Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

31

4. Asesiad o fuddion craidd

4.1 Mae ’ r ddwy adran nesaf yn ystyried perfformiad y gweithrediad o ran cyflawni yn erbyn yr effeithiau a nodir yn y model rhesymeg gan gynnwys y dangosyddion ERDF ffurfiol, ac effeithiau ehangach. 4.2 Gan adlewyrchu gofynion ERDF a’r cyfraniad disgwyliedig at Amcan Penodol 1.1, rydym yn gyntaf yn yr adran hon yn nodi dangosyddion ERDF a buddion sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Yn yr adran nesaf rydym yn ystyried y buddion ehangach yn ymwneud â buddion academaidd, busnes/cymdeithasol a chydweithio. Mae’r adrannau hefyd yn rhoi sylwadau ar ‘ychwaneged’ a gwerth am arian y gweithrediad.

Dangosyddion ERDF

4.3 Ar adeg ysgrifennu hwn, roedd y data monitro diweddaraf a gyflwynwyd gan y gweithrediad i WEFO yn cwmpasu ’ r cyfnod hyd at fis Ionawr 2023. Mae ’ r data ’ n dangos perfformiad cryf gan y gweithrediad yn erbyn dangosyddion ERDF, gyda phedwar o ’ r pum targed dangosydd wedi ’ u cyflawni ymhell cyn diwedd y cyfnod gweithredu ym mis Mehefin 2023. Hefyd, roedd y gweithrediad ar y pwynt hwn eisoes wedi cyflawni ’ n sylweddol uwch na ’ i darged ar gyfer nifer y partneriaid sy ’ n cydweithredu ar brosiectau ymchwil (64 o gymharu â tharged o 50). Roedd yr ymgyrch hefyd wedi penodi mwy o ymchwilwyr newydd nag a ragwelwyd (13 o gymharu â 10.2), sy ’ n gamp arbennig o ystyried yr heriau sy ’ n gysylltiedig â recriwtio.

Tabl 4-1: Proffil Dangosydd ERDF Dangosydd

Targed cyffredinol

Cyflawnwyd erbyn Ionawr 2023

% y cyflawni yn erbyn y targed

Nifer y cyfleusterau seilwaith ymchwil gwell

1

1

100%

Nifer yr ymchwilwyr newydd mewn endidau a gefnogir

10.2 FTE

13

127%

Nifer yr ymchwilwyr sy ’ n gweithio mewn cyfleusterau seilwaith ymchwil gwell

22

26

118%

Swm y cyllid ymchwil a sicrhawyd

£3.4m

£2.7m

80%

Nifer y partneriaid sy ’ n cydweithredu ar brosiectau ymchwil

50

64

256%

Ffynhonnell: Adroddiad Cynnydd LILW Tachwedd 2022 – Ionawr 2023

4.4 Fel y nodir uchod, yr un dangosydd lle nad oedd y gweithrediad wedi cyrraedd ei darged erbyn Ionawr 2023 oedd swm y cyllid ymchwil a sicrhawyd. Roedd y gweithrediad wedi nodi bod tua £2.7 miliwn o ymchwil wedi ’ i sicrhau, sef 80% o ’ r targed gyda phum mis arall yn

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5