Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

32

weddill i sicrhau cyllid pellach. Mae ymgynghoriadau gyda ’ r gweithrediad yn awgrymu bod nifer o geisiadau heb eu penderfynu a allai arwain at incwm ymchwil pellach dros y cyfnod hwn, gan gefnogi cyflawni pellach yn erbyn y targed hwn. Mae hefyd yn bwysig cydnabod y bydd y seilwaith ffisegol a sefydlir gan y gweithrediad, yn benodol y Ganolfan Seiberfygythiadau, yn chwarae rhan bwysig mewn sicrhau cyllid ymchwil pellach yn y tymor hwy, gyda ’ r achrediad PASF posibl yn ffactor allweddol sy ’ n dylanwadu ar y budd posibl hwn.

Gweithgarwch ymchwil

4.5 Yn erbyn y cefndir hwn, mae ’ r isadran hon yn ystyried yn fanylach gyfraniad y gweithrediad mewn perthynas â ’ i effeithiau ar weithgarwch ymchwil. Mae hyn yn cynnwys trafodaeth bellach ar gyllid ymchwil, gallu ymchwil, partneriaethau ymchwil, ac yn tynnu ar adborth ansoddol o ’ r Gwerthusiad Terfynol ar effeithiau ’ r gweithrediad ar agweddau, ymddygiad a gweithgareddau academaidd.

Cyllid ymchwil

4.6 Mae lefel yr incwm ymchwil a sicrhawyd ym mhob cyfnod hawlio (hyd at gyfnod Hawlio 13 ym mis Ionawr 2023) ac yn gronnol dros y cyfnod cyflawni wedi ’ i nodi yn Ffigur 4-1. Mae ’ r data ’ n dangos bod incwm wedi ’ i sicrhau ’ n gyson dros y cyfnod cyflawni; mae hyn yn galonogol o ystyried y potensial ar gyfer incwm pellach yn y cyfnod hawlio terfynol hyd at fis Mehefin 2023. Roedd lefel uchel yr incwm a sicrhawyd yng nghyfnod Hawlio 9 yn gysylltiedig â grant o £1+ miliwn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yn y llinyn Seiberfygythiadau, yn benodol y prosiect “ Trust in User-generated Evidence: Analysing the Impacts of Deepfakes on Accountability Processes for Human Rights Violations (TRUE )”.

Ffigur 4-1: Cyfnod hawlio ac incwm ymchwil cronnol a sicrhawyd

Ffynhonnell: Data monitro Prifysgol Abertawe

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5