39
4.17 Nid yw ’ n bosibl asesu ’ n feintiol yr ychwanegedd sy ’ n gysylltiedig â ’ r gweithrediad – gyda phenderfyniadau ariannu unigol yn amodol ar benderfyniadau gan gyllidwyr ac ystod eang o ffactorau sy ’ n dylanwadu ar weithgarwch ymchwil. 4.18 Fodd bynnag, mae tystiolaeth y gwerthusiad yn awgrymu bod y gweithrediad wedi dylanwadu ’ n gadarnhaol ar ymddygiad academyddion wrth geisio cyllid ymchwil gan gynnwys mewn perthynas â ffynonellau cyllid a ’ r prosesau o ddatblygu cynigion, wedi helpu i alluogi a hwyluso ymgysylltiad â phartneriaid newydd (o fewn y brifysgol ac yn allanol), a darparu ’ r platfform
Bydd proffil, mas critigol, arbenigedd, a ’ r cyfleusterau yn LILW … yn parhau i ddarparu sail ar gyfer datblygiad cynigion cymhellol a chystadleuol
Ymgynghorai academaidd
seilwaith – yn ffisegol yn y gwaith cyfalaf, ac o ran y staff ymchwil ychwanegol a ’ r Tîm Datblygu Meddalwedd – sydd wedi helpu i sicrhau incwm na fyddai wedi ’ i sicrhau fel arall. Bydd y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran galluogi ’ r Brifysgol i ddarparu gweithgarwch ymchwil sensitif yn y dyfodol, nad oedd yn bosibl yn flaenorol. Er ei bod yn anodd rhoi tystiolaeth ffurfiol, mae ’ r ymgynghoriadau â phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol hefyd yn awgrymu bod y gweithrediad wedi chwarae rhan bwysig wrth wella gallu ’ r Brifysgol i ddenu a chadw academyddion o safon uchel, drwy ddarparu portffolio ehangach o waith ymchwil, gwella maint a màs critigol ymchwilwyr, datblygu a gwreiddio partneriaethau newydd a darparu gwell cyfleusterau ar gyfer ymchwil cydweithredol yn y dyfodol. 4.19 Mae ’ r rhain yn ganfyddiadau cadarnhaol ar y cyfan, sy ’ n adlewyrchu ’ n arbennig y cyd-destun cyflawni heriol gan gynnwys mewn perthynas â recriwtio a chadw ymchwilwyr, a natur gystadleuol cyllid, a amlygwyd fel thema bwysig yn yr ymgynghoriadau, ac sydd wedi dylanwadu ar faint yr incwm ymchwil a sicrhawyd hyd yma.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5