Y BEIRNIAD
Mae Julia Wheeler yn awdur, yn newyddiadurwr ac yn gyfwelydd a fu’n gweithio i’r BBC am bymtheng mlynedd gan gynnwys fel Gohebydd y BBC yn y Gwlff yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ac yn ymdrin â Phenrhyn Arabia. Ysgrifennodd Julia ‘Telling Tales: An Oral History of Dubai’. Mae’n cadeirio trafodaethau mewn gwyliau llenyddiaeth a gwyddoniaeth ar draws y DU ac yn rhyngwladol. A hithau’n gadeirydd y beirniaid ar gyfer Llyfr Teithio’r Flwyddyn Stanford 2024, mae Julia hefyd yn un o ymddiriedolwyr Gŵyl Lenyddol Stratford. Astudiodd Hanes Economaidd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, cyn ei hastudiaethau ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu yn City, Prifysgol Llundain.
@JuliaWheeler1
Mae Jon Gower yn gyn-ohebydd y celfyddydau a’r cyfryngau BBC Cymru sydd wedi ysgrifennu mwy na 40 o lyfrau. Mae’r rhain yn cynnwys The Story of Wales, a oedd yn cyd-fynd â chyfres deledu arloesol, llyfr teithio o’r enw An Island Called Smith ac Y Storïwr, a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn. Ei lyfr diweddaraf yw The Turning Tide: A Biography of the Irish Sea. Ar hyn o bryd, mae Jon yn ysgrifennu nofel Gymraeg hanesyddol am y fforiwr pegynol Edgar Evans, casgliad o draethodau am fynyddoedd, yn ogystal â chyfrol am Raymond Chester, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd, i’w chyhoeddi yn 2024. Mae’n byw yng Nghaerdydd. [Llun Credyd: Marian Delyth]
@JonGower1
EIN GWAHODDWR
Alan Bilton yw awdur tair nofel, The End of The Yellow House (Watermark 2020), The Known and Unknown Sea (Cillian, 2014), a The Sleepwalkers’ Ball (Alcemi, 2009), a ddisgrifiwyd gan un beirniad fel ‘Franz Kafka yn cwrdd â Mary Poppins’. Mae ef hefyd yn awdur casgliad o straeon byrion swrrealaidd, Anywhere Out of the World (Cillian, 2016) yn ogystal â llyfrau ar ffilmiau comedi mud, ffuglen gyfoes, a’r 1920au. Bu’n Ysgrifennwr ar Waith Gwyl y Gelli yn 2016 a 2017 ac mae’n addysgu ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, a ffilm ym Mhrifysgol Abertawe.
Made with FlippingBook HTML5