n ddoeth rhoi cynnig ar y rhaglen cyn eich cyfweliad, er mwyn i chi gael gwell dealltwriaeth o sut mae’n gweithio a sut i drwsio pethau os na fyddant yn gweithio’n sydyn. Efallai y bydd yn ddefnyddiol gwneud galwad brawf. Y peth olaf rydych chi ei eisiau yw cyrraedd eich desg un funud cyn y cyfweliad ac yna sylweddoli nad yw eich seinyddion yn gweithio a bod lled band eich rhyngrwyd yn rhy isel. Gwnewch yn siwˆ r eich bod chi wedi rhoi cynnig ar eich offer yn ogystal â’ch rhaglen galwad fideo ymhell cyn eich cyfweliad ac eto ar y diwrnod. 4. ONGL EICH GWE-GAMERA Gall safle eich gwe-gamera fod yn bwysig iawn ar gyfer eich galwad fideo. Os bydd yn rhy agos, bydd cyfwelwyr ond yn gweld eich wyneb, ond os bydd yn rhy bell, ni fyddant yn gweld unrhyw beth o gwbl. Rhowch gynnig ar eich camera o flaen llaw a rhowch ef mewn safle sy’n cynnwys y rhan fwyaf o hanner uchaf eich corff. Bydd hyn yn galluogi cyfwelwyr i weld ystumiau eich dwylo er mwyn iddynt ffurfio barn ar iaith eich corff yn gyffredinol. Agwedd allweddol arall yw’r goleuadau. Gwnewch yn siwˆ r bod gennych gymaint o olau naturiol â phosib (er ceisiwch beidio ag eistedd yn uniongyrchol o flaen y ffynhonnell olau gan fydd hyn yn taflu cysgod ar eich wyneb. Effaith golau naturiol arnoch chi a’r pethau o amgylch fydd yn eich gwneud yn fwy disglair a bydd yn sicrhau cyfwelwyr nad ydych chi’n casáu golau dydd a’r byd mawr.
DAETH CYFWELIADAU SKYPE A FIDEOYN BOBLOGAIDD IAWN. P’UN A YDYCH YN DDARPAR FYFYRIWR, WEDI GRADDIO’N DDIWEDDAR NEU’N FYFYRIWR RHYNGWLADOL SY’N CHWILIO AM LEOLIAD DRAMOR, MAE’N BOSIB IAWN Y GOFYNNIR I CHI WNEUD CYFWELIAD SKYPE AR RYW ADEG. LAURA TUCKER, INSIDE CAREERS P’un a yw’r unigolyn sy’n cyfweld â chi’n swyddog derbyn y brifysgol, yn gyflogwr neu’n rhywun arall, mae’n hanfodol eich bod chi’n barod i greu argraff arno’n union fel y byddech chi mewn cyfarfod wyneb yn wyneb. I wneud hyn, bydd yn rhaid i chi baratoi ar gyfer yr holl ffyrdd y gall cyfweliad dros Skype neu fideo fod yn heriol, er mwyn bod yn si ŵ r i’w hosgoi. Efallai y byddwch chi’n hapus eich byd wrth godio, gall cyfweliad fideo fod yn fwy heriol nag y mae’n ymddangos, hyd yn oed i rywun sy’n graff am y byd cyfathrebu dros fideo. Darllenwch ein 7 darn o gyngor am gyfweliadau Skype, yn ogystal â chyngor ychwanegol. DROS SKYPE A FIDEO
20
21
Made with FlippingBook HTML5