Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Mehefin 2023

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Gwerthusiad Terfynol Adroddiad Terfynol

Cynnwys

1. Rhagymadrodd a chyd-destun ................................................................................................... 1

2. Asesiad o fewnbynnau a gweithgareddau .............................................................................. 10

3. Asesu Themâu Trawsbynciol ...................................................................................................... 26

4. Asesiad o fuddion craidd ........................................................................................................... 31

5. Asesiad o fuddion ehangach ac asesu yn erbyn y model rhesymeg .................................. 40

6. Casgliadau ac argymhellion ..................................................................................................... 50

Annex A: Geirfa ............................................................................................................................. A-1

Annex B: Modelau rhesymeg lefel llinyn .....................................................................................B-1

Cyswllt:

Cymeradwywyd gan:

Joanne Barber

Joe Duggett

Ffôn: 0161 240 1683

Cyfarwyddwr

e-bost: jbarber@sqw.co.uk

Dyddiad: 08/06/2023

Ymwadiad Mae’r adroddiad hwn yn ystyried cyfarwyddiadau a gofynion penodol ein cleient. Nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer unrhyw drydydd parti ac ni ddylai unrhyw drydydd parti ddibynnu arno ac nid oes unrhyw gyfrifoldeb i unrhyw drydydd parti. Er bod SQW wedi defnyddio gofal a sgil rhesymol drwy’r amser, ni all warantu cywirdeb na chyflawnder y wybodaeth a ddarparwyd gan y cleient neu dry dydd parti, ac nid yw’n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ganlyniadau cyfreithiol, masnachol neu unrhyw ganlyniadau eraill sy’n deillio o’i defnyddio.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

1

1. Rhagymadrodd a chyd-destun

1.1 Penodwyd SQW Ltd (SQW) gan Brifysgol Abertawe ym mis Gorffennaf 2022 i gynnal Gwerthusiad Terfynol o weithrediad Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru. Mae hyn yn dilyn Gwerthusiadau Cychwynnol a Chanol Tymor a gwblhawyd yn 2020 a 2022 yn y drefn honno.

Ynglŷn â Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

1.2 Roedd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru ( ‘ LILW ’ ) yn weithrediad gwerth £4.95 miliwn, wedi ’ i ariannu ’ n rhannol gan ERDF o dan raglen Gorllewin Cymru a ’ r Cymoedd 2014-20. Yn benodol, ariannwyd y gweithrediad o dan Echel Blaenoriaeth 1: Ymchwil ac Arloesi, a disgwylir iddo gyflawni yn erbyn Amcan Penodol 1.1: i, “ Gwella llwyddiant sefydliadau ymchwil yng Nghymru yn denu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat ”, a’ r dangosydd canlyniadau cysylltiedig o gynnydd mewn incwm ymchwil ymhlith sefydliadau addysg uwch. 1.3 Wedi ’ i leoli yn adeilad Technium Digidol Ysgol y Gyfraith, roedd y gweithrediad yn cyfuno cyfleusterau pwrpasol newydd gydag ymchwil arbenigol ychwanegol a gallu technegol mewn tri maes: • Technoleg Gyfreithiol : yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad arloesiadau cyfreithiol, prototeipiau a phecynnau cymorth, wedi ’ u hategu gan ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol. • Seiberfygythiadau : yn canolbwyntio ar gefnogi ymchwil i wella dealltwriaeth o seiberdroseddu, grwpiau terfysgol yn ymelwa ar dechnolegau newydd, meithrin perthynas amhriodol ar-lein, gwybodaeth anghywir, newyddion ffug a defnydd troseddol o ’ r rhyngrwyd, a datblygu prototeipiau/pecynnau cymorth seiberddiogelwch/terfysgaeth. • Clinig y Gyfraith : wedi ’ i gynllunio i gefnogi ’ r agenda mynediad at gyfiawnder drwy hwyluso treialu a defnydd arloesiadau Technoleg Gyfreithiol i fynd i ’ r afael â materion cyfreithiol y byd go iawn. 1.4 Dechreuwyd y gwaith o gyflawni ’ r gweithrediad ym mis Awst 2019, gyda chyhoeddiad prosiect ffurfiol gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2019. Y dyddiad cau ar gyfer gweithrediad yw Mehefin 2023.

1.5 Roedd y gweithrediad yn cynnwys elfennau cyfalaf a refeniw:

• Cyllid cyfalaf o ERDF (£0.75 miliwn), i ariannu dylunio, caffael, ac adeiladu cyfleuster yn mesur tua 700 metr sgwâr sy ’ n cynnwys: Labordy Deallusrwydd Artiffisial yn y Gyfraith,

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

2

Canolfan Seiberfygythiadau, Canolfan Ymchwil a Datblygu Technoleg Gyfreithiol, Clinig y Gyfraith (rhannol gymwys ar gyfer cymorth ERDF 1 ), ac Ystafell Bwrdd Gweithredol.

• Cyllid refeniw o ERDF (£2.6 miliwn) a Phrifysgol Abertawe (£1.6 miliwn) i gefnogi penodi ymchwilwyr Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau, tîm datblygu meddalwedd, a thîm rheoli prosiect.

Diben a chwmpas y gwerthusiad

1.6 Yn gyson â gofynion cyllid ERDF, ymrwymodd Prifysgol Abertawe i gynnal gwerthusiad cadarn o ’ r gweithrediad. Felly, comisiynodd y Brifysgol SQW ym mis Chwefror 2020 i arwain Gwerthusiadau Cychwynnol a Chanol Tymor o ’ r gweithrediad. Yna, wedi hynny, ac ar wahân, comisiynodd y Brifysgol SQW i arwain Gwerthusiad Terfynol ym mis Gorffennaf 2022 (yr adroddiad hwn). 1.7 Wedi ’ i gwblhau ym mis Mehefin 2020, roedd y Gwerthusiad Cychwynnol yn canolbwyntio ar ddatblygu model rhesymeg/theori newid ar gyfer y gweithrediad, egluro ’ r data i ’ w gasglu i gefnogi ’ r rhaglen werthuso, a chadarnhau ’ r dull ar gyfer y Gwerthusiad Canol Tymor. 1.8 Roedd y Gwerthusiad Canol Tymor, a gwblhawyd ym mis Ionawr 2022, yn canolbwyntio ar asesu pa mor effeithiol yr oedd y gweithrediad yn dod yn ei flaen yn erbyn ei nodau ac amcanion ar bwynt interim. Ar y cyfan, roedd y canfyddiadau ar y cam Gwerthusiad Canol Tymor yn galonogol, gan ddangos cynnydd cryf mewn cyflawni ei Gynllun Busnes. Roedd y negeseuon allweddol yn cynnwys y canlynol: • roedd y gweithrediad wedi cyflawni llawer iawn o weithgarwch mewn cyd-destun heriol ac ar y cyfan roedd ar y trywydd iawn i gyflawni allbynnau a chanlyniadau yn unol â disgwyliadau • roedd pandemig Covid-19 yn anochel wedi dylanwadu ar gyflawni, gan arwain at danwariant sylweddol yn erbyn y gyllideb a ’ r angen i ailbroffilio ’ r gyllideb gan leihau cyfanswm y grant ERDF o ’ r £4 miliwn cychwynnol i £3.35 miliwn • roedd sicrhau cyllid ymchwil wedi bod yn heriol (oherwydd oedi mewn penodi staff ymchwil a chwblhau ’ r Ganolfan Seiberfygythiadau), gyda chynnydd cymedrol wedi ’ i wneud bryd hynny yn erbyn targed yr ERDF o £3.4 miliwn mewn cyllid ymchwil a sicrhawyd erbyn diwedd y gweithrediad.

1 Ffocws y prosiect mewn perthynas â Chlinig y Gyfraith oedd ariannu datblygiad y man ar gyfer profi prototeip, nid ei gylch gwaith ehangach (darparu cyngor cyfreithiol pro bono), nad yw o fewn cwmpas y prosiect sy’n gymwys ar gyfer ERDF.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

3

• roedd ystod o brosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol wedi symud ymlaen yn llwyddiannus, gan arwain at brototeipiau diriaethol i ’ w profi a ’ u gwerthuso gyda defnyddwyr, ac mewn rhai achosion platfformau a oedd ar gael i ’ w defnyddio • roedd tystiolaeth o fuddion ehangach sy ’ n dod i ’ r amlwg mewn perthynas â gwell partneriaethau, rhwydweithiau, ac ymddygiadau sy ’ n cefnogi ymchwil a datblygu cydweithredol. 1.9 Tua dwy flynedd ar ôl y Gwerthusiad Canol Tymor, diben craidd y Gwerthusiad Terfynol hwn yw rhoi asesiad o effaith y gweithrediad wrth iddo nesáu at ddiwedd ei gyfnod ERDF yn erbyn y nodau a’r amcanion a nodir yn y Cynllun Busnes. Mae hyn yn cynnwys asesiad o’r graddau y mae’r buddion a wireddwyd yn ‘ychwanegol’ o’u cymharu â’r hyn a fyddai wedi digwydd heb LILW. Mae’r Gwerthusiad Terfynol hefyd yn rhoi asesiad wedi’i ddiweddaru ar gyflawniad y gweithrediad yn erbyn Themâu Trawsbynciol (CCT) ERDF, yn ystyried beth oedd wedi gweithio’n dda a ddim cystal o ran cyflawni, ac yn ystyried goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd/blaenoriaethau’r gweithrediad ar ôl i gyfnod yr ERDF ddod i ben. 1.10 Dechreuodd y Gwerthusiad Terfynol ym mis Medi 2022, gyda gwaith ymchwil sylfaenol yn cael ei gwblhau rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023. Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio ym mis Mai 2023, cyn cwblhau ’ r gweithrediad yn ffurfiol ym mis Mehefin 2023. Felly, mae ’ r Gwerthusiad Terfynol yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd wrth i ’ r gweithrediad ddod i ben, ond tra bod y gweithgarwch yn parhau. Mae angen cofio hyn wrth ystyried y dystiolaeth ar gynnydd yn ymwneud â gwariant a chyflawni dangosyddion targed ERDF, a ’ r canlyniadau ac effeithiau terfynol ehangach.

Methodoleg y gwerthusiad

Model rhesymeg

1.11 Mae modelau rhesymeg yn ddyfeisiadau defnyddiol i lywio gwerthusiad, oherwydd eu bod yn annog meddwl am y camau sydd eu hangen er mwyn i ymyriad gael yr effeithiau a ddymunir, a natur yr effeithiau y gellir eu cwmpasu mewn gwerthusiad. Mae model rhesymeg yn mynegi ’ n benodol y berthynas rhwng mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau, canlyniadau ac effeithiau:

• mewnbynnau yw ’ r adnoddau a ddefnyddir gan yr ymyriad, gan gynnwys cyllid ERDF

• gweithgareddau yw ’ r tasgau hynny a gyflawnir gan yr ymyriad

• allbynnau yw canlyniadau hawdd eu mesur o ’ r gweithgareddau hynny

• canlyniadau yw ’ r newidiadau mewn ymddygiad a pherfformiad y rheini sy ’ n ymwneud ag ymyriad

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

4

• effeithiau yw ’ r buddion terfynol y gellir eu priodoli i ’ r ymyriad a newidiadau mewn amodau ehangach, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

1.12 Mae modelau rhesymeg hefyd yn nodi ’ r ffactorau allanol y disgwylir iddynt ddylanwadu ar weithgarwch (naill ai ’ n gadarnhaol neu ’ n negyddol), ac felly ar wireddu ’ r allbynnau, y canlyniadau a ’ r effeithiau a ragwelir. 1.13 Mae ’ r model rhesymeg a ’ r naratif cysylltiedig ‘ theori newid ’ a ddatblygwyd yn ystod y Gwerthusiad Cychwynnol (ac sy ’ n adlewyrchu ’ r sefyllfa cyn i ’ r prosiect ddechrau) wedi ’ u nodi isod. Mae ’ r Gwerthusiad Terfynol hwn yn ceisio profi ’ r model rhesymeg a ’ r theori newid sylfaenol, yn enwedig i ba raddau y mae LILW wedi cyflawni ’ r allbynnau, y canlyniadau a ’ r effeithiau a ragwelwyd.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

5

Theori newid ar gyfer LILW Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe, yn ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer ymchwil i seiberfygythiadau, ac yn sefydliad blaenllaw yn y DU ym maes ymchwil ac arloesi Technoleg Gyfreithiol sy ’ n dod i ’ r amlwg. Mae defnydd technolegau megis deallusrwydd artiffisial a ’r gadwyn flociau yn dod yn fwyfwy pwysig mewn ymarfer cyfreithiol a diogelwch cenedlaethol. Fodd bynnag, mae rhwystrau seilwaith presennol a chyfyngiadau capasiti yn Ysgol y Gyfraith yn rhwystr i ’ r Brifysgol fynd ar drywydd pellach ymchwil sy ’ n arwain y byd a sicrhau incwm ymchwil cystadleuol ar draws disgyblaethau Technoleg Gyfreithiol a seiberfygythiadau. Nid oes gan Ysgol y Gyfraith unrhyw gyfleusterau ar hyn o bryd i gefnogi arloesi cyfreithiol, ymchwil mewn gwybodeg gyfreithiol neu ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn cyd-destun cyfreithiol, na ’ r cyfleusterau sydd eu hangen i weithio ar ddata diogel neu sensitif, nac i gyfarfod mewn amgylchedd diogel â phartneriaid o faes gorfodi ’ r gyfraith neu asiantaethau diogelwch rhyngwladol. Hefyd, nid oes gan y Brifysgol gapasiti ymchwil ar draws y gwasanaethau cyfreithiol, y gwyddorau cymdeithasol cyfrifiannol, a ’ r sbectrwm seiber/gwrthderfysgaeth. Bydd LILW yn galluogi Ysgol y Gyfraith i wella ei safle blaenllaw yn rhyngwladol mewn Technoleg Gyfreithiol, seiberfygythiadau a thechnolegau cysylltiedig (deallusrwydd artiffisial, cadwyn flociau ac ati), gan gyflymu arloesedd ac ymchwil ar gyfer academyddion a sefydliadau sector ledled Cymru, gan gyfrannu at recriwtio a chadw talent academaidd yng Nghymru, a chefnogi datblygiad sector Technoleg Gyfreithiol cadarn a bywiog yng Nghymru ochr yn ochr â’r agenda mynediad at gyfiawnder. Bydd LILW yn rhoi mantais gystadleuol sylweddol i Abertawe o ran sicrhau incwm ymchwil cystadleuol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Bydd yr effeithiau cadarnhaol hyn yn cael eu cyflawni drwy ddatblygu canolfan LILW bwrpasol yn adeilad Technium Digidol Ysgol y Gyfraith. Ategir hyn gan ehangiad y gallu ymchwil a thechnegol presennol drwy recriwtio ymchwilwyr ychwanegol a thîm datblygu meddalwedd DevOps i weithio gyda phartneriaid academaidd a masnachol i ddylunio, datblygu a gweithredu datrysiadau meddalwedd. Hwylusir ymgysylltu â phartneriaid allanol drwy benodiad Swyddog Ymgysylltu Technoleg Gyfreithiol, a chyllid i alluogi ymchwilwyr i nodi, cwmpasu a chyflwyno ceisiadau grant a sicrhau cyllid ymchwil cystadleuol.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

6

Ffigur 1-1: Model rhesymeg lefel gweithredu

Gweithgareddau

Effeithiau

Cylch gwaith

Cyd-destun a rhesymeg • Mae Ysgol y GyfraithPrifysgolAbertawe yn ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer ymchwil i seiberfygythiadau, ac yn sefydliad sy’n arwain y DU ym maes ymchwil ac arloesi TechnolegGyfreithiol sy’n dod i’r amlwg. • Fodd bynnag, mae rhwystrau a chyfyngiadauo ran capasiti yn atalyr Ysgol rhagmanteisio i’r eithaf ar ei photensial ➢ nifer yr ymchwilwyr mewn disgyblaethau technoleg gyfreithiol perthnasol ➢ arbenigeddtechnegola datblygu meddalweddi brototeipioa phrofi datrysiadau technegol ➢ cyfyngiadau ffisegol, heb ddigon o le ar gyfer gweithgareddau ymchwil a datblygu cydweithredol, ac ymchwil i seiberfygythiadau • Adnoddaua chapasiticyfyngedigyn sector cyfreithiolCymru i fuddsoddimewn, a mabwysiadu, technolegau’r genhedlaeth nesafi gefnogitwf masnachola gwell darpariaeth gwasanaethau cyfreithiol. Amcanion strategol trosfwaol • Cynyddu llwyddiant sefydliadau ymchwil Cymru o ran denucyllid ymchwil cystadleuola phreifat(BlaenoriaethERDF 1, SO1) • Sefydlu cyfleuster ymchwil arbenigol pwrpasol, wedi’i leoli o fewnYsgol y Gyfraithehangacha fyddyn ➢ ysgogi datblygiad sector Technoleg Gyfreithiolcadarna bywiog yng Nghymru, gan sicrhau effaith economaidda galluogitwf yn sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru ➢ cefnogi datblygiad pecynnau cymorth sy’n gwella busnesy gyfraitha mynediad at gyfiawnder, gan sicrhau effeithiau cymdeithasol ➢ galluogi datblygiad platfformau a fframweithiau technolegol i gefnogi gwaith gwrthderfysgaeth, amddiffyn a diogelwch ➢ meithrin cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol a diwydiannol.

Mewnbynnau Cyfanswm cyllid prosiect o £5.6 miliwn • Cyllid cyfalaf ➢ ERDF: £1.2 miliwn • Cyllid refeniw ➢ ERDF: £2.8 miliwn ➢ Prifysgol Abertawe: £1.6 miliwn Buddsoddiad cyfalaf , yn y gwaith o gwmpasu, dylunio, caffael ac adeiladu Canolfan Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru sy’n cwmpasu tri llinyn cyfansoddol ➢ Llinyn 1: Technoleg Gyfreithiol, Labordy Deallusrwydd Artiffisial yn y Gyfraith, Canolfan Ymchwil a Datblygu Cyfreithiol, ac Ystafell y Bwrdd Gweithredol ➢ Llinyn 2: Clinig y Gyfraith, cyfleuster Clinig y Gyfraitha ariennir yn rhannol ➢ Llinyn 3: Seiberfygythiadau, Canolfan Ymchwilio i Seiberfygythiadau ➢ • Penodi staff ymchwil (x7.6 FTE), ar draws meysydd TechnolegGyfreithiol (Llinyn 1) a Seiberfygythiadau (Llinyn Gweithgareddau • 3), i gyflawni ymchwil ary cyd â phartneriaid, a gwneud caisam, a sicrhau, cyllid ymchwil o ffynonellau cystadleuol (cyhoeddus a phreifat). • Penodi Tîm Datblygu Meddalwedd (x3 FTE) i ddatblyguprototeipiauargyfer cynhyrchiona gwasanaethautechnoleg gyfreithiolnewydd ac arloesol, gan weithio ar draws y tri Llinyn (gan gynnwys cefnogi treialu prototeipiau Technoleg GyfreithiolyngNghlinig y Gyfraith). • Penodi tîm rheoli prosiect i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus, gan gynnwys Rheolwr Prosiecta SwyddogYmgysylltu Technoleg Gyfreithiol • Gweithgareddau Themâu Trawsbynciol yn y camauadeiladua gweithredu •

Dangosyddion ERDF • Gwell cyfleusterau seilwaith ymchwil • Ymchwilwyr yn gweithio mewn cyfleusterau seilwaith ymchwil gwell • Ymchwilwyr newydd mewn endidau a gefnogir • Partneriaid yn cydweithredu ar brosiectau ymchwil • Cyllid ymchwil wedi’i sicrhau

… a fydd yn cael ei wireddudrwy bob un o dri Llinyn gweithgarwch prosiect

Allbynnau a chanlyniadau ehangach • Buddion academaidd , gan gynnwys datblygiadau mewn disgyblaethau perthnasol, datblygu prototeipiau a phecynnaucymorth, gwell canlyniadau ymchwil ac addysgu, gwell enw da i Ysgol y Gyfraith • Buddiannau busnes a chymdeithasol , gan gynnwys datblygu cysyniadau/syniadau ar gyfer cymwysiadau technoleg newydd, trosglwyddiad gwybodaeth yn arwain at gyfleoedd masnacheiddio ôl-ymgysylltu, cefnogigwell mynediad at gyfiawnderi gymunedau, a chyfraniad at gyfundrefnaupolisi a diogelwch • Buddiannau cydweithredu , gan gynnwyspartneriaethaunewydda gwell, ymddygiadau cydweithredu gwell â diwydianta chanolfannauymchwil eraill, a datblyguecosystemauary groesffordd rhwng y gyfraitha thechnoleg

… a fydd yn amrywio o ran ffocwsa chwmpasar draws y tri Llinyn gweithgarwch prosiect

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

7

Tybiaethau allweddol sy’n sail i’r Theori Newid

Prosiect cyfan  Recriwtio a chadw academyddion/staff o staff o safon uchel gyda’r arbenigedd angenrheidiol  Dealltwriaeth ymhlith rhanddeiliaid/partneriaid o’r hynsydd a’r hyn nad sydd yn dod o fewn cylchgwaith LILW  Ffynonellaudigonolo incwm ymchwil ac arloesiac, yn gysylltiedigâ hyn, nifer digonolo geisiadaullwyddiannusam gyllid ymchwil wedi’u sicrhau gan LILW  LILW yn cynniggalluoeddsydd ar flaeny gad o ran ymchwil ac arloesiym maes TechnolegGyfreithiol/seiberfygythiadaudrwy gydol y broses o gyflawni prosiectau a thu hwnt. Bydd cynaliadwyedd tymor hwy LILW a’i allu i gyflawni canlyniadau terfynol yn gofyn am fuddsoddiadychwanegol i sicrhau bod staff yn cael eu cadw a bod y cyfleuster/offer yn parhau i gael ei gynnal a’i gadw a’i ddiweddaru.  LILW yn rhan annatod o leoliadstrategola blaenoriaethauYsgol y Gyfraith ehangachac yn cyd-fyndâ nhw, gan sicrhau cefnogaethstrategol ac ymrwymiad gan arweinyddiaeth  Diddordeb, galw a diwylliant cydweithio trawsddisgyblaethol gyda disgyblaethau a chanolfannau ymchwil eraill y brifysgol  Galwganddiwydiantam gydweithioarymchwil gydaLILW  Ymgysylltiadgan y sylfaenymchwil ehangacha diwydianti ddefnyddioa chymryd rhanmewn ymchwil ar y cydâ LILW  Perthynas/synergeddau effeithiol rhwng tri llinyn y prosiect (Technoleg Gyfreithiol, Seiberfygythiadau, a Chlinig y Gyfraith) sy’n atgyfnerthueigilyddac ynrhoicyflear gyfer gweithgarwchtraws-linyn  Bydd dolenni adborth, gyda chyllidpellach yn deillio o gyfleoedda chydweithrediadau newydd, canfyddiadau yn arwain at weithgaredd ymchwil pellach, a newidiadau yn ymddygiad ac agweddau staff yn arwain at weithgareddau a chyfleoedd newydd Technoleg Gyfreithiol  Parodrwydd a chapasitio fewn y gymuned gyfreithioli archwilio/mabwysiadu TechnolegGyfreithiol  Ecosystem/isadeiledd lleol sy’n cefnogi busnesau newydd  Amodau economaidd sy’n cefnogientrepreneuriaetha buddsoddiadmewn technolegaunewydd Seiberfygythiadau  Ymgysylltiadgan bartneriaido asiantaethau gorfodi’r gyfraith neu asiantaethaudiogelwchrhyngwladol  Seilwaithac arbenigeddyn cyd-fynd â’r heriau seiberfygythiadau presennol  Canolfanymchwil yn darparulefelddigonolo ddiogelwch – yn gysonag unrhywofynioncyfreithiolneu reoleiddiolangenrheidiol – i alluogi gweithgarwch holiad data /cydweithredu ar y safle Clinig y Gyfraith  Y gymuned wedi’i sicrhau bod Clinig y Gyfraith yn cynnig arbenigedd proffesiynolyn y gyfraith  Mae gan bartneriaid (cyrff anllywodraethol, elusennau, cwmnïau cyfreithiol) y capasiti i gymryd rhan mewn cydweithrediadau  Galw cyson am gyngorcyfreithiolgan y Clinigdrwy gydol y ddarpariaethi gefnogitreialuarloesiadau Ffactorau allanol yn dylanwadu ar ganlyniadau  Oedi annisgwyl i gyflawniad y prosiectau oherwydd COVID-19; gan gynnwys oedi wrth recriwtiostaff, adeiladu’r ganolfan ymchwil i seiberfygythiadau (sydd bellach i’w chwblhau yn gynnar yn 2021 yn hytrach na haf 2020 fel y cynlluniwyd) a gallu’r prosiect i gyflawni prosiectau cydweithredol.  Bydd amodau economaidd ehangach (yn enwedig yng nghyd-destun COVID-19) a’r agendâu polisi/rheoleiddio yn dylanwadu ar lefelau capasiti’r diwydiant a’r galwam ymchwil ac arloesi cydweithredol.  Blaenoriaethu cyllid ymchwil ac arloesi a lefel y gystadleuaeth , gan gynnwys blaenoriaethau’r CyngorYmchwil / UKRI a phenderfyniadau buddsoddi sy’n ymwneud â thechnoleg gyfreithiol, seiberfygythiadau a disgyblaethau cysylltiedig.  Buddsoddiadau mewn cyfleusterau cyfatebol mewn mannau eraill , a fyddyn effeithioar y graddauy mae LILW yndarparu cynnig unigryw i gydweithwyr a diwydiant. Gall buddsoddiadausylweddol gan gystadleuwyr yng Nghymru/DU effeithioar allu’r prosiect i sicrhau cyllid ymchwil cystadleuol, a chadw a denu talent, ond bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i gydweithio  Bydd ymadawiad y DU â’r UE yn newid mynediad at gyllidymchwil a symudiad pobl; gall hyn ddylanwadu ar allu’r prosiect i recriwtioa chadw staff dawnus, a chyfranogiadmewn rhaglenniymchwil a ariennir ganyr UE. Yn gysylltiedigâ hyn, mae angen cwblhau prosiectaua ariennirgan WEFO erbyn mis Mehefin 2023 gan adael dim lle i newid dyddiadgorffen y prosiect.  Nid yw LILW wedi’i leoli yn Llundain – ‘ canolfan gyfreithiol ’ y DU – felly gall fod yn herioldenu academyddion o safon uchel a diddordeb cenedlaethol/rhyngwladol gan randdeiliaid

Ffynhonnell: SQW

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

8

Ffynonellau tystiolaeth

1.14 Defnyddiodd y Gwerthusiad Terfynol ddulliau cymysg, gan gynnwys ymchwil desg a chynradd. Roedd yr ymchwil desg yn cynnwys adolygu dogfennau ’ r prosiect, a dadansoddi data a oedd yn cynnwys data monitro, gwariant, a pherfformiad yn erbyn targedau. Roedd y data monitro diweddaraf a gyflwynwyd gan LILW ac a gymeradwywyd gan WEFO ar gael ar gyfer y Gwerthusiad Terfynol yn cwmpasu ’ r cyfnod hyd at Ionawr 2023. 1.15 Rhannwyd yr ymchwil sylfaenol yn bum llinyn (gweler Tabl 1-1). Ymgynghorwyd â 38 o unigolion ar gyfer y gwerthusiad, gan roi sylfaen dystiolaeth eang a chadarn, ac ystod eang o wahanol safbwyntiau gyda gwahanol fathau/lefelau o ymgysylltu â ’ r gweithrediad.

Tabl 1-1: Ymchwil cynradd Llinyn ymchwil

Prif feysydd ffocws

Rheoli prosiect ac arweinyddiaeth (x7)

Ymgynghoriadau â rheolwyr prosiect ac arweinwyr

• Perfformiad cyffredinol LILW yn erbyn nodau ac amcanion gwreiddiol

• Effeithiolrwydd prosesau rheoli a monitro LILW

• Canlyniadau ac effeithiau, gan gynnwys unrhyw effeithiau nas rhagwelwyd

• Gwersi a myfyrdodau ar gyflawni yn erbyn CCT

• Gwersi allweddol a ddysgwyd o gyflawni a goblygiadau ar gyfer y dyfodol

Academyddion / ymchwilwyr LILW (x13)

Ymgynghoriadau ag academyddion ac ymchwilwyr, yn cwmpasu meysydd Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau

Rôl a natur y gweithgarwch a wneir

• Effeithiau LILW ar weithgarwch ymchwil a chyllid

Effeithiau LILW ar gydweithio

Buddion personol ac ehangach LILW

• Gwersi a myfyrdodau ar gyflawni yn erbyn CCT

• Gwersi allweddol a ddysgwyd o gyflawni a goblygiadau ar gyfer y dyfodol

Timau datblygu meddalwedd (x4)

Ymgynghoriadau â ’ r Datblygwr Arweiniol a ’ r tri Datblygwr presennol

Rôl a natur y gweithgarwch a wneir

• Gwersi a myfyrdodau ar gyflawni yn erbyn CCT

• Gwersi allweddol a ddysgwyd o gyflawni a goblygiadau ar gyfer y dyfodol

Partneriaid yn cydweithio mewn

Ymgynghoriadau â phartneriaid sy ’ n cydweithio mewn prosiectau ymchwil gyda ’ r gweithrediad gan gynnwys sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a ’ r trydydd sector

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

9

Llinyn ymchwil

Prif feysydd ffocws

prosiectau ymchwil (x5)

• Cefndir/rhesymeg ar gyfer ymgysylltu â LILW

Natur y gweithgarwch a wneir gyda LILW

• Buddion a welwyd / sy’n d disgwyliedig o ganlyniad i ’ r ymgysylltu

• Ychwanegolrwydd mewn gweithgarwch a chanlyniadau

Myfyrdodau a gwersi allweddol

• Blaenoriaethau ar gyfer LILW yn y dyfodol

Rhanddeiliaid strategol (x9)

Ymgynghoriadau â rhanddeiliaid mewnol (x7) ac allanol (x2), gan gynnwys cynrychiolwyr o adrannau/sefydliadau (eraill) ym Mhrifysgol Abertawe, ac ymgyngoreion allanol o sefydliadau eraill

• Ymgysylltu â LILW, ac unrhyw fuddion a wireddwyd

Aliniad strategol

• Beth sydd wedi gweithio ’ n dda a beth na weithiodd cystal yn gyffredinol

• Blaenoriaethau ar gyfer LILW yn y dyfodol

Ffynhonnell: SQW

Strwythur yr adroddiad

1.16 Mae gweddill yr adroddiad wedi ’ i strwythuro yn y modd canlynol:

• Adran 2: Asesiad o fewnbynnau a gweithgareddau

• Adran 3: Asesiad o Themâu Trawsbynciol

Adran 4: Asesiad o fuddion craidd

• Adran 5: Asesiad o fuddion ehangach ac asesiad yn erbyn y model rhesymeg

Adran 6: Casgliadau ac argymhellion

1.17 Mae dau atodiad ategol: geirfa a modelau rhesymeg ar lefel llinyn.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

10

2. Asesiad o fewnbynnau a gweithgareddau

Trosolwg o gamau cyflawni

2.1 Dechreuodd y gweithrediad ym mis Awst 2019, gyda chyhoeddiad prosiect ffurfiol gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2019. Mae llinell amser sy’n dangos y cerrig milltir gwirioneddol a ’ r rhai arfaethedig ar gyfer y gweithrediad i ’ w gweld yn Ffigur 2-1. Ar y cyfan, mae ’ r amseriadau wedi aros yn fras fel y nodir yn y Cynllun Busnes gwreiddiol, gyda dau eithriad nodedig (trafodir y rheswm am hyn isod):

• cyflawni elfennau o ’ r seilwaith ffisegol, gyda chwblhau ’ r Ganolfan Seiberfygythiadau wedi ’ i ohirio am dros flwyddyn rhwng haf 2020 a gaeaf 2021

• roedd disgwyl i ’ r broses recriwtio staff gael ei chwblhau erbyn mis Medi 2020. Fodd bynnag, roedd heriau recriwtio yn golygu, yn ymarferol, nad oedd cwmpas llawn y penodiadau wedi ’ u gwneud erbyn hynny, ac roedd recriwtio ’ n parhau am lawer o oes y gweithrediad.

Ffigur 2-1: Llinell amser cerrig milltir allweddol ar gyfer LILW

Ffynhonnell: Manipiwleiddiad SQW o ddogfennaeth prosiect a thystiolaeth ymgynghori

Gwariant

2.2 Y gyllideb wreiddiol ar gyfer y gweithrediad oedd £5.6 miliwn, a oedd yn cynnwys £4.0 miliwn gan ERDF ac £1.6 miliwn mewn arian cyfatebol gan Brifysgol Abertawe. Fodd bynnag, erbyn canol 2021, gan nesáu at ddwy flynedd i mewn i’r gwaith gyflawni, roedd y prosiect wedi tanwario’n sylweddol o’i gymharu â’r proff il, yn bennaf oherwydd:

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

11

• oedi wrth adeiladu ’ r cyfleusterau Seiberfygythiadau ynghyd â chostau adeiladu is na ’ r disgwyl

• effaith heriau recriwtio ar wariant refeniw

• effaith y cyfyngiadau cysylltiedig â Covid-19 (e.e. ar gostau teithio / digwyddiadau).

2.3 Nododd y gweithrediad ystod o ddulliau i reoli’r tanwariant gan gynnwys cyflwyno llinyn newydd o weithgarwch (‘platfform Technoleg Gyfreithiol Rhithwir’), a newidiadau i’r strwythur staffio (gweler isod am ragor o fanylion). Fodd bynnag, ystyriwyd hefyd bod angen cytuno ar ailbroffilio gyda WEFO o ystyried maint y tanwariant. Cymeradwyodd WEFO yr ailbroffilio ym mis Medi 2021. O ganlyniad, gostyngodd cyfanswm ymrwymiad cyllid cyfalaf ERDF y gweithrediad gan £1.2 miliwn i £0.75 miliwn (gweler Tabl 2-1). Nid chafodd y gwariant refeniw ei ailbroffilio, er bod cyllid cyfatebol Prifysgol Abertawe wedi gostwng ychydig oherwydd gostyngiad yn y gyfradd safonol 2 .

Tabl 2-1: Cyfanswm y costau a ragwelwyd yn wreiddiol ac wedi ’ r ailbroffilio Cyfanswm y gyllideb wreiddiol

Cyfanswm cyllideb wedi ’ r ailbroffilio

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Abertawe

ERDF

Cyfanswm

ERDF

Cyfanswm

Cyfalaf

£1.2m

-

£1.2m

£0.75m

-

£0.75m

Refeniw

£2.8m

£1.6m

£4.4m

£2.60m

£1.58m

£4.18m

Cyfanswm

£4.0m

£1.6m

£5.6m

£3.35m

£1.58m

£4.93m

Ffynhonnell: Cynllun Busnes, Medi 2019, ac Adendwm ailbroffilio, Medi 2021

2.4 Erbyn y Gwerthusiad Canol Tymor, roedd y gwariant gwirioneddol (ym mis Hydref 2021) yn £1.6 miliwn, ychydig yn is na ’ r gwariant a gynlluniwyd erbyn hynny (8% yn is na ’ r gyllideb wedi ’ i hailbroffilio). Bryd hynny, roedd y rhan fwyaf o ’ r gwariant a oedd yn weddill yn wariant refeniw ar gostau staffio. 2.5 Ar y cam Gwerthusiad Terfynol hwn, erbyn Ionawr 2023, roedd y gwariant cymwys cyffredinol yn £3.7 miliwn, gyda thanwariant o 13% yn erbyn y gwariant arfaethedig o £4.26 miliwn. Mae hwn yn danwariant sylweddol, mewn termau cyfanredol, tua £560k.

2.6 Mae Tabl 2-2 yn rhoi dadansoddiad o wariant fesul categori. Ym mis Ionawr 2023, roedd y tanwariant wedi ’ i ddatgan mewn termau cyfanredol ar wasanaethau proffesiynol a TGCh.

2 Sylwer, arhosodd swm arian cyfatebol Prifysgol Abertawe ar gyfer staff yr un fath. Fodd bynnag, gostyngodd yr ymrwymiad cyfradd safonol (categori wedi ’ i symleiddio ar gyfer costau anuniongyrchol ar 25% ar holl gostau refeniw'r gweithrediad) gan adlewyrchu'r gostyngiad yng nghyfanswm y gyllideb refeniw.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

12

Mae ’ r Adroddiad Cynnydd diweddaraf (Tachwedd 2022-Ionawr 2023) yn nodi mai ’ r prif resymau dros y tanwariant ar draws y ddau gategori yw:

• Mae gwariant gwasanaethau proffesiynol yn is na ’ r gyllideb yn bennaf oherwydd oedi wrth ddatblygu ’ r platfform Technoleg Gyfreithiol Rithwir. Hefyd, bu oedi gyda chaffael a gweithredu Amgylchedd Ymchwil Ymddiried (TRE) Amazon ac nid oedd hyn wedi ’ i hawlio eto. • Mae gwariant TGCh yn is na ’ r gyllideb oherwydd bydd TRE Amazon sy ’ n cael ei gaffael ar gyfer y PASF yn cael ei hawlio o dan y pennawd Costau Gwasanaethau Proffesiynol, yn hytrach na TGCh fel y cynlluniwyd. Yn dilyn gweithredu ’ r TRE yn hwyrach na ’ r disgwyl, bydd y gweithrediad wedyn yn gallu caffael y caledwedd angenrheidiol.

Tabl 2-2: Gwariant i fis Ionawr 2023 (£000au) Cyfanswm gwariant i Ionawr 2023 Cyllideb i Ionawr 2023

Amrywiant i Ionawr 2023

Canran y gyllideb a wariwyd i Ionawr 2023

Ystadau

739

745

7

99%

TGCh

137

249

112

55%

Staff

2,200

2,219

19

99%

Gweinyddu

51

51

0

100%

Marchnata / Hyrwyddo

19

57

38

33%

Teithio

9

16

7

56%

Costau Hyfforddi

3

8

5

35%

Gwasanaethau Proffesiynol

31

211

180

15%

Cyfradd Safonol

508

703

195

72%

Cyfanswm

3,696

4,259

563

87%

Ffynhonnell: Amrywiad LILW yn ôl Hawliad (yn cynnwys ERDF a chyllid cyfatebol Prifysgol Abertawe)

2.7 Mae Error! Reference source not found. yn dangos yr amrywiad rhwng gwariant cronnol gwirioneddol a gwariant a gyllidebwyd fesul cyfnod hawlio. Hyd at y pwynt ailbroffilio ym mis Medi 2021, roedd tanwariant cyson a sylweddol. Yn gadarnhaol, ers yr ailbroffilio, mae gwariant gwirioneddol wedi alinio ’ n agosach ar y cyfan â ’ r gwariant arfaethedig. Fodd bynnag, wedi dweud hyn, bu tanwariant cyson a sylweddol (o 13% i 19% mewn tanwariant) ers adeg y Gwerthusiad Canol Tymor. Er bod hyn yn dilysu ’ r achos dros yr ailbroffilio ar

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

13

ddiwedd 2021, mae ’ n awgrymu nad oedd y proffil ariannol diwygiedig ar gyfer gweithredu yn gwbl realistig ac yn gyflawnadwy dros 18 mis olaf y cyflawni.

Ffigur 2-2: Gwariant cronnol gwirioneddol yn erbyn cyllideb fesul cyfnod hawlio

Ffynhonnell: Dadansoddiad SQW o ddata gan LILW

2.8 Mae ’ r data hyd at ddiwedd mis Ionawr 2023 yn awgrymu, o gyfanswm cyllideb LILW o tua £4.9 miliwn, y bydd angen tua £1.2 miliwn o wariant yn ystod pum mis olaf y cyfnod gweithredol. Y disgwyliad gan y tîm rheoli prosiect oedd na fyddai hyn yn cael ei wario ’ n llawn, a rhagwelir tanwariant o tua £800k. Yn ôl categori gwariant, gwasanaethau proffesiynol, TGCh, a staff sy ’ n debygol o gyfrif am y gwariant gwarged mwyaf mewn termau cyfanredol. Fodd bynnag, bydd angen cadarnhau hyn yn dilyn cau ’ r gweithrediad yn ffurfiol ym mis Mehefin 2023.

Gweithgareddau

Adeiladu ’ r seilwaith ffisegol

2.9 Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu seilwaith ffisegol yn 2019. Agorodd Clinig y Gyfraith ac Ystafell Bwrdd Gweithredol ym mis Medi 2019, a dilynwyd hynny gan gyfleusterau arloesi Technoleg Gyfreithiol ym mis Mawrth 2020; sy ’ n cynnwys Labordy Deallusrwydd Artiffisial yn y Gyfraith, a Chanolfan Ymchwil a Datblygu Technoleg Gyfreithiol yn y drefn honno.

2.10 Fel y nodwyd yn y Gwerthusiad Canol Tymor, aeth y gwaith o adeiladu ’ r Ganolfan Seiberfygythiadau ar ei hôl hi o ran yr amserlen, ac effeithiwyd ar hyn gan bandemig Covid-

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

14

19, a chyfyngiadau cysylltiedig. Yn ogystal, arweiniodd heriau caffael a chymhlethdod cynllunio ’ r man i gadw at statws Cyfleusterau Diogel a Sicrheir gan yr Heddlu (PASF) at oedi hefyd. Cwblhawyd y gwaith o adeiladu ’ r Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau yn llwyddiannus ym mis Rhagfyr 2021. Roedd hyn tua blwyddyn yn hwyrach na ’ r disgwyl. Fodd bynnag, o ystyried yr heriau cysylltiedig â ’ r pandemig (yn uniongyrchol mewn perthynas ag adeiladu, ac yn anuniongyrchol o ran effeithiau a phwysau ar batrymau gwaith ac ymddygiadau), a ’ r angen i sicrhau bod manyleb y cyfleuster yn bodloni safonau PASF (a fydd yn hollbwysig yn yr hirdymor, gan alluogi ’ r Brifysgol i drin data diogel neu sensitif), ni ystyrir bod hyn yn afresymol.

2.11 Ar adeg y Gwerthusiad Terfynol hwn, mae proses achredu PASF yn mynd rhagddi, a disgwylir asesiad allanol ar gyfer yr achrediad ym mis Mehefin 2023. Sefydlwyd gweithgor i gefnogi ’ r broses; fodd bynnag, cafodd hyn ei atal dros dro oherwydd newid yn y Rheolwr Prosiect yn ystod haf 2022. Yn dilyn hynny, oherwydd maint y gwaith sydd ei angen i sicrhau ’ r achrediad, ceisiodd y gweithrediad recriwtio Swyddog Data a Chydweithredu yn hwyr yn 2022 i ysgogi gweithrediad y PASF. Fodd bynnag, ni chanfuwyd unrhyw ymgeiswyr addas ac ni chafodd y swydd ei llenwi, a arweiniodd at oedi pellach. Ym mis Chwefror 2023, cwblhawyd gweithrediad

Mae [y Ganolfan Sieberfygythiadau] yn ein helpu i fod yn unigryw. Mae gennym nodweddion diogelwch cryf, ac mae hyn yn helpu i wneud Abertawe yn lle da i gynnal ymchwil data sensitif iawn

platfform cwmwl (Amgylcheddau Ymchwil y Gellir Ymddiried Ynddo (TRE) Amazon). Ar hyn o bryd (Mai/Mehefin 2023) mae ’ r ffocws ar ddatblygu ’ r prosesau, y polisïau, a ’ r cydweithio angenrheidiol sydd eu hangen ymhlith rhanddeiliaid, cyn yr asesiad allanol. Mae delweddau o ’ r cyfleusterau i ’ w gweld yn Ffigur 2-3 isod. 2.12 Dywedodd ymgyngoreion fod yr oedi mewn cwblhau ’ r Ganolfan Seiberfygythiadau wedi arwain at rai effeithiau andwyol ar y canlyniadau a wireddwyd gan y gweithrediad erbyn y cam hwn; yn syml, nid yw ymchwilwyr eto wedi gallu sicrhau a chyflawni prosiectau sy ’ n gofyn am ddefnyddio data sensitif iawn y bydd y cyfleusterau ’ n ei ganiatáu. 2.13 Fodd bynnag, yn gadarnhaol, amlygodd ymgyngoreion y bydd yr achrediad yn rhoi cynnig nodedig a gwahaniaethol i Brifysgol Abertawe o gymharu â sefydliadau sy’n cystadlu â hi, a fydd o werth sylweddol dros y tymor hwy o ran sicrhau grantiau ymchwil ac ymgysylltu â phartneriaid allweddol ar draws meysydd seiberfygythiadau a diogelwch. Yn hyn o beth, er nad yw ’ r oedi cyn cwblhau ’ r cyfleuster yn ddelfrydol, dros y tymor hwy bydd y buddion yn cael eu gwireddu yn dilyn achrediad llwyddiannus, a chydnabyddir bod yr amser ychwanegol sydd ei angen i leoli ’ r cyfleusterau i sicrhau ’ r achrediad hwn yn briodol. Ymgynghorai academaidd

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

15

Ffigur 2-3: Lluniau o Glinig y Gyfraith (chwith uchaf), Canolfan Ymchwil a Datblygu Technoleg Gyfreithiol (dde uchaf a gwaelod), a ’ r Ganolfan Seiberfygythiadau (gwaelod chwith)

Ffynhonnell: Prifysgol Abertawe, LILW

Gweithgaredd recriwtio

2.14 Gan adlewyrchu’r dadansoddiad o’r gwariant a nodir uchod, yn greiddiol i gyflawni’r gweithrediad roedd penodi academyddion/ymchwilwyr (a oedd hefyd yn ddangosydd ERDF, gweler Adran 4), datblygwyr meddalwedd, a thîm prosiect i gefnogi/rheoli’r gwaith o gyflawni’r gweithrediad. 2.15 Fel y nodwyd hefyd uchod, mae gweithgarwch recriwtio wedi digwydd yn barhaus drwy gydol y ddarpariaeth, sydd wedi adlewyrchu ’ r heriau mewn penodi unigolion ar gyfer y rolau a fwriadwyd, a chadw unigolion yn y rolau hynny; o ’ u hystyried gyda ’ i gilydd, mae hyn wedi arwain at rai newidiadau mewn rolau yn ogystal ag unigolion. Felly, dros oes y gweithrediad, mae strwythur y tîm a phenodiadau penodol wedi esblygu, gan ddarparu tirwedd cyfnewidiol a chymhleth mewn perthynas â gweithgarwch y gweithrediad.

2.16 Yn bwysig, cafodd newidiadau allweddol eu ffurfioli fel rhan o ailbroffilio ’ r gweithrediad ym mis Medi 2021. Roedd y newidiadau allweddol fel a ganlyn:

• Roedd newidiadau i dîm ymchwil Technoleg Gyfreithiol yn cynnwys cynyddu swydd yr Athro Cyswllt o 0.6 i 0.8 FTE a chyflogi un Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethuriaeth

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

16

(Swyddog Ymchwil), ynghyd â dau Gynorthwyydd Ymchwil ychwanegol (yn hytrach na’r Uwch Ddarlithydd ychwanegol a gynigiwyd yn wreiddiol). Roedd y newidiadau mewn ymateb i ymgyrchoedd recriwtio aflwyddiannus ar gyfer y swyddi gwreiddiol. • Ni phenodwyd rôl Cadeirydd ar gyfer Technoleg Gyfreithiol (0.2 FTE) a gwnaed penderfyniad i beidio â cheisio llenwi ’ r rôl hon (gan dynnu ’ r swydd hon oddi ar y siart sefydliadol yn Adroddiad Cynnydd Awst - Hydref 2022).

• Penodwyd Datblygwr Meddalwedd ychwanegol mewn ymateb i alw cryf am gefnogaeth.

• Ehangwyd tîm y prosiect drwy benodi tair swydd ychwanegol: Gweinyddwr Prosiect, Swyddog Ariannu Ymchwil, a Swyddog Ymgysylltu Technoleg Gyfreithiol ychwanegol. Fodd bynnag, gadawodd y Swyddog Ymgysylltu gwreiddiol ym mis Tachwedd 2021, gan gyd- daro a’r adeg y gwnaeth y Swyddog Ymgysylltu newydd yn ymuno. Yn hytrach na chyflogi ail Swyddog Ymgysylltu, penderfynwyd penodi Swyddog Prosiect i ysgogi datblygiad y platfform Technoleg Gyfreithiol Rithwir. Fodd bynnag, bu dwy rownd recriwtio yn aflwyddiannus, felly ni chafodd y rôl ei llenwi.

2.17 Yn y cam Gwerthusiad Terfynol (ym mis Mai 2023), roedd y gweithrediad yn cynnwys y strwythur staffio canlynol:

• Dau dîm ymchwil (Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau) sy ’ n bennaf gyfrifol am gynnal ymchwil ar y cyd â phartneriaid, gwneud cais am arian grant, a chynhyrchu allbynnau academaidd. Tynnir sylw at y ffaith bod y tîm Seiberfygythiadau yn rhan o ’ r Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) ehangach sydd wedi ’ i hen sefydlu yn y Brifysgol, sef canolfan ryngddisgyblaethol ag arbenigwyr yn y gyfraith, troseddeg, gwyddor wleidyddol, ieithyddiaeth a seicoleg. ➢ Technoleg Gyfreithiol: Athro Cyswllt/Cyd-Brif Ymchwilydd (1 FTE), Uwch Ddarlithydd (1 FTE), Swyddog Ymchwil (1 FTE), a thri Chynorthwyydd Ymchwil (x4 FTE). 7 FTE i gyd ➢ Seiberfygythiadau: Cadeirydd (0.2 FTE), Athro Cyswllt (0.6 FTE), Uwch Ddarlithydd (0.6 FTE), dau Ddarlithydd (pob un yn 0.6 FTE), Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethuriaeth (1 FTE), a dau Gynorthwyydd Ymchwil (x2 FTE). Arweinir y tîm ymchwil Seiberfygythiadau gan y Cyd-Brif Ymchwilydd, nad yw ’ n cael ei gefnogi gan arian ERDF. 5.6 FTE i gyd

• Tîm Datblygu Meddalwedd gyda chyfrifoldeb am ddatblygu a threialu prototeipiau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gyfreithiol newydd ac arloesol.

➢ Datblygwr Meddalwedd Arweiniol (1 FTE) a thri Datblygwr Meddalwedd (x3 FTE). 4 FTE i gyd

• Tîm prosiect yn gyfrifo l am gyflawni’r prosiect o ddydd i ddydd, yn cynnwys:

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

17

➢ Rheolwr Prosiect (1 FTE), Cydlynydd Prosiect (1 FTE), Swyddog Ymgysylltu Technoleg Gyfreithiol (1 FTE), Swyddog Ariannu Ymchwil (0.8 FTE), Swyddog Datblygu Ymchwil (0.4 FTE) a Swyddog Cefnogi REIS (0.4 FTE). Roedd Gweinyddwr Prosiect hefyd yn ei swydd hyd at fis Chwefror 2023; o ystyried y cyfnod byr a oedd yn weddill, ni phenodwyd rhywun yn ei le. Cefnogwyd tîm y prosiect gan y ddau Gyd- Brif Ymchwilydd, a Phenaethiaid Ysgol y Gyfraith a Chyfadran y Dyniaethau a ’ r Gwyddorau Cymdeithasol (nid yw ’ r olaf yn cael ei gefnogi gan arian ERDF). 4.6 FTE i gyd 2.18 Fel y nodwyd, yn gyffredinol, yn ystod misoedd olaf y gwaith cyflawni roedd y gweithrediad yn cefnogi 21.2 FTE yn uniongyrchol, gyda mewnbwn ychwanegol yn cael ei ddarparu gan uwch aelodau staff eraill yn y Brifysgol.

Cyflawni prosiectau cydweithredol

2.19 Mae ’ r gweithrediad wedi datblygu a chyflawni prosiectau cydweithredol gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys cwmnïau sector preifat, sefydliadau trydydd sector, cyrff sector, a sefydliadau addysg uwch eraill. Er enghraifft, mae data o fis Mai 2023 yn dangos bod y gweithrediad wedi gweithio ar dros 15 o brosiectau cydweithredol ar draws y llinynnau gweithgarwch Seiberfygythiadau a Thechnoleg Gyfreithiol gyda phartneriaid, gan gynnwys y rheini sydd wedi ceisio a/neu sicrhau cyllid allanol. Mae pob prosiect yn wahanol ac wedi ’ i deilwra i ’ r mater / cyfle penodol y mae ’ n ceisio mynd i ’ r afael ag ef; nid oes unrhyw weithgaredd ‘ safonol ’ yn cael ei ddarparu gan y gweithrediad.

2.20 Gan adlewyrchu hyn, a dangos yr ystod o weithgarwch a ddatblygwyd, mae Ffigur 2-4 yn rhoi detholiad o enghreifftiau o brosiectau cydweithredol sy ’ n cynnwys aelodau tîm LILW.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

18

Ffigur 2-4: Enghreifftiau o brosiectau cydweithredol Seiberfygythiadau a Thechnoleg Gyfreithiol

Ffynhonnell: Dadansoddiad SQW o dystiolaeth ymgynghori, Adroddiadau Cynnydd LILW, a gwefan LILW

2.21 Mae ’ r gweithrediad hefyd wedi cefnogi cyflawni nifer o brosiectau ‘ strategol ’ yn y llinyn gweithgarwch Technoleg Gyfreithiol, lle mae ’ r Labordy wedi ceisio datblygu offer ac

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

19

adnoddau y gellir eu defnyddio i gefnogi gwell dealltwriaeth a defnydd o arloesiadau a chyfleoedd Technoleg Gyfreithiol.

2.22 Mae hyn wedi cynnwys ‘ platfform Labordy Technoleg Gyfreithiol Rhithwir ’ , a nodwyd fel llinyn newydd o weithgarwch fel rhan o ’ r broses ailbroffilio. Wedi ’ i arwain gan LILW, mewn cydweithrediad â ’ r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) a phrifysgolion Caergrawnt a Chaeredin, mae ’ r platfform wedi ’ i gynllunio i gysylltu gweithwyr proffesiynol Technoleg Gyfreithiol yn y DU a thu hwnt, gan gefnogi cyd-greu cymwysiadau Technoleg Gyfreithiol drwy fodel o arloesi agored. Bydd yn mynd i ’ r afael â heriau allweddol yn y defnydd o dechnoleg gyfreithiol a datblygu apiau a fydd yn caniatáu i bob cwmni cyfreithiol yng Nghymru a ’ r DU gael mynediad at offer Technoleg Gyfreithiol hollbwysig i ’ w galluogi i gymryd rhan effeithiol mewn Technoleg Gyfreithiol. 2.23 Roedd y Labordy Rhithwir yn mynd rhagddo ar y cam Gwerthusiad Terfynol, ac ni ragwelir y bydd y platfform yn gwbl weithredol erbyn diwedd y gweithrediad fel y cynlluniwyd. Mae dau brif linyn o weithgarwch wedi bod hyd yma: (i) ymchwilio a chynhyrchu cyhoeddiad academaidd yn nodi ’ r rhesymeg dros y platfform a (ii) gweithio gyda datblygwr ar gyfer prototeip i ’ w gwblhau erbyn mis Mehefin 2023. O ran yr ail linyn, mae ’ r mae ’ r Brifysgol eisoes wedi gweithio gyda datblygwr allanol ar blatfform tebyg, ac mae ’ n gobeithio defnyddio ’ r platfform hwn gyda rhai addasiadau bach i ddarparu prawf o gysyniad, er mwyn helpu i annog rhanddeiliaid i gymryd rhan ac ysgogi trafodaethau pellach. 2.24 Mae symud y platfform yn ei flaen wedi bod yn heriol. Roedd diddordeb cryf i ddechrau gan sawl sefydliad arall (Caergrawnt, Ulster a Chaeredin yn arbennig), ond dywedwyd wrth y gwerthuswyr nad oedd ffurfioli hyn drwy gytundeb cydweithio, ac wedyn cyd-ddylunio ’ r platfform mewn partneriaeth, yn syml. Daeth cyfranogiad Ulster yn y prosiect i ben oherwydd newidiadau strwythurol mawr yn staffio ’ r sefydliad. Hefyd, bu dwy rownd recriwtio i benodi Swyddog Prosiect i ddarparu capasiti ychwanegol i arwain ar ddatblygu ’ r platfform yn aflwyddiannus. Yn ogystal, effeithiwyd ar gynnydd datblygiad y platfform gan y broses drosglwyddo cysylltiedig â newid yn y Rheolwr Prosiect, er i ’ r gwaith ailddechrau wedyn. O ystyried yr ystod o heriau, mae ’ r cynnydd a wnaed ar hyn o bryd gan y gweithgaredd yn galonogol, er bod cyflawniad llwyddiannus a defnydd ac effaith dilynol y platfform yn parhau i fod yn ansicr ar hyn o bryd. O ystyried potensial y platfform i roi buddion etifeddiaeth pwysig o ’ r gweithrediad, mae ’ n bwysig bod y Brifysgol yn archwilio mecanweithiau ariannu posibl i gynnal cyflawniad wrth symud ymlaen.

2.25 Mae prosiectau strategol Technoleg Gyfreithiol eraill yn cynnwys:

• Map egin fusnesau Technoleg Gyfreithiol Cymru: Nod y map yw amlinellu arloesedd Technoleg Gyfreithiol Cymru, deall y cyfleoedd a ’ r heriau posibl o fod ym maes Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru a dylanwadu ar bolisïau ynghylch entrepreneuriaeth Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru. Cynhaliodd tîm ymchwil Technoleg Gyfreithiol ymchwil ar ffurf cyfweliadau gydag egin fusnesau a chwmnïau cyfreithiol i lywio ’ r map, a bydd

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

20

canfyddiadau allweddol o ’ r adroddiad terfynol yn cael eu cyflwyno mewn digwyddiad LawTech UK 3 ym mis Mehefin.

• Arsyllfa Technoleg Gyfreithiol: Bydd yr arsyllfa’n gweithredu fel canolbwynt ar gyfer newyddion a diweddariadau ar Dechnoleg Gyfreithiol, a gynhelir ar-lein. Bydd prosiectau ymchwil labordy, cynnwys gwreiddiol ar faterion Technoleg Gyfreithiol, a phrosiectau allanol a newyddion Technoleg Gyfreithiol yn rhan o’r Arsyllfa. Bydd swyddi’n cael eu trefnu’n gronolegol gan ganiatáu i esblygiad Technoleg Gyfreithiol yn y DU gael ei godeiddio. Mae’r wefan wedi’i dylunio ac mae’n barod i fynd yn fyw yn dilyn y gystadleuaeth a chymeradwyo’r fformat /enghreifftiau gweledol terfynol.

Gweithgareddau ymgysylltu a lledaenu

2.26 Yn dilyn y Gwerthusiad Canol Tymor, mae ’ r gweithrediad wedi parhau i ddarparu ystod eang o weithgareddau ymgysylltu a lledaenu gyda staff sy ’ n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe a rhanddeiliaid allanol. Yn gadarnhaol, wrth i gyfyngiadau cysylltiedig â Covid-19 leddfu roedd y gweithrediad yn gallu ymgysylltu â/cynnal digwyddiadau a gweithgareddau wyneb yn wyneb. Mae rhai enghreifftiau diweddar yn cynnwys: • Presenoldeb mewn/neu gyfrannu at ddigwyddiadau a chynadleddau. Er enghraifft, cyflwynodd aelodau o dîm LILW weminar yn arddangos prosiect ‘ Fforymau Effaith Covid- 19 ar Gyfraith Cyflogaeth ’ mewn cydweithrediad â fforwm cyngor ar-lein LegalBeagles; mynychu Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn ddiweddar lle buont yn arddangos sgwrsfot cyngor cyfreithiol a ddyluniwyd gan y Labordy i helpu aelodau o ’ r cyhoedd i ddeall Deddf Rhentu Cartrefi Cymru; ac fe ’ i cyflwynwyd mewn digwyddiad ‘ Cinio a Dysgu ’ i godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad â ’ r Labordy ymhlith academyddion Prifysgol Abertawe. • Cyhoeddi erthyglau ymchwil, gan gynnwys ‘ A Comparative Analysis of Islamic State (IS) Channels on Telegram ’ , yn yr International Journal of Security, Terrorism and Society; ‘ Making the most of cybercrime and fraud crime report data: a case study of UK Action Fraud ’ yn yr International Journal of Population Data Science; cyflwynwyd papur ar ‘ Taking stock of available technologies for compliance checking on first-order knowledge ’ yng Nghynhadledd yr Eidal ar Resymeg Gyfrifiadurol; a chyflwynwyd dau bapur cynhadledd i ’ r Gynhadledd Ryngwladol ar Ddiogelu, Diogelwch a Chynaliadwyedd Byd- eang yn Llundain. • Cyfraniadau at adroddiadau, mewnwelediadau ac adolygiadau. Er enghraifft, cyhoeddodd Uwch Ddarlithydd ‘ Handbook of Legal AI ’ wedi ’ i gyd-olygu, roedd Darlithydd CYTREC wedi cael pennod wedi ’ i derbyn i ’ w chyhoeddi gyda ’ r ‘ Crime Data Handbook ’ , cyd-awdurodd Uwch Ddarlithydd CYTREC saith pennod mewn llyfr yn 2022, tra y cyd-

3 Menter a gefnogir gan y llywodraeth LawTech UK, y mae’n cael ei chefnogi gan CodeBase a Legal Geek. Fe’i sefydlwyd i gefnogi trawsnewid sector cyfreithiol y DU drwy dechnoleg, er budd cymdeithas a’r economi.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

21

awdurodd Cyd-Brif Ymchwilydd a Chyfarwyddwr CYTREC adroddiad ar gyfer y Rhwydwaith Byd-eang ar Eithafiaeth a Thechnoleg (GNET).

2.27 Yn ogystal, mae ’ r gweithrediad wedi creu swm sylweddol o gynnwys ar-lein, yn Gymraeg a Saesneg, i hyrwyddo ac addysgu ’ r sector cyfreithiol am Dechnoleg Gyfreithiol, gan gynnwys fideos a blogiau ‘ esbonio technoleg ’ (gan y timau ymchwil a ’ r Tîm Datblygu Meddalwedd). Cyflwynodd LILW hefyd gyfres o sesiynau cyfnewid gwybodaeth dros saith wythnos yn ystod Haf 2022 wedi ’ u targedu ’ n bennaf at gyfreithwyr dan hyfforddiant. Nod y rhain oedd rhoi mewnwelediad i sut y gellid rhoi gwahanol dechnolegau ar waith yn y gweithle. Cofrestrodd tua 50 o unigolion ar gyfer y sesiynau, a oedd yn canolbwyntio ar ddarparu enghreifftiau ymarferol ac arweiniad ar ddefnyddio a chyfleoedd gan Dechnoleg Gyfreithiol. Cynhaliodd y gweithrediad hefyd (gyda Llywodraeth Cymru) Hacathon Cyfreithiol Cymru ym mis Gorffennaf 2022. 2.28 Mae prototeipiau a ddatblygwyd gan LILW yn rhai ffynhonnell agored ac ar gael ar dudalen Datblygwyr y wefan. 4 Erbyn mis Mehefin 2023, roedd hyn yn cynnwys manylion am 11 o brosiectau gweithredu, gan gynnwys (lle bo ’ n berthnasol) cod ffynhonnell a dolenni i brototeipiau/arddangosiadau o ’ r cymwysiadau a/neu fanylion pellach am y prosiect.

Ffigur 2-5: Enghreifftiau o gynnwys prosiect ar Dudalen Datblygwyr LILW

Ffynhonnell: Tudalen Datblygwr Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru (legaltech.wales)

2.29 Hefyd, mae tudalen ‘ allbynnau cymunedol ’ 5 y wefan yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau sy ’ n ymwneud â ’ r CCT. Mae ’ r adnoddau hyn wedi ’ u dosbarthu ’ n ehangach drwy gyfrifon YouTube a Twitter LILW (@LegalLabWales), lle mae gan yr olaf 474 o ddilynwyr (ar 02/06/23).

4 https://developer.legaltech.wales/ 5 https://legaltech.wales/en/outputs

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32 Page 33 Page 34 Page 35 Page 36 Page 37 Page 38 Page 39 Page 40 Page 41 Page 42 Page 43 Page 44 Page 45 Page 46 Page 47 Page 48 Page 49 Page 50 Page 51 Page 52-53 Page 54-55 Page 56 Page 57 Page 58 Page 59 Page 60-61 Page 62-63 Page 64-65 Page 66-67 Page 68-69 Page 70-71 Page 72

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5