42
themâu o fewn y gweithrediad ei hun ) yn fwy cyfyngedig . Er bod y gweithrediad wedi helpu i feithrin rhywfaint o orgyffwrdd mewn gweithgarwch ac ymgysylltu (e.e. darparu digwyddiadau ar y cyd, cyfarfodydd ar y cyd, a thrafodaethau mwy anffurfiol fel y nodir yn Adran 4), cyfyngedig yw ’ r dystiolaeth o weithgarwch ymchwil cydweithredol mwy sylweddol a ffurfiol. Gall hyn adlewyrchu ’ n rhannol bresenoldeb hirsefydledig a phresennol CYTREC cyn y gweithrediad, o ’ i gymharu â Thechnoleg Gyfreithiol a oedd yn faes ymchwil sy ’ n dod i ’ r amlwg yn y Brifysgol. Mae ’ n bosibl hefyd nad oedd rhywfaint o amwysedd a oedd yn bodoli ynghylch y cysylltiadau rhwng CYTREC ac LILW (a drafodwyd yn gynharach) o gymorth i annog gwaith rhyngddisgyblaethol. O ystyried y cwmpas ar gyfer gwell cyfleoedd o ’ r groesffordd rhwng Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau, a sut y gellir rhannu dysgu a gwybodaeth yn fwy cyson i nodi a throsoli ’ r cyfleoedd hyn, gallai hwn fod yn faes i ’ w ddatblygu ymhellach ar gyfer y Labordy wrth symud ymlaen. 5.9 Yn fwy cyffredinol, adroddwyd bod gwelededd mewnol a phroffil LILW wedi gwella dros amser, gan gefnogi gwell cydweithio rhyngddisgyblaethol ar draws y Brifysgol . Yn benodol, roedd adborth yn pwysleisio ’ r cysylltiadau cryf sydd wedi datblygu rhwng CYTREC a ’ r Adran Gyfrifiadureg, oherwydd cydgyfeiriant arbenigedd technegol a phynciau ar draws y ddwy ddisgyblaeth. Er enghraifft, mae academyddion CYTREC yn ymwneud yn agos â Chanolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) yr EPSRC mewn Gwella Rhyngweithio Dynol a Chydweithrediad â Systemau a Ysgogir gan Ddata a Gwybodaeth yn y Ffowndri Gyfrifiadurol. Roedd adborth hefyd yn awgrymu lefel dda o gydweithredu rhwng LILW a Chyfadran ehangach y Dyniaethau a ’ r Gwyddorau Cymdeithasol (e.e. troseddeg, ieithyddiaeth), er bod adborth gan leiafrif o ymgyngoreion yn awgrymu bod posibl cael lefel uwch o weithgarwch cydweithredol rhwng Technoleg Gyfreithiol a disgyblaethau eraill yn y Brifysgol. Fodd bynnag, mae angen cydnabod capasiti ’ r Labordy o ran staff/amser, o ’ i gymharu â ’ r ystod ehangach o ddisgyblaethau; roedd angen blaenoriaethu a ffocws. Mae ystyried os, a sut, y gellir gwella gwaith trawsddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol yn gyfle wrth symud ymlaen.
Gweithgarwch cydweithredol gyda sefydliadau allanol
5.10 Ar draws meysydd Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau mae ’ r dystiolaeth yn awgrymu bod LILW wedi arwain at gydweithio gwell a/neu newydd gyda sefydliadau allanol, gan gynnwys diwydiant, sefydliadau ’ r sector cyhoeddus a ’ r trydydd sector. 5.11 Er gwaethaf rhai heriau, mae ’r tîm Technoleg Gyfreithiol wedi datblygu perthynas â chwmnïau cyfreithiol a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Cymdeithas y Cyfreithwyr Caerdydd a ’ r Cylch, Llywodraeth Cymru, Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), a Newyddion y Gyfraith Cymru. Mae ’ r Labordy yn ymwneud â phwyllgor Technoleg y Gyfraith Cymdeithas Cyfreithwyr Caerdydd a ’ r Cylch, gan ddarparu mewnbwn academaidd a oedd yn absennol cyn LILW. Bu sawl ymgysylltiad â ’ r SRA hefyd, er enghraifft, drwy ’ r platfform Technoleg Gyfreithiol Rithwir a ’ r prosiect Ariannu Arloesol gan y Rheoleiddwyr (a drafodir uchod).
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5