Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

22

Safbwyntiau rheoli prosiect a llywodraethu

2.30 Mae ymgynghoriadau ar gyfer y Gwerthusiad Terfynol hwn – sy ’ n gyffredinol gyson â chanfyddiadau ’ r cam Gwerthusiad Canol Tymor – yn awgrymu bod systemau rheoli prosiect a llywodraethu a phrosesau ’ r gweithrediad wedi gweithio ’ n dda ar y cyfan, er bod strwythurau llywodraethu a rheoli wedi newid yn ystod y gweithrediad.

Rheoli prosiect…

2.31 Mae ’ r gwaith o gyflawni ’ r gweithrediad wedi ’ i arwain a ’ i reoli gan ddau Gyd-Brif Ymchwilydd (sy ’ n cwmpasu ’ r elfennau Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau) a oedd yn gyfrifol am gyfeiriad a throsolwg cyffredinol y gweithrediad, a Rheolwr Prosiect sy ’ n gyfrifol am weithgareddau rheoli o ddydd i ddydd gan gynnwys cyswllt mewnol ac allanol. Mae cymorth ychwanegol wedi ’ i ddarparu drwy dîm prosiect ehangach sydd wedi cynnwys (er bod rolau penodol wedi newid dros amser) Cydlynydd Prosiect, Swyddog Ymgysylltu Technoleg Gyfreithiol a Swyddog Ariannu Ymchwil. 2.32 Mae ymgynghoriadau ’ n awgrymu bod rheolaeth prosiect a chefnogaeth weinyddol gref yn sail i gyflawni ’ r gweithrediad. Teimlwyd bod darparu tîm prosiect penodedig drwy gefnogaeth ERDF ar gyfer y gweithrediad yn bwysig, o safbwynt monitro ac adrodd, ac er mwyn hwyluso ’ r gwaith o ddarparu amrywiaeth o ddigwyddiadau, cyfarfodydd, a mentrau ehangach sy ’ n bwysig ar gyfer diben craidd y gweithrediad i helpu i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i Dechnoleg Gyfreithiol a gwella safle a phroffil cryf presennol y Brifysgol mewn perthynas â Seiberfygythiadau. 2.33 Roedd ymchwilwyr a datblygwyr meddalwedd yn gwerthfawrogi cyfathrebu cyson drwy gyfarfodydd tîm wythnosol. Fodd bynnag, roedd peth adborth yn awgrymu diffyg rhyngweithio a chyfathrebu rhwng y timau ymchwilwyr a datblygwyr meddalwedd wrth gyflawni prosiectau o ddydd i ddydd, gan arwain at ymgysylltu a chyfathrebu llai aml rhwng rhannau cyfansoddol y gweithrediad. Mae’n debygol y dylanwadwyd ar hyn i ryw raddau gan y pandemig a’r newid mewn ymddygiadau gwaith, ac o bosibl yn gwaethygu oherwydd newidiada u mewn personél drwy gydol y cyfnod cyflawni (gyda newid mewn cysylltiadau a’r angen i sefydlu perthnasoedd a dealltwriaeth newydd). 2.34 Gadawodd y Rheolwr Prosiect gwreiddiol y Brifysgol a phenodwyd yn ei le ym mis Awst 2022. Arweiniodd hyn at rywfaint o oedi tymor byr wrth gyflawni gweithgarwch sy ’ n gysylltiedig â ’ r trosglwyddo e.e. mewn perthynas â phroses achredu PASF a ’ r Platfform Rhithwir (fel y nodir uchod). Fodd bynnag, yn gyffredinol, dywedwyd bod y trosglwyddiad hwn wedi ’ i wneud yn dda ac nad oedd wedi effeithio ’ n andwyol ar gynnydd cyffredinol; mae hwn yn ganfyddiad cadarnhaol, ac fe ’ i galluogwyd yn rhannol drwy ddilyniant yn arweinyddiaeth academaidd y gweithrediad.

2.35 Mae prosesau monitro ac adrodd wedi ’ u gweithredu ’ n effeithiol ar y cyfan. Roedd adborth yn awgrymu bod yr adrodd wrth WEFO wedi bod yn drylwyr ac o ansawdd uchel, ac mae tîm y

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5