Dylan Thomas Prize Programme 2024

EIN RHESTR FER 2024

BRIGHT FEAR Mary Jean Chan (Faber & Faber)

Mary Jean Chan yw awdur Flèche (Faber & Faber, 2019), a enillodd Wobr Llyfr Costa am Farddoniaeth ac a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a Gwobr Casgliad Barddoniaeth Cyntaf Canolfan Seamus Heaney. Cyrhaeddodd Bright Fear, sef ail lyfr Chan, restr fer Gwobr Forward 2023 ar gyfer y Casgliad Gorau ac ar hyn o bryd mae ar restr fer Gwobr yr Awduron. Yn 2022, gwnaeth Chan gyd-olygu’r antholeg glodwiw 100 Queer Poems gydag Andrew McMillan. A hithau’n un o feirniaid diweddar Gwobr Booker 2023, mae Chan yn Gymrawd Barddoniaeth Judith E. Wilson ym Mhrifysgol Caergrawnt.

@maryjean_chan |

@maryjeanchan

LOCAL FIRES Joshua Jones (Parthian Books)

Mae Joshua Jones (ei/ef) yn awdur ac yn artist awtistig cwiar o Lanelli, de Cymru. Sefydlodd Dyddiau Du ar y cyd, sef gofod celf a llenyddiaeth NiwroCwiar yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd ei ffuglen a’i farddoniaeth gan Poetry Wales, Broken Sleep Books, Gutter ac eraill. Mae’n un o Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2023, ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r British Council i gysylltu awduron cwiar o Gymru a Fietnam. Local Fires yw ei gyhoeddiad ffuglen cyntaf.

@nothumanhead | [Credyd llun: Nik Roche]

@joshuajoneswrites

BIOGRAPHY OF X Catherine Lacey (Granta)

Catherine Lacey yw awdur y nofelau Nobody Is Ever Missing, The Answers a Pew, a’r casgliad o straeon byrion Certain American States. Mae hi wedi ennill Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Whiting, Gwobr Ffuglen Llewod Ifanc Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd a chymrodoriaeth Sefydliad y Celfyddydau Efrog Newydd. Mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas a Gwobr Llyfrau PEN/Jean Stein, ac fe’i henwyd yn un o Nofelwyr Ifanc Americanaidd Gorau Granta. Mae ei thraethodau a’i ffuglen fer wedi ymddangos yn The New Yorker, Harper’s Magazine, The New York Times, The Believer a mannau eraill. Fe’i ganwyd yn Mississippi, mae Catherine ar hyn o bryd yn gymrawd yng Nghanolfan Dorothy B & Lewis Cullman ar gyfer awduron ac ysgolheigion yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, ac fel arall mae wedi’i lleoli yn Ninas Mecsico.

@_catherinelacey |

@catherinelacey_ [Credyd llun: Willy Somma]

Made with FlippingBook HTML5