23
prosiect wedi ymgysylltu ’ n effeithiol ag adran Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) y Brifysgol i gefnogi gyda ’ r broses hon.
2.36 Fodd bynnag, roedd lle i gasglu data ’ n well ar fuddion ehangach LILW y tu allan i ddangosyddion ffurfiol ERDF. Ceisiodd y gweithrediad ddefnyddio proses gyson a chynhwysfawr i gasglu data am allbynnau allweddol (megis digwyddiadau a gynhaliwyd/a fynychwyd, cyhoeddiadau ymchwil, erthyglau, neu brototeipiau a ddatblygwyd), yn cynnwys dosbarthu ffurflen ar-lein i staff bob chwe wythnos. Fodd bynnag, roedd ansawdd a chwmpas y deunydd a ddarparwyd mewn ymateb yn amrywiol iawn ac nid oedd yn gynhwysfawr. Felly, nid yw ’ r data ’ n rhoi adlewyrchiad cywir o ’ r gweithgarwch, yr allbynnau, a ’ r canlyniadau a gyflawnwyd gan y gweithrediad. O ganlyniad, nid yw ’ r gwerthusiad wedi defnyddio ’ r ffynhonnell ddata hon. Mae hon yn wers bwysig i ’ w dysgu ar gyfer unrhyw ymyriadau tebyg yn y dyfodol.
…a llywodraethu prosiectau
2.37 Fel y nodir yn Adroddiad y Gwerthusiad Canol Tymor, adolygwyd strwythur llywodraethu gwreiddiol y gweithrediad – gyda Bwrdd Prosiect, Bwrdd Cynghori ’ r Prosiect 6 ac un Prif Ymchwilydd – i adlewyrchu ’ r cyflawniad yn ymarferol, gyda ’ r newidiadau wedi ’ u ffurfioli fel rhan o ailbroffilio ’ r gweithrediad.
2.38 I grynhoi, roedd y newidiadau allweddol ar adeg y Gwerthusiad Canol Tymor fel a ganlyn:
• Roedd cynrychiolaeth ar y Bwrdd Prosiect ychydig yn wahanol i ’ r hyn a ragwelwyd yn y Cynllun Busnes gwreiddiol. Roedd y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan Noddwr y Prosiect, ac yn cynnwys y Rheolwr Prosiect, (Cyd) Prif Ymchwilwyr, Pennaeth Clinig y Gyfraith a chynrychiolydd o REIS. Hefyd, roedd y Bwrdd yn cyfarfod yn ôl y gofyn, yn hytrach nag yn ffurfiol bob chwarter (neu gyfnod ddyddiadur arall) er mwyn sicrhau defnydd cynhyrchiol o amser aelodau.
• Roedd Cyd-Brif Ymchwilydd wedi ’ i benodi gyda ffocws ar linyn Technoleg Gyfreithiol LILW; roedd hefyd yn arwain tîm ymchwil Technoleg Gyfreithiol.
• Y cynllun gwreiddiol oedd sefydlu Bwrdd Cynghori i gwmpasu Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau. Fodd bynnag, penderfynodd yr ymgyrch y byddai’r Bwrdd yn canolbwyntio’n ymarferol ar Dechnoleg Gyfreithiol yn unig. Roedd hyn oherwydd presenoldeb sefy dledig a phresennol CYTREC ar y llinyn Seiberfygythiadau, sydd â’i strwythur llywodraethu ei hun. Hefyd, mae’r agendâu Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau yn wahanol iawn (er bod potensial i rannu gwybodaeth), felly barnwyd ei bod yn briodol gan y gw eithrediad i ganolbwyntio’r Bwrdd Cynghori ar faes llai datblygedig Technoleg Gyfreithiol. Roedd Bwrdd Cynghori Technoleg Gyfreithiol wedi’i gynllunio, ond nid oedd wedi’i sefydlu erbyn y Gwerthusiad Canol Tymor
6 Wedi'i alw'n Grŵp Llywio Prosiect yn y Cynllun Busnes
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5