Employability Student Handbook - Welsh

YSTYRIED BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT • Ymweld â ni yn yr Hyb Cyflogadwyedd • Cofrestrwch ar gyfer y Modiwl Cyflogadwyedd • Trefnwch apwyntiad gyda’r Ymgynghorwr Cyflogadwyedd i drefnu eich • opsiynau a sut i ymgeisio • Mewngofnodwch i Blackboard i weld y swyddi gwag sydd ar gael fel man cychwyn, ac ymunwch â’n grwˆp Facebook • Crëwch daenlen i gadw cofnod o’ch ceisiadau, e.e. â phwy rydych chi wedi ymgeisio, disgrifiadau swyddi, etc. • Dewch i’n Ffair Yrfaoedd, Ffair Swyddi Rhan-amser a Digwyddiadau Cyflogadwyedd drwy gydol y flwyddyn Y CAM GWNEUD CAIS • Gall y broses gwneud cais ddechrau ar ddechrau eich ail flwyddyn • Daliwch ati i wneud ceisiadau am swyddi drwy gydol y flwyddyn • Gallwch gadarnhau Blwyddyn mewn Diwydiant ar unrhyw adeg tan adeg cofrestru ar gyfer y flwyddyn ddilynol • Gwiriwch eich e-byst am swyddi gwag ‘Lleoliad yr Wythnos’ rheolaidd a swyddi arbennig ar gyfer yr Ysgol Reolaeth • Manteisiwch i’r eithaf ar ein gwasanaeth Cyflogadwyedd. Does dim cyfyngiad ar nifer yr apwyntiadau y gallwch eu cael gyda’n tîm • Cymerwch ran yn ein sesiynau ffug gyfweliad, ac ewch i’n ffug ganolfannau asesu neu apwyntiadau pwrpasol i’ch paratoi ar gyfer pob cam o’r broses recriwtio DERBYN CYNNIG O FLWYDDYN MEWN DIWYDIANT • Rhaid i chi ddweud wrth y tîm Cyflogadwyedd pan fyddwch yn derbyn cynnig • Cwblhewch yr holl ddogfennau a roddir i chi gan y tîm Cyflogadwyedd • Casglwch becyn gofal gan yr Hyb Cyflogadwyedd • Byddwn yn cysylltu â chi os oes problemau gyda’ch dogfennau • Dechreuwch chwilio am lety os yw hynny’n briodol. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwneud trefniadau personol YN YSTOD EICH BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT • Rhaid cofrestru ar-lein ym mis Medi ym Mhrifysgol Abertawe • Sicrhewch fod eich cyfeiriad yn ystod y tymor a’ch manylion cyswllt wedi’u diweddaru • Sicrhewch fod gennych gopi o’r llawlyfr Blwyddyn mewn Diwydiant • Parhewch i wirio eich e-byst gan y bydd eich Cydlynydd Cyflogadwyedd yn cysylltu â chi drwy e-bost prifysgol • Byddwch yn cael galwadau misol gyda’ch Cydlynydd a gallwch gysylltu ag ef unrhyw bryd • Fel rhan o’ch Blwyddyn mewn Diwydiant, rhaid cwblhau’r asesiadau a amlinellir yn y llawlyfr. Eich cyfrifoldeb chi yw cwblhau gwaith erbyn y dyddiadau a bennwyd CWBLHAU EICH BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT • Gwiriwch eich canlyniadau ar ddiwrnod canlyniadau i sicrhau eich bod chi wedi llwyddo • Cofrestrwch ar gyfer eich Blwyddyn Olaf ym Mhrifysgol Abertawe • Ewch i’r digwyddiad ‘Croeso nôl’ i gwrdd â myfyrwyr eraill sy’n dychwelyd a’r Tîm Cyflogadwyedd • Ceisiadau ar gyfer Ymgynghorwyr Cyflogadwyedd Myfyrwyr – gwiriwch eich e-byst prifysgol am ragor o wybodaeth am hyn

CYFLEOEDD PROFIAD GWAITH Drwy gydol eich amser yn y Brifysgol, mae llawer o gyfleoedd i chi ennill sgiliau trosglwyddadwy a phrofiadau y gallwch eu defnyddio ar Flwyddyn mewn Diwydiant neu swydd i raddedigion. Gall hyn fod ar ffurf profiadau gwaith byr, Interniaethau dros yr haf neu Swyddi Rhan-amser. Gwnewch yn siwˆ r eich bod chi’n blaenoriaethu eich gwaith academaidd, ond os bydd gennych y cyfle, gallwch fanteisio ar yr opsiynau hyn pan fydd yn gyfleus i chi. Trefnwch apwyntiad i drafod y cyfleoedd hyn drwy ymweld â’r Hyb

Cyflogadwyedd neu e-bostio somcareers@abertawe.ac.uk

CYNLLUN MENTORA

Mae’r Cynllun Mentora yn gyfle gwych arall i chi ychwanegu at eich profiad ac at eich CV. Mae’r Cynllun Mentora yn eich galluogi chi i gael eich paru â chyflogwr go iawn a fydd yn gallu cynnig cyngor ac arweiniad o ran Cyflogadwyedd. Mae hwn yn gyfle gwych i wrando ar arbenigwyr diwydiant, dysgu am eich sector a datblygu eich rhwydwaith. Yn ogystal, mae llawer o fentoriaid yn cynnig cyfle i’w cysgodi yn y gweithle. Bydd rhai sesiynau hyfforddi y mae’n rhaid i chi eu mynychu cyn dechrau ar y Cynllun ac, os oes diddordeb gennych, e-bostiwch somcareers@abertawe.ac.uk

• Ewch i’r Gwobrau Cyflogadwyedd am noson o ddathlu • Cysylltwch ar Graduway i rwydweithio â chyn-fyfyrwyr

8

9

Made with FlippingBook HTML5