Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

30

awgrymu bod y gweithrediad wedi cyflawni ’ n gryf yn erbyn y dangosyddion lefel achos, ac wrth gyfrannu at y CCT yn ehangach. Yn benodol, gwelwyd bod sawl ffactor wedi cefnogi ’ r cyflawniad llwyddiannus yn erbyn y CCT: • Yn gyntaf, cafodd y CCT eu hintegreiddio i’r gwaith o gyflawniad o ddyd d i ddydd y gweithrediad o’r cychwyn cyntaf, ac roedd staff rheoli’r prosiect ac ymchwilwyr / academyddion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau ac yn eu gwerthfawrogi. Ategwyd hyn gan benodiad cynnar hyrwyddwr CCT (y cyn Reolwr Prosiect, ac wedi hynny y cydl ynydd prosiect) i hyrwyddo gweithgareddau / materion yn ymwneud â’r dangosyddion CCT a bwriadau’r CCT yn ehangach. • Yn ail, ac yn gysylltiedig â ’ r uchod, bu cyfarfodydd CCT chwarterol dan arweiniad yr Hyrwyddwr CCT yn gymorth i gynnal ymrwymiad i ’ r CCT, a rhoddasant gyfleoedd i gydweithwyr rannu gweithgareddau / camau gweithredu perthnasol. • Yn drydydd, mae aliniad cryf rhwng meysydd ymchwil craidd y gweithrediad a ’ r CCT, yn enwedig gwaith mynediad y Labordy at gyfiawnder a ’ r CCT ‘ Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol ’ . Mae ’ r cyd-destun cefnogol hwn wedi helpu i wreiddio camau gweithredu sy ’ n gysylltiedig â CCT yng ngweithrediadau dyddiol y tîm. 3.6 Fel y nodwyd uchod, mae 24 o astudiaethau achos cysylltiedig â CCT wedi ’ u cynhyrchu dros oes y gweithrediad, gyda detholiad wedi ’ u rhannu ar wefan LILW. Mae ’ r astudiaethau achos hyn nid yn unig wedi ’ u defnyddio i roi tystiolaeth i WEFO o ’ r gweithgareddau y mae ’ r Labordy wedi ’ u cyflawni yn erbyn y CCT, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth o ’ r CCT i gynulleidfa ehangach. Mae hon yn wers ddysgu gadarnhaol ar gyfer unrhyw ymyriadau tebyg yn y dyfodol.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5