Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

33

4.7 Ni osodwyd unrhyw dargedau penodol gan WEFO (na gan y gweithrediad yn fewnol) ar gyfer y ffynonellau incwm ymchwil a sicrhawyd 11 . Fodd bynnag, casglodd y gweithrediad y data hwn fel rhan o ’ i brosesau monitro ac adrodd. Crynhoir y sefyllfa ym mis Ionawr 2023 yn Tabl 4-2. Cyllid gan sefydliadau ’ r UE (gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd) oedd yn cyfrif am y gyfran uchaf o incwm a sicrhawyd (50% yn gyffredinol). O ystyried yr ansicrwydd ynghylch amgylchedd cyllid cyhoeddus y DU, mae hwn yn ganfyddiad calonogol o ran gallu ’ r gweithrediad i sicrhau cyllid gan sefydliadau ’ r UE. Yn ogystal, mae bron i £0.5 miliwn wedi ’ i sicrhau gan adrannau Llywodraeth y DU (gan gynnwys y Swyddfa Gartref a ’ r Weinyddiaeth Gyfiawnder).

Tabl 4-2: Cyllid ymchwil cronnol wedi ’ i sicrhau a ’ i hawlio, fesul ffynhonnell Dangosydd Gwerth (£) % y gwerth

Nifer y prosiectau

Sefydliadau ’ r UE

1,357,516

50%

2

Llywodraeth y DU

493,196

18%

4

Elusen

431,145

16%

3

CCAUC/Llywodraeth Cymru

290,611

11%

4

Busnes

134,300

5%

2

Arall

19,701

1%

1

Ffynhonnell: SQW yn seiliedig ar ddata monitro Prifysgol Abertawe

4.8 O adolygu ’ r data ’ n fanylach mae ’ n dangos bod dros 10 o gyllidwyr unigol gwahanol, gan gynnwys nifer o wahanol elusennau, busnesau, a sefydliadau sector cyhoeddus, sy ’ n amlygu ’ r ystod o wahanol ffynonellau cyllid posibl sydd ar gael i ’ r gweithrediad, ac yn y dyfodol. Mae ’ n nodedig nad yw ’ r gweithrediad wedi sicrhau cyllid gan Gynghorau Ymchwil y DU, a gellir ystyried hyn yn gyfle a gollwyd hyd yma (nodir bod y gweithrediad wedi bod yn aflwyddiannus mewn cais ESRC mawr a fyddai, o ’ i gael, wedi cyflawni ’ n llawn yn erbyn y targed), ac yn gyfle ar gyfer y dyfodol. 4.9 Amlygir hefyd fod y gweithrediad wedi cofnodi nifer a gwerth y ceisiadau grant aflwyddiannus . Erbyn mis Hydref 2022 (heb unrhyw ddata pellach wedi’i ddarparu yng nghyfnod Hawlio Ionawr 2023) roedd y gweithrediad wedi cyflwyno 23 o geisiadau aflwyddiannus, gyda chyfanswm gwerth cynigion o £8.2 miliwn. Ar y pwynt hwn hefyd roedd pum cais a gyflwynwyd oedd heb eu penderfynu, a oedd yn werth £1.1 miliwn. Amlygwyd y lefel sylweddol o gystadleuaeth am gyllid yn gyson mewn ymgynghoriadau ar gyfer y Gwerthusiad Terfynol, yn arbennig ar gyfer dyfarniadau ar lefel y DU a dyfarniadau

11 I nodi, er na osododd WEFO dargedau penodol, mae'n pennu'r ffynonellau incwm sy'n gymwys i'w hawlio o dan gyllid ERDF.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5