27
Dangosydd lefel achos
Nod WFGA
Gweithgarwch a adroddwyd
Datblygu Cynaliadwy
Cwblhawyd Cod Eco LILW a ’ i ddosbarthu i bob aelod o staff. Mae ’ r Cod Eco yn ymdrin â ’ r canlynol: atal gwastraff, trafnidiaeth, ynni, caffael cadarnhaol, bioamrywiaeth, dŵr, codi ymwybyddiaeth. Cwblhawyd Cynllun Teithio LILW. Mae ’ r ddogfen yn cynnwys siart llif sy ’ n annog staff i ystyried yn gynhwysfawr yr angen i deithio ac yn eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw teithio ’ n hanfodol. Defnyddiodd sefydliad buddugol tendr Cwmpasu CYTREC dîm prosiect lleol, felly sicrhaodd y prosiect fod y contract hwn yn cefnogi swyddi lleol yn Ne Cymru. Mynychodd y tîm seminar CCT gan Dîm Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe, a gyflwynodd: • ‘ Offer grantiau gwyrdd ’ i gefnogi staff i ymgorffori ymrwymiadau cynaliadwyedd, effeithiau hinsawdd ac ymrwymiadau cysylltiedig y Brifysgol mewn ceisiadau ymchwil ac i gyflawni prosiect ymchwil mwy cynaliadwy. • ‘ SWELL ’ , cynllun Cynaliadwyedd a Lles sy ’ n gwobrwyo staff yn y Brifysgol am gymryd camau cadarnhaol. Penododd y gweithrediad hyrwyddwr SWELL ac annog cyfranogiad gan gydweithwyr
Cymru gydnerth
Datblygu Cod Eco
Cymru ffyniannus
Datblygu cynllun teithio a mentrau teithio cynaliadwy
Cymru lewyrchus
Datblygu Cadwyn Gyflenwi Leol
Cymru lewyrchus
Mesurau Effeithlonrwydd Adnoddau
Cyfleoedd Cyfartal a Phrif Ffrydio Rhywedd
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Gweithgarwch yn cefnogi siaradwyr Cymraeg
Mae ’ r holl ddeunyddiau recriwtio ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae ’ r holl ddeunyddiau marchnata wedi bod yn ddwyieithog, gan gynnwys gwefan LILW sydd â fersiynau Cymraeg a Saesneg llawn, ac mae ’ r fideo hyrwyddo rhagarweiniol yn cynnwys isdeitlau Cymraeg. Cyflogwyd cyfieithwyr Cymraeg proffesiynol i sicrhau bod y cyfieithu o ’ r safon uchaf. Cwblhaodd aelod o ’ r tîm Gwrs Cymraeg a gynyddodd ymwybyddiaeth yr unigolyn o ’ r Gymraeg a ’ i alluogi i ddefnyddio Cymraeg priodol yn well yn y gweithle gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5