Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

25

2.41 Nododd y Gwerthusiad Canol Tymor hefyd fod lle i gael mwy o eglurder ynglŷn â’ r berthynas rhwng CYTREC a ’ r gweithrediad, a Chlinig y Gyfraith ehangach a ’ r gweithrediad (gyda ’ r gweithrediad yn canolbwyntio ar dreialu/profi arloesiadau newydd yn unig, nid y gweithgareddau ehangach a ddarperir drwy Glinig y Gyfraith). Mae tystiolaeth o ’ r cam Gwerthusiad Terfynol yn awgrymu bod y berthynas rhwng y gweithrediad a CYTREC yn arbennig wedi parhau i godi peth amwysedd ar draws rhanddeiliaid a phartneriaid mewnol ac allanol. Felly, roedd adborth gan y tîm Seiberfygythiadau yn awgrymu tuedd i gyfeirio at ‘ CYTREC ’ wrth ymgysylltu â phartneriaid a gwneud cais am gyfleoedd ariannu. Nid yw hyn yn annisgwyl, ond mae ’ n peri rhai heriau wrth geisio deall cyfraniad a chanlyniadau ’ r gweithrediad yn benodol. Mae mynegi ’ n glir ac yn gyson y berthynas rhwng llinynnau cyfansoddol ymyriad o ’ r cychwyn cyntaf yn wers bwysig ar gyfer unrhyw ymyriadau tebyg yn y dyfodol.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5