41
Gweithgarwch cydweithredol o fewn Prifysgol Abertawe
5.6 Ar y cam Gwerthusiad Terfynol hwn, mae adborth gan ymgyngoreion yn dangos bod y gweithrediad wedi cefnogi diwylliant ymchwil cydweithredol gwell yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe . Drwy gydol y gweithrediad, bu ymgysylltu parhaus rhwng LILW a chydweithwyr o Ysgol y Gyfraith, gan gynnwys prosiectau ymchwil cydweithredol, ymgysylltu â ’ r Tîm Datblygu Meddalwedd, a digwyddiadau sy ’ n agored i bawb o fewn yr Ysgol / y Gyfadran. 5.7 Yn gysylltiedig â hyn, roedd tystiolaeth ansoddol gref bod cysylltiadau a synergeddau rhwng tîm Technoleg Gyfreithiol a Chlinig y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwella dros amser . Bu mecanwaith cyfeirio ac atgyfeirio sydd
Mae gwir egni i waith y Labordy, ac rydw i wedi dysgu llawer gan rai o’r academyddion eraill, y mae gan lawer ohonynt well dealltwriaeth o’r dechnoleg nag sydd gen i
Ymgynghorai sy ’ n rhanddeiliad mewnol
o fudd i bartneriaid allanol rhwng y ddau dîm. Er enghraifft, cyflwynodd y Labordy Clinig y Gyfraith i gwmni meddalwedd sy ’ n datblygu ap hunan-dywys ar gyfer unigolion sy ’ n mynd i dribiwnlysoedd cyflogaeth. Treialodd y Clinig yr ap gyda ’ u cleientiaid gan arwain at adborth gwerthfawr i ’ r cwmni a phrofiad buddiol i fyfyrwyr. Mae gweithgarwch cydweithredol rhwng y Clinig a ’ r Labordy hefyd wedi bod yn gryf. Mae enghreifftiau o weithgarwch yn cynnwys: • Mae’r Labordy wedi cefnogi a chynghori ar waith mewnfudo’r Clinig, gan gynnwys prosiect Clinig sy’n defnyddio ap o’r enw ‘legalconnection’ i gefnogi ffoaduriaid o’r Wcráin i gael mynediad at gyngor mewn amser real. • Mae ’ r Labordy wedi arwain ar ddatblygu sgwrsfot i helpu aelodau ’ r cyhoedd i ddeall Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016, a ddaeth i rym yn 2022. Mae ’ r sgwrsfot yn cael ei dreialu yn y Clinig. • Mae ’ r Clinig yn datblygu ap atgyfeirio rhyngasiantaethol newydd gyda chefnogaeth gan y Labordy. Nod yr ap yw gwella rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, a bod o fudd i rai o ’ r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae cyllid wedi ’ i sicrhau i dreialu ’ r ap, ac mae adborth yn awgrymu bod y Labordy wedi cyfrannu ’ n fawr at sicrhau ’ r cyllid hwn oherwydd ei arbenigedd Technoleg Gyfreithiol. • Roedd ail gam y prosiect Ariannu Arloeswr Rheoleiddwyr a arweiniwyd gan yr SRA yn cynnwys y Clinig yn gweithio ochr yn ochr â ’ r tîm Technoleg Gyfreithiol i ddatblygu datrysiadau technolegol i gefnogi ’ r agenda mynediad at gyfiawnder.
5.8 Fodd bynnag, mae tystiolaeth o well cysylltiadau a synergeddau rhwng arbenigedd Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau yn y Brifysgol (h.y. cydweithio rhwng
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5