Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

35

Ffigur 4-2: Nifer cronnol o bartneriaid yn cydweithredu ar brosiectau ymchwil

Ffynhonnell: SQW yn seiliedig ar ddata monitro Prifysgol Abertawe

4.12 Yn gyson â chanllawiau ERDF gall hyn gynnwys, lle bo ’ n berthnasol, Brifysgol Abertawe fel partner (h.y. byddai prosiect sy ’ n cynnwys Abertawe ac un partner allanol, yn cyfateb i ddau ‘ bartner yn cydweithredu ar brosiectau ymchwil ’ ). Ac eithrio Abertawe ei hun, mae ’ r data felly ’ n dangos bod y gweithrediad wedi cynnwys cydweithredu ar brosiectau ymchwil gyda 43 o bartneriaid allanol unigryw: roedd 26 ohonynt yn sefydliadau ymchwil (gan gynnwys prifysgolion), 16 yn gwmnïau preifat, ac un yn sefydliad cyhoeddus (Heddlu De Cymru).

4.13 Amlygir sawl pwynt o ’ r data:

• roedd y rhan fwyaf (20 o ’ r 26) o sefydliadau ymchwil yn sefydliadau y tu allan i ’ r DU, gan gynnwys prifysgolion yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a lleoliadau eraill yn rhyngwladol. Roedd partneriaid prifysgolion y DU yn cynnwys prifysgolion UCL, East Anglia, Caerwysg, Leeds a Sussex; mae hyn yn amlygu cyrhaeddiad rhyngwladol y gweithrediad, sy ’ n rhychwantu ’ r llinynnau gweithgaredd Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau • roedd nifer o brosiectau unigol yn cyfrif am nifer uchel o bartneriaethau, gyda ’ r gweithrediad yn ymwneud â chydweithio ar raddfa fawr; roedd enghreifftiau ’ n cynnwys y cais ESRC ar raddfa fawr a nodir uchod (14 partner allanol) a ’ r prosiect ‘ Tech Against Terrorism Europe ’ (pum partner allanol)

roedd ariannu llwyddiannus/cydweithrediadau prosiect gweithredol (saith sefydliad ymchwil, chwe chwmni preifat, un sefydliad cyhoeddus) 14 o ’ r 43 partner yn ymwneud â cheisiadau

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5