MODIWL SGILIAU CYFLOGADWYEDD – MN2000 ac MN2500
Mae Sgiliau Cyflogadwyedd yn un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf mewn addysg uwch yn y DU. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, mae cyflogwyr sy’n recriwtio graddedigion yn ymddiddori mwy mewn sgiliau meddal na sgiliau technegol. Mae’r sgiliau meddal sy’n bwysig i’r cyflogwyr hyn yn cynnwys:
PROSESAU RECRIWTIO ARALL
Cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
Arweinyddiaeth
Sgiliau gweithio mewn tîm
Hunanymwybyddiaeth a sgiliau adfyfyrio
Hyder
Gallu dadansoddi
Dro ar ôl tro, mae cyflogwyr yn dweud bod cymwyseddau, megis cyflwyno mewn gr ŵ p, gweithio’n dda gyda chydweithwyr, cyfathrebu’n fewnol ac yn allanol a datrys problemau yn bwysicach nag arbenigedd technegol, yn enwedig wrth benodi myfyriwr ar leoliad mewn diwydiant, neu rywun sydd wedi graddio’n ddiweddar. Er bod y rhan fwyaf o yrfa academaidd myfyrwyr yn canolbwyntio ar eu paratoi gyda sgiliau a chymhwysedd technegol sy’n angenrheidiol i gyflawni swydd yn foddhaol, y gwahaniaeth rhwng ymgeisydd derbyniol ac ymgeisydd eithriadol yw cymhwysedd sgiliau meddal. Mae’r farchnad swyddi i raddedigion yn gystadleuol tu hwnt, ac mae’n hanfodol y gall myfyrwyr Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ddangos y sgiliau allweddol y mae eu hangen ar gyflogwyr, gan ddisgleirio ymhlith eu cyfoedion. Lluniwyd y Modiwl Sgiliau Cyflogadwyedd i’ch arfogi â sylfaen gadarn yn y galluoedd modern y mae cyflogwyr yn rhoi’r gwerth mwyaf arnynt, sef gweithio mewn tîm, cyfathrebu, datrys problemau, agwedd broffesiynol, yn ogystal â’ch arfogi â’r sgiliau gofynnol er mwyn gwneud chwiliad swyddi llwyddiannus a chwblhau’r broses ymgeisio, fel myfyrwyr a graddedigion. Wrth atgyfnerthu eich astudiaethau, bydd y Modiwl Sgiliau Cyflogadwyedd yn eich paratoi ar gyfer camu i’r byd gwaith ar garlam a gwneud effaith gadarnhaol ar gamau cyntaf oll eich bywyd proffesiynol. Gall y rhinweddau hyn helpu ymgeiswyr i ddisgleirio wrth ymgeisio am swyddi, mewn cyfweliadau ac wrth ymgeisio ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. Maent yn cynrychioli arfau amhrisiadwy y gall myfyrwyr fynd â nhw i’r gweithle. Caiff y meini prawf canlynol eu trafod yn y modiwl:
CANOLFANNAU Asesu Digwyddiad diwrnod sy’n tueddu bod mewn canolfannau asesu lle arsylwir ar ymgeiswyr a ddewiswyd a chânt eu hasesu yn erbyn meini prawf a osodwyd gan y cwmni. Fel arfer, bydd sawl ymarfer gwahanol i chi gymryd rhan ynddynt a chewch eich asesu’n gyson drwy gydol y diwrnod. Mae’n bwysig creu argraff gyntaf dda, o’r eiliad y byddwch yn cyrraedd yr adeilad, gan sicrhau eich bod chi’n gwrtais ac yn broffesiynol i’r holl staff gan nad ydych chi’n gwybod pwy fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol! Mae’n bosib y gofynnir i chi gymryd rhan mewn tasgau gr ŵ p, cyflwyniadau, profion neu dasgau datrys problemau. I gael cyngor pwrpasol ar eich Canolfan Asesu, e-bostiwch somcareers@ abertawe.ac.uk i drefnu apwyntiad neu galwch heibio i’r Hyb Cyflogadwyedd!
CYFWELIADAU Wyneb yn wyneb Cyfweliadau wyneb yn wyneb yw’r ffurf fwyaf cyffredin o gyfweliad ac fel arfer, cânt eu cynnal ar gam olaf y broses recriwtio. Mae’n bosib y bydd nifer o bobl ar y panel yn cyfweld â chi ac mae Ymgynghorwyr Cyflogadwyedd wrth law i ddarparu’r holl gyngor a chanllawiau y bydd eu hangen arnoch cyn eich cyfweliad. Y cyfan y mae angen ei wneud yw trefnu apwyntiad gyda ni! Wyddech chi fod Prifysgol Abertawe’n cynnig bwrsariaethau cyflogadwyedd gwerth hyd at £100 i’n holl fyfyrwyr i’w helpu i gwblhau unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â chyflogadwyedd ? Ei nod yw helpu myfyrwyr i dalu am bethau megis costau mynd i gyfweliadau, canolfannau asesu a chymryd rhan mewn interniaethau tymor byr heb dâl, neu hyd yn oed i brynu cyfarpar a dillad arbenigol. E-bostiwch somcareers@abertawe.ac.uk i wneud cais!
CV
Adfyfyrio personol
Llythyr eglurhaol
Sgiliau rhwydweithio a hunangyflwyno
Ffug gyfweliad
24
25
Made with FlippingBook HTML5