26
3. Asesu Themâu Trawsbynciol
3.1 Fel rhan o gymeradwyaeth cyllido ERDF, roedd angen i’r gweithrediad fodloni gofynion Themâu Trawsbynciol (CCT) y Rhaglen Weithredol o ran: datblygu cynaliadwy; cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd; a mynd i’r afael â thlodi ac allgau cym deithasol.
Cyflawni yn erbyn y dangosyddion lefel achos
3.2 Cytunwyd ar wyth dangosydd lefel achos 7 rhwng Prifysgol Abertawe a WEFO i ddangos cynnydd mewn cyflawni yn erbyn y CCT yn cwmpasu cyfnod adeiladu a lansio LILW hyd at ddiwedd y cyfnod cyflawni. Fel y dangosir yn Tabl 3-1, mae ’ r gweithrediad wedi nodi gweithgarwch a chyflawniadau cadarnhaol yn erbyn yr holl ddangosyddion, gan gyfrannu felly at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau ’ r Dyfodol (WFGA) 8 . Yn benodol, wrth gyflawni yn erbyn y dangosyddion lefel achos mae ’ r gweithrediad wedi cyfrannu at nodau canlynol WFGA: Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru â diwylliant bywiog lle mae ’ r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru o gymunedau cydlynol. Yn ogystal â ’ r dangosyddion lefel achos, mae ’ r gweithrediad wedi cyflawni ei rwymedigaeth i gyfeirio unrhyw bartneriaid allanol at Borth Arloesedd SMART 9 .
Tabl 3-1: Cynnydd yn erbyn y dangosyddion lefel achos CCT Nod WFGA Dangosydd lefel achos Gweithgarwch a adroddwyd
Cyffredinol
Datblygu/Ymgysylltu â Hyrwyddwr Themâu Trawsbynciol
Yn wreiddiol, penodwyd y Rheolwr Prosiect fel yr Hyrwyddwr CCT. Fodd bynnag, yn dilyn newid yn y Rheolwr Prosiect ysgwyddwyd y rôl hon gan Gydlynydd y Prosiect er mwyn sicrhau parhad. Cynhaliwyd cyfarfodydd CCT ar draws y prosiect yn chwarterol, ac anogwyd unigolion i hyrwyddo ’ r CCT a rhoi camau ar waith i wireddu eu cyflawniad. Mae cymalau cymdeithasol wedi ’ u hintegreiddio i ’ r broses gaffael / contractiol. Er enghraifft, roedd y tendr ar gyfer adnewyddu cyfleusterau CYTREC yn cynnwys gofyniad i ymgeiswyr gwblhau Cynllun Caffael Cynaliadwy a Datganiad Dull Budd Cymunedol a fyddai ’ n cael eu cyflawni drwy ’ r contract.
-
Cymru lewyrchus
Integreiddio Cymalau Cymdeithasol
7 Sylwer, yn wreiddiol cytunwyd ar saith dangosydd lefel achos ond cytunodd y gweithrediad i gynnwys dangosydd lefel achos ychwanegol oherwydd ei fod eisoes wedi'i gyflawni (Datblygu Cadwyn Gyflenwi Leol). 8 https://www.futuregenerations.wales/about-us/future-generations-act/ 9 Porth sy’n gweithredu fel proses diagnostig ac atgyfeirio b usnes i fusnesau lleol yw Porth Arloesedd SMART i’w rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau cyngor a chymorth perthnasol.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5