38
tymor hwy. Nododd rai ymgyngoreion bod y gwaith cyfalaf hefyd yn bwysig, gan ddarparu amgylchedd a man ffisegol yn yr adeilad Technium lle gall cydweithwyr ar draws y Labordy gyfarfod yn ffurfiol ac yn anffurfiol i drafod syniadau a rhannu gwybodaeth.
• Yn bumed, nodwyd gwaith y Tîm Datblygu Meddalwedd mewn cefnogi gweithgarwch ymchwil fel cryfder allweddol y gweithrediad yn gyson , gan ymchwilwyr mewnol ac academyddion o rannau eraill o ’ r Brifysgol sydd wedi gweithio gyda ’ r tîm i ddatblygu prototeipiau ac arddangosyddion newydd ar gyfer eu hymchwil. Nodwyd gallu ’ r Tîm Datblygu Meddalwedd fel cyfyngiad gan rai ymgyngoreion – gan gydnabod y lefel staffio gymedrol, newid mewn staff, a galwadau sylweddol ar eu hamser gan yr elfen academaidd o fewn y gweithrediad yn ffurfiol ac o rannau eraill o ’ r Brifysgol. Fodd bynnag, teimlwyd bod y tîm yn rhoi gwerth ychwanegol sylweddol i ’ r gweithrediad.
Rydw i wedi bod yn gweithio gyda ’ r datblygwyr meddalwedd … mae eu cymorth a ’ u harweiniad wedi bod yn amhrisiadwy
Ymgynghorai sy ’ n rhanddeiliad
• Yn chweched, credir bod y cyfleusterau a ddarperir gan y gweithrediad, yn enwedig mewn perthynas â ’ r Ganolfan Seiberfygythiadau, wedi bod yn werthfawr wrth wneud cais am gyllid ymchwil . Mae ’ r cyfleusterau hefyd wedi hwyluso datblygiad syniadau a chysyniadau prosiect na fyddai wedi bod yn bosibl, neu wedi bod yn anodd eu cwblhau yn flaenorol. Er nad yw buddion y Ganolfan Seiberfygythiadau wedi’u eu cyfrifo’n yn llwyr hyd yma i incwm ymchwil gwirioneddol yn cael ei sicrhau – gyda ’ r Ganolfan yn aros am achrediad PASF – rhagwelwyd y byddai hyn yn cael ei wireddu yn y dyfodol, ac y byddai wedi dylanwadu ar ymddygiadau a cheisiadau grant hyd yn hyn. 4.15 Nododd hefyd fod y gweithrediad wedi arwain at gynhyrchu allbynnau academaidd gan gynnwys cyhoeddiadau a chyflwyniadau mewn cynadleddau, gyda rhagor yn cael eu rhagweld yn y dyfodol o ymchwil sydd ar y gweill neu wedi ’ i gwblhau yn ddiweddar. Fel y nodwyd yn Adran 3, ceisiwyd data cynhwysfawr ar hyn gan dîm y prosiect, fodd bynnag, nid oedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan ymchwilwyr/academyddion yn gyson, sy ’ n golygu nad yw ’ n bosibl rhoi asesiad diffiniol yn y cam Gwerthusiad Terfynol hwn ar raddfa a natur yr allbynnau ymchwil ehangach hyn. 4.16 O ’ i hystyried gyda ’ i gilydd, mae ’ r dystiolaeth uchod yn awgrymu bod y gweithrediad wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at weithgarwch ymchwil, o ran sicrhau incwm ymchwil – gan ddangos cynnydd cryf yn erbyn Amcan Penodol 1.1 i wella llwyddiant sefydliadau ymchwil yng Nghymru yn denu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat. – ac yn fwy cyffredinol ynghylch gallu, cwmpas ac ansawdd ymchwil Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau yn Abertawe.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5