40
5. Asesiad o fuddion ehangach ac asesu yn erbyn y model rhesymeg
5.1 Mae ’ r adran hon yn ystyried buddion ehangach y gweithrediad ar ymddygiadau cydweithredol, busnesau a chymdeithas yn erbyn y model rhesymeg. Mae hefyd yn rhoi sylwadau ar i ba raddau y mae ’ r gweithrediad wedi rhoi gwerth am arian.
Buddion cydweithredu
5.2 Un o nodau strategol allweddol LILW oedd meithrin cyfleoedd newydd yn Ysgol y Gyfraith ar gyfer cydweithredu rhyngddisgyblaethol a diwydiannol. Mae ’ r ymgynghoriadau ar gyfer y Gwerthusiad Terfynol hwn yn rhoi tystiolaeth galonogol bod y gweithrediad wedi gwella lefelau cydweithredu ar draws meysydd Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau. Thema gyffredin a ddaeth i ’ r amlwg o ’ r ymgynghoriadau yw bod LILW wedi helpu i greu cymuned o ymchwilwyr “o’r un anian” gy da chymysgedd o arbenigeddau sy ’ n rhyngweithio ac yn cydweithio ’ n effeithiol, yn hytrach na gweithio mewn seilos.
5.3 Mae tystiolaeth hefyd i awgrymu bod cyfleoedd ariannu ychwanegol wedi ’ u nodi drwy weithgarwch cydweithredol . Mae enghreifftiau nodedig yn cynnwys:
• Llwyddodd yr Athro (Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu) sy ’ n arwain ar brosiect DRAGON- Spotter / Shield i sicrhau cyllid dilynol i gynnal gwerthusiad rhyngwladol, sy ’ n cynnwys treialu ’ r offer yn y DU, Awstralia a Seland Newydd. • Mae Uwch Ddarlithydd (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ymhellach a threialu ap a allai dracio ’ n well ‘ elfennau gweledol casineb ’ (graffiti, symbolau casineb ac ati) yn y gymuned mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr. • Llwyddodd yr Uwch Ddarlithydd (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) sy ’ n arwain ar y prosiect Include Journey i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a ’ r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddatblygu ’ r prosiect ymhellach. 5.4 Fodd bynnag, ar y cam Gwerthusiad Terfynol hwn mae ’ n rhy gynnar i asesu a fydd lefelau uwch o gydweithio â phartneriaid allanol yn cael eu cynnal , a bydd hyn yn dibynnu ’ n rhannol ar ffurf y gweithrediad y tu hwnt i ddiwedd cyfnod yr ERDF ym mis Mehefin 2023.
5.5 Mae ’ r dystiolaeth o fuddion cydweithio rhwng gwahanol grwpiau rhanddeiliaid wedi ’ i nodi ’ n fanylach yn y paragraffau sy ’ n dilyn.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5