Employability Student Handbook - Welsh

PROBLEMAU CYFFREDIN ERAILL

YN YSTOD YR ALWAD

5. EDRYCH AR Y CAMERA, NID CHI EICH HUN Does neb yn dweud eich bod chi’n baun, ond ceisiwch beidio ag edrych arnoch chi eich hun yng nghornel dde isaf y sgrîn. Mae’n hawdd gwneud hyn, yn enwedig mewn cyfweliad swydd pan fyddwch yn ymwybodol o sut rydych chi’n edrych ac am greu argraff dda, ond ceisiwch beidio â gwneud hynny. Mae cyfwelwyr yn debygol o sylwi ar eich symudiadau llygaid crwydrol a chymryd marciau i ffwrdd gan y byddant yn meddwl eich bod chi’n a) rhywun sy’n falch iawn neu b) rhywun sy’n hynod chwit-chwat. Yn ogystal, ceisiwch beidio â gwneud a chynnal cyswllt llygad â’r unigolyn ar y sgrîn oherwydd, er ei fod yn teimlo’n fwy naturiol i edrych yn uniongyrchol rydych chi’n siarad â nhw, yn llygad y cyfwelydd, bydd yn edrych fel eich bod chi’n syllu ar rywbeth arall. Yn lle, dylech ganolbwyntio’n bennaf ar y dot du ar eich camera neu’ch gwe-gamera wrth wneud eich cyfweliad Skype, gan mai dyma’r unig ffordd o wneud cyswllt llygad iawn â’ch cyfwelydd, er ei fod yn gyswllt llygad nad ydych chi’n sylweddoli rydych chi’n ei gael.

6. EISTEDDWCH YN SYTH Rydych chi gartref, does neb wedi’ch gorfodi i deithio am awr am gyfweliad 10 munud, rydych chi newydd gael cwpanaid berffaith o de, rydych chi’n gyffyrddus, yn hapus a dim ond yn teimlo ychydig yn nerfus. Pan fyddwch wedi ymlacio fel hyn, mae’n hawdd anghofio am eich osgo a sut rydych chi’n eistedd, ond dyma un o’r agweddau pwysicaf o ddangos iaith corff cadarnhaol. Peidiwch â diogi neu eistedd nôl yn rhy bell, a pheidiwch â chroesi eich breichiau neu bwyso ar eich desg. Byddwch yn effro, eisteddwch yn syth ac edrychwch yn barod i ateb cwestiynau. 7. SIARADWCH GYDAG EGLURDER I sicrhau na chaiff unrhyw un o’ch atebion ardderchog eu camglywed, sicrhewch eich bod yn ynganu eich geiriau’n glir. Hefyd, sicrhewch eich bod yn siarad yn ddigon uchel, ond ddim yn rhy uchel. Dydych chi ddim am i gyfwelwyr deimlo eich bod chi’n gweiddi arnynt! Yn ogystal, yn lle dibynnu ar gyfathrebu di-eiriau i fynegi cymaint o frwdfrydedd sydd gennych am y cyfle, mewn cyfweliad Skype dylech chi ganolbwyntio’n fwy ar dôn ac eglurder llafar. Os ydych chi’n gyffrous am y rôl,dylech swnio’n gyffrous. Os ydych chi’n falch o gwrdd â nhw,dywedwch hynny. Y rheswm am hyn yw bod hwn yn gyfweliad fideo ac ni fydd y cyfwelwyr yn gweld llawer o arwyddion di-eiriau, megis mynegiant wyneb ac ystumiau’r dwylo, yn aml o ganlyniad i safon fideo isel neu’r ffaith y bydd llawer o’ch ystumiau yn cael eu torri o’r llun.

technegol yn ystod y cyfweliad, peidiwch â phoeni. Os na fydd modd datrys y broblem, awgrymwch aildrefnu’r cyfweliad neu, yn achos problemau sain, awgrymwch ddefnyddio ffôn i siarad wrth barhau i ddefnyddio’r camera. Ni waeth natur y broblem, peidiwch â mynd yn grac, peidiwch â dechrau bwrw eich cyfrifiadur ac yn bendant peidiwch â dechrau rhegi, hyd yn oed os byddwch chi’n meddwl na fydd y cyfwelydd yn eich clywed!

Band eang isel – gall hyn wneud i’ch camera rewi yn annisgwyl a rhoi ansawdd fideo isel i chi. Swˆ n yn y cefndir – bydd hyn yn swnio’n llawer uwch i’ch cyfwelydd a gallai foddi eich atebion. Cofiwch wneud eich cyfweliad mewn lle tawel a chaewch y ffenestri. E-bostiwch somcareers@ abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth. Problemau technegol eraill gyda’ch camera/ seinyddion. Os bydd gennych broblemau

CYFWELIADAU DROS Y FFÔN

Yn debyg i gyfweliadau fideo, sicrhewch eich bod mewn ystafell dawel heb ymyriadau. Ceir ystafelloedd yn yr Ysgol Reolaeth y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn, felly rhowch wybod i ni os hoffech chi gadw ystafell. • Gwnewch yn si ŵ r bod gennych signal ffôn da neu defnyddiwch linell sefydlog • Cofiwch gadw’ch cais a’r disgrifiad swydd o’ch blaen er mwyn i chi allu cyfeirio atynt yn hawdd Bellach mae gennym lwyfan i ymarfer cyfweliadau ar fideo – shortlist.me E-bostiwch somcareers@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.

• Gwnewch yn si ŵ r eich bod chi wedi ymchwilio i’r cwmni. Gallwch ddefnyddio nodiadau gydag unrhyw wybodaeth allweddol o’ch blaen • Gwrandewch yn astud tra byddwch ar y ffôn a sicrhewch eich bod chi’n swnio’n gyffrous, fel cyfweliad fideo!

23

22

Made with FlippingBook HTML5