Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

2

Canolfan Seiberfygythiadau, Canolfan Ymchwil a Datblygu Technoleg Gyfreithiol, Clinig y Gyfraith (rhannol gymwys ar gyfer cymorth ERDF 1 ), ac Ystafell Bwrdd Gweithredol.

• Cyllid refeniw o ERDF (£2.6 miliwn) a Phrifysgol Abertawe (£1.6 miliwn) i gefnogi penodi ymchwilwyr Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau, tîm datblygu meddalwedd, a thîm rheoli prosiect.

Diben a chwmpas y gwerthusiad

1.6 Yn gyson â gofynion cyllid ERDF, ymrwymodd Prifysgol Abertawe i gynnal gwerthusiad cadarn o ’ r gweithrediad. Felly, comisiynodd y Brifysgol SQW ym mis Chwefror 2020 i arwain Gwerthusiadau Cychwynnol a Chanol Tymor o ’ r gweithrediad. Yna, wedi hynny, ac ar wahân, comisiynodd y Brifysgol SQW i arwain Gwerthusiad Terfynol ym mis Gorffennaf 2022 (yr adroddiad hwn). 1.7 Wedi ’ i gwblhau ym mis Mehefin 2020, roedd y Gwerthusiad Cychwynnol yn canolbwyntio ar ddatblygu model rhesymeg/theori newid ar gyfer y gweithrediad, egluro ’ r data i ’ w gasglu i gefnogi ’ r rhaglen werthuso, a chadarnhau ’ r dull ar gyfer y Gwerthusiad Canol Tymor. 1.8 Roedd y Gwerthusiad Canol Tymor, a gwblhawyd ym mis Ionawr 2022, yn canolbwyntio ar asesu pa mor effeithiol yr oedd y gweithrediad yn dod yn ei flaen yn erbyn ei nodau ac amcanion ar bwynt interim. Ar y cyfan, roedd y canfyddiadau ar y cam Gwerthusiad Canol Tymor yn galonogol, gan ddangos cynnydd cryf mewn cyflawni ei Gynllun Busnes. Roedd y negeseuon allweddol yn cynnwys y canlynol: • roedd y gweithrediad wedi cyflawni llawer iawn o weithgarwch mewn cyd-destun heriol ac ar y cyfan roedd ar y trywydd iawn i gyflawni allbynnau a chanlyniadau yn unol â disgwyliadau • roedd pandemig Covid-19 yn anochel wedi dylanwadu ar gyflawni, gan arwain at danwariant sylweddol yn erbyn y gyllideb a ’ r angen i ailbroffilio ’ r gyllideb gan leihau cyfanswm y grant ERDF o ’ r £4 miliwn cychwynnol i £3.35 miliwn • roedd sicrhau cyllid ymchwil wedi bod yn heriol (oherwydd oedi mewn penodi staff ymchwil a chwblhau ’ r Ganolfan Seiberfygythiadau), gyda chynnydd cymedrol wedi ’ i wneud bryd hynny yn erbyn targed yr ERDF o £3.4 miliwn mewn cyllid ymchwil a sicrhawyd erbyn diwedd y gweithrediad.

1 Ffocws y prosiect mewn perthynas â Chlinig y Gyfraith oedd ariannu datblygiad y man ar gyfer profi prototeip, nid ei gylch gwaith ehangach (darparu cyngor cyfreithiol pro bono), nad yw o fewn cwmpas y prosiect sy’n gymwys ar gyfer ERDF.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5