36
• roedd y cwmnïau preifat yn cynnwys cymysgedd o gwmnïau o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol, ac ymgysylltwyd â hwy drwy naw prosiect gwahanol, gan awgrymu lefel gadarnhaol o ymgysylltu â phartneriaid yn y diwydiant drwy amrywiaeth o fecanweithiau h.y. ni wireddwyd hyn gan un neu ddau o brosiectau yn unig gyda nifer o bartneriaid.
Myfyrdodau ansoddol
4.14 Yn ogystal â ’ r data meintiol a ’ r wybodaeth am bartneriaethau ymchwil, mae adborth ansoddol o ymgynghoriadau ag ymchwilwyr a rhanddeiliaid yn rhoi tystiolaeth ychwanegol ar y mecanweithiau a ddefnyddiwyd i gefnogi a gwireddu buddion cadarnhaol yn ymwneud ag ymchwil. Daeth chwe phwynt allweddol i ’ r amlwg o ’ r ymgynghoriadau: • Yn gyntaf, roedd academyddion a rhanddeiliaid yn teimlo bod y cymorth a ddarperir gan gapasiti ’ r swyddfa ymchwil i nodi cyfleoedd ariannu ymchwil, ymgysylltu â chyllidwyr posibl, a chefnogi datblygu ceisiadau, yn werthfawr. Rhoddodd hyn gapasiti ac arbenigedd ychwanegol pwysig yn y broses o sicrhau grantiau, a dywedwyd ei fod wedi helpu i ganfod ystod eang o ffynonellau ariannu posibl (gan gynnwys y sector cyhoeddus a chyllidwyr eraill) a all lywio ’ r broses o ennill grantiau yn y tymor hwy. Yn fwy cyffredinol, teimlwyd bod y cymorth hwn wedi helpu i wella proffesiynoldeb a chysondeb y broses o wneud cais am grant a llwyddo, ac wedi galluogi ’ r broses hon i fod yn fwy cydweithredol, strategol a strwythuredig. • Yn ail, teimlwyd bod y gweithrediad – yn fewnol ac yn allanol – wedi ehangu meysydd ymchwil y Brifysgol ym maes Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau, ac yn ei dro wedi helpu i ddatblygu a chryfhau enw da ’ r Brifysgol yn y meysydd hyn. Er y cydnabuwyd mai ‘ proses hirdymor ’ yw hon, a ’ i bod yn faes cystadleuol sy ’ n newid yn gyson, teimlwyd fod maint yr adnoddau a phroffil LILW yn bwysig. Ymhlith y meysydd penodol a nodwyd lle teimlwyd bod y gweithrediad wedi chwarae rhan bwysig oedd eithafiaeth ar-lein a therfysgaeth, a ’ r croestoriadau rhwng technoleg, mynediad at gyfiawnder a throseddau.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5