Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

28

Dangosydd lefel achos

Nod WFGA

Gweithgarwch a adroddwyd

Cefnogodd Uwch Ddarlithydd a dau intern o Brifysgol Abertawe Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (BCI) Cymru i gwmpasu’r ymyriadau presennol sydd ar gael i bobl ifanc yn y Gymraeg a nodi bylchau yn y ddarpariaeth.

Mynd i ’ r afael â Thlodi ac Allgau Cymdeithasol

Chymru o gymunedau cydlynol

Gweithgaredd Adeiladu Sgiliau Cymunedol

Mae aelod o staff yn rhan o Gynllun Llysgenhadon CyberFirst y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSCs). Mae nodau’r cynllun yn driphlyg: annog disgyblion ysgol Cyfnod Allweddol 2 i archwilio technolegau digidol a’r goblygiadau ar draws cymdeithas, cynyddu eu dealltwriaeth o seiberfygythiadau a niwed ar- lein, yn ogystal â’u hawliau a’u cyfrifoldebau fel dinasyddion digidol, a dod â disgyblion i mewn i leoliad prifysgol mewn ffordd hwyliog a diddorol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad SQW o Adroddiadau Cynnydd, astudiaethau achos Themâu Trawsbynciol, a thystiolaeth ymgynghori

Cyfraniad ehangach i ’ r Themâu Trawsbynciol

3.3 Yn ogystal â chyflawni gweithgarwch yn erbyn y dangosyddion lefel achos, mae ’ r gweithrediad wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy ’ n cyfrannu ’ n ehangach at y Themâu Trawsbynciol. Amlinellir enghreifftiau o weithgareddau o ’ r fath yn Tabl 3-2. 3.4 Yn nodedig, ac yn gadarnhaol iawn, dros y cyfnod cyflawni, mae ’ r prosiect wedi cynhyrchu 24 o astudiaethau achos sy ’ n dangos y gweithgareddau y maent wedi ’ u cyflawni yn erbyn y CCT. Yn dilyn adnewyddu gwefan LILW, crëwyd tudalen “Allbynnau Cymunedol” ar gyfer yr astudiaethau achos CCT ac mae detholiad o ’ r astudiaethau achos wedi ’ u huwchlwytho 10 .

Tabl 3-2: Darpariaeth ehangach yn erbyn y Themâu Trawsbynciol Cyfle Cyfartal a Phrif Ffrydio Rhywedd

• Yn 2021, dyfarnwyd Dyfarniad Efydd Athena Swan i Ysgol y Gyfraith, i gydnabod ei gwaith tuag at hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth a nodi a mynd i ’ r afael â ’ r heriau sy ’ n benodol i ’ r adran a ’ r disgyblaethau. Chwaraeodd un o academyddion Seiberfygythiadau ran allweddol yn y gwaith o ddadansoddi a chrynhoi data adrannol ar EDI. Mae ’ r dyfarniad yn ddilys tan fis Ebrill 2025. • Roedd cydlynydd y prosiect yn aelod o grŵp gorchwyl a gorffen cydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant y Brifysgol. Ffurfiwyd hwn ar ôl i faterion penodol yn ymwneud â hygyrchedd, yn enwedig ar gyfer aelodau staff ag anableddau, gael eu codi ledled y Brifysgol.

10 https://legaltech.wales/en/outputs

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5