24
• Yn ogystal, bydd Bwrdd Cynghori ar wahân yn cael ei sefydlu a fydd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar y platfform Technoleg Gyfreithiol Rhithwir. Roedd Bwrdd Cynghori platfform Technoleg Gyfreithiol Rhithwir wedi’i gynllunio, ond nid oedd wedi’i sefydlu erbyn y Gwerthusiad Canol Tymor
2.39 Yn dilyn hynny, nodir sawl pwynt:
• Roedd y Bwrdd Prosiect yn parhau i weithredu fel o ’ r blaen, ac roedd rhanddeiliaid o ’ r farn ei fod wedi gweithio ’ n effeithiol ar y cyfan. Fodd bynnag, yn agos at gamau olaf y cyflawni, daeth cyfarfodydd yn fwy anaml. Roedd hyn yn rhannol oherwydd heriau ’ n ymwneud ag argaeledd aelodau ’ r Bwrdd. Fodd bynnag, wrth i gwblhad y gweithrediad agosáu cynhaliwyd cyfarfodydd cynllunio etifeddiaeth ag uwch dîm arwain y Gyfadran yn lle ’ r Bwrdd, i drafod cyfeiriad y Labordy yn y dyfodol ar ôl cyllid ERDF. Ochr yn ochr â hyn, bu ’ r Rheolwr Prosiect yn rhyngweithio ’ n aml ag Uned Cynllunio a Phrosiectau Strategol y Brifysgol ynghylch cau ’ r prosiect. Yn ogystal, mae ’ r ddau Gyd-Brif Ymchwilwyr a ’ r Rheolwr Prosiect wedi cael cyfarfodydd rheolaidd anffurfiol drwy gydol cyfnod y gweithrediad. • Ni sefydlwyd y Bwrdd Cynghori Technoleg Gyfreithiol fel y cynlluniwyd. Dechreuodd y broses o sefydlu ’ r bwrdd yn hwyr yn 2022, a sicrhawyd diddordeb i gynnwys cynrychiolaeth uwch o ’ r diwydiant a ’ r sector yn amrywio o ’ r gyfraith a mynediad at gyfiawnder. Fodd bynnag, ar y pwynt hwn, cydnabuwyd bod gwireddu gwerth gan y bwrdd – o ran trosoli cyngor strategol yr aelodau – yn mynd i fod yn her o ystyried mai dim ond chwe mis o ’ r cyfnod gweithredu oedd ar ôl. Felly penderfynwyd na fyddai ’ r bwrdd yn cael ei sefydlu. • Yn yr un modd, ni sefydlwyd Bwrdd Cynghori platfform Technoleg Gyfreithiol Rhithwir fel y cynlluniwyd oherwydd y cyfnod cyflawni byr a oedd yn weddill cyn diwedd y gweithrediad. 2.40 Nododd y Gwerthusiad Canol Tymor y byddai sefydlu ’ r Bwrdd(Byrddau) Cynghori yn gynharach wedi helpu i lywio cyfeiriad strategol cyffredinol y Labordy, ac wedi cefnogi cysylltiadau mwy amserol a helaethach â ’ r sector. Roedd adborth ar y cam Gwerthusiad Terfynol hwn yn ailadrodd y pwynt hwn, gan awgrymu y byddai Bwrdd Cynghori Technoleg Gyfreithiol wedi bod yn fuddiol ar gyfer darparu gwybodaeth a mewnwelediad i lywio ’ r gwaith cyflawni. Er y cydnabyddir na fyddai sefydlu ’ r bwrdd ar ddiwedd 2022 wedi bod yn briodol o ystyried y cyfnod cyfyngedig oedd ar gael i lywio gweithgarwch, yn gyffredinol dylai hyn gael ei ystyried yn gyfle a gollwyd gan y gweithrediad. Yn yr un modd, o ystyried ei gymeradwyaeth ar ddiwedd 2021, mae ’ r oedi mewn sefydlu Bwrdd Cynghori y platfform Technoleg Gyfreithiol Rithwir arfaethedig hefyd yn gyfle a gollwyd; efallai y byddai bwrdd wedi helpu i reoli rhai o ’ r problemau a gafwyd wrth gyflawni ’ r gweithgarwch hwn, gan alluogi cyflawni erbyn diwedd y gweithrediad. Mae hon yn wers bwysig i ’ w dysgu ar gyfer unrhyw ymyriadau tebyg yn y dyfodol.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5