EIN RHESTR FER 2024
A SPELL OF GOOD THINGS Ayòbámi Adébáyò (Canongate Books) ․ ․
Ganwyd Ayòbámi Adébàyò yn Lagos, Nigeria. Enillodd ei nofel gyntaf, Stay With Me , Wobr 9mobile am Lenyddiaeth, cafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Baileys am Ffuglen i Fenywod, Gwobr Wellcome i Lyfrau a Gwobr Llawysgrif Kwani? Fe’i cyfieithwyd i ugain o ieithoedd a dyfarnwyd gwobr y Prix Les Afriques i’r cyfieithiad Ffrangeg. Cafodd Stay With Me le ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a Gwobr Lenyddol Ryngwladol Dulyn, ac roedd yn Llyfr Gorau’r Flwyddyn yn ôl New York Times, Guardian, Chicago Tribune ac NPR . Mae Ayòbámi Adébàyò yn rhannu ei hamser rhwng Norwich a Lagos. ․ ․
@ayobamidebayo |
@ayobamidebayo
[Credyd llun: Emmanuel Iduma]
SMALL WORLDS Caleb Azumah Nelson (Viking, Penguin Random House)
Mae Caleb Azumah Nelson yn awdur ac yn ffotograffydd Prydeinig-Ghanaidd sy’n byw yn ne-ddwyrain Llundain. Enillodd ei nofel gyntaf, Open Water , Wobr Costa am Nofel Gyntaf a Nofel Gyntaf y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain, a chyrhaeddodd frig rhestr y Times o lyfrau sydd wedi gwerthu’n arbennig o dda. Hefyd, cafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times , Llyfr y Flwyddyn Waterstones, a chyrhaeddodd restr hir Gwobr Gordon Burn a Gwobr Elliott Desmond. Roedd ei ail nofel, Small Worlds yn llyfr sydd wedi gwerthu’n arbennig o dda yn ôl y Sunday Times a chafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Orwell am Ffuglen Wleidyddol. Fe’i dewiswyd gan Brit Bennett yn anrhydeddai ‘5 under 35’ ar gyfer y Sefydliad Llyfrau Cenedlaethol.
@CalebANelson |
@caleb_anelson
THE GLUTTON A.K. Blakemore (Granta)
Enillodd nofel gyntaf A.K. Blakemore, The Manningtree Witches , Wobr Desmond Elliot 2021, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Costa am Nofel Gyntaf, ac roedd yn Llyfr y Mis Waterstones. Mae hi’n awdur dau gasgliad llawn o farddoniaeth, Humbert Summer a Fondue, ac fe enillodd Wobr Ledbury Forte 2019 am yr Ail Gasgliad Gorau, ac mae hefyd wedi cyfieithu gwaith y bardd o Sichuan Yu Yoyo. Mae ei barddoniaeth a’i rhyddiaith wedi ymddangos yn y London Review of Books, Poetry, Poetry Review a White Review, ymhlith cyhoeddiadau eraill.
@akblakemore |
@barbiedreamhearse
[Credyd llun: Alice Zoo]
Made with FlippingBook HTML5