Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

29

Sefydlwyd y grŵp gyda’ r nod o nodi atebion ymarferol a chydgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i ledaenu gwybodaeth yn fwy effeithiol a rhoi newidiadau angenrheidiol ar waith. • Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 , siaradodd rhai o ’ r menywod yn y Labordy mewn digwyddiad am eu profiadau a ’ u dyheadau, a rhoi cyngor i fenywod eraill sy ’ n wynebu heriau tebyg yn eu gyrfaoedd. Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth menywod ym maes Technoleg Gyfreithiol ac annog eraill i archwilio gyrfa yn y maes hwn.

Mynd i ’ r afael â Thlodi ac Allgáu Cymdeithasol

• Sefydlwyd Apêl Nadolig Mr X i gasglu rhoddion o anrhegion Nadolig a ’ u rhoi i blant difreintiedig. Cyfrannodd chwech a phedwar ar ddeg aelod o staff anrhegion yn 2020 a 2021 yn y drefn honno, a threfnodd tîm rheoli ’ r prosiect y casgliadau o gartrefi pobl a ’ u danfon i ’ r canolfannau rhoddion swyddogol. • Sefydliad trydydd sector yw Include UK sy ’ n darparu cymorth i droseddwyr. Gweithiodd darlithydd mewn troseddeg gyda ’ r Tîm Datblygu Meddalwedd i ddatblygu ap er mwyn cefnogi adsefydlu troseddwyr. Bu ’ r Prif Ddatblygwr Meddalwedd yn cymryd rhan mewn panel yn trafod ap Include Journey UK, yn ystod Gŵyl Tech Fest for Good Cymru 2021 a gynhaliwyd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru (sefydliad nid er elw sy ’ n cefnogi pobl yng Nghymru i wella eu bywydau a ’ u bywoliaeth). • Mae darlithydd mewn troseddeg (llinyn Seiberfygythiadau) yn cymryd rhan mewn rhaglen ‘ Ffug Gyfweliadau ’ sydd wedi ’ i chyflwyno ym mhob ysgol uwchradd yng Nghanolbarth De Cymru ers tua 20 mlynedd. Mae ’ n helpu disgyblion i ddeall y broses recriwtio a ’ u paratoi ar gyfer cyfweliadau yn y dyfodol. • Cyflwynodd LILW gynnig, mewn cydweithrediad â Discovery (elusen wirfoddoli gysylltiedig y Brifysgol) i Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan . Y cynnig oedd digwyddiad 3 diwrnod i archwilio ’ r materion sy ’ n ymwneud â rhwystrau i bobl anabl a ’ u rhieni/gofalwyr rhag cael mynediad ac arfer eu hawliau cyfreithiol. • Mae Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith yn gwirfoddoli gydag Ukraine Advice Project UK . Mae’r grŵp hwn o weithwyr cyfreithiol proffesiynol gwirfoddol sydd ag arbenigedd mewnfudo a lloches, yn darparu gwasanaeth am ddim i gysylltu pobl sy’n ffoi o’r Wcráin â chyngor cyfreithiol am ddim ar fewnfudo, fisas a lloches y DU gan gyfreithwyr cymwys a rheoledig. • Ers mis Tachwedd 2019, mae Clinig y Gyfraith Abertawe wedi bod yn cynnal gwasanaeth cyngor galw heibio ar brynhawniau Mercher. Gallai unrhyw un ddod draw, heb apwyntiad, i unrhyw un o’r clinigau Tai, Cyflogaeth, Cy ffredinol neu Deulu. Roedd y Clinig yn gweithio gyda chyfreithwyr a pharagyfreithwyr o wyth gwahanol gwmni cyfreithiwr lleol, a fyddai’n defnyddio un o fythau apwyntiad y Clinig, ynghyd â myfyriwr gwirfoddol a fyddai’n cysgodi’r apwyntiad ac yn gwneud y no diadau achos. Gyda’i gilydd, byddent wedyn yn gallu cynnig sesiynau cynghori 30 munud i unrhyw un a gerddodd i mewn sydd angen cyngor. • Cymerodd Clinig y Gyfraith Abertawe ran yn nau Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd Clinig y Gyfraith diwethaf, a gynhelir ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Mae Clinigau ’ r Gyfraith ledled y byd yn defnyddio ’ r diwrnod i dynnu sylw at bwnc/mater penodol mewn perthynas â chyfiawnder hinsawdd.

Ffynhonnell: Dadansoddiad SQW o Adroddiadau Cynnydd, astudiaethau achos CCT, a thystiolaeth ymgynghori

Myfyrdodau

3.5 Mae adborth gan ymgyngoreion yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar gyflawni yn erbyn y Themâu Trawsbynciol. Yn gyffredinol, mae adborth yn atgyfnerthu ’ r dystiolaeth uchod sy ’ n

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5