Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

43

5.12 Fodd bynnag, amlygodd adborth gan ymgyngoreion yr heriau sy ’ n gysylltiedig ag ymgysylltu â sector y gyfraith. Yr her allweddol fu ’ r amharodrwydd o fewn y sector i fabwysiadu technolegau newydd ac o ganlyniad yr angen i addysgu ’ r sector ynghylch defnyddiau/buddiannau posibl technolegau newydd (a ’ r goblygiadau o ran amser/adnoddau sy ’ n gysylltiedig ag addysg). Ochr yn ochr â hyn, mae ’ r tîm wedi gorfod llywio blaenoriaethau cystadleuol o fewn sefydliadau a ’ r cyfyngiadau ariannu sy ’ n ymwneud â ERDF (e.e. yn ymwneud â masnacheiddio).

5.13 Yn wahanol i Faes Technoleg Gyfreithiol, roedd gan y Brifysgol berthnasoedd cryf a sefydledig eisoes ym maes ymchwil i Seiberfygythiadau. Fodd bynnag, mae ’ r gweithrediad wedi cefnogi capasiti ymchwil ychwanegol, gan arwain at “ f às critigol” o fewn CYTREC y teimlai ymgyngoreion oedd wedi gwella hygrededd y tîm yn allanol . Er enghraifft, mae gan y tîm gysylltiadau cryf â Heddlu De Orllewin Lloegr, y Rhwydwaith Byd-eang ar Eithafiaeth a Thechnoleg (GNET) / Fforwm Rhyngrwyd Byd- eang i Wrthsefyll Terfysgaeth (GIFCT),

Mae rhanddeiliaid pwysig yn gweld CYTREC a LILW fel partneriaid dibynadwy sydd â hygrededd

Ymgynghorai sy ’ n randdeiliad mewnol

Cyfarwyddiaeth Weithredol Gwrthderfysgaeth y Cenhedloedd Unedig (UN CTED), Europol, Gwrthderfysgaeth y DU 12 , a Llywodraethau Cymru a ’ r DU. Yn ogystal, mae CYTREC yn cynnal y gynhadledd Terfysgaeth a Chyfryngau Cymdeithasol (TASM) ddwywaith y flwyddyn sy ’ n dod ag ystod o ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr o wahanol wledydd a disgyblaethau ynghyd. Denodd cynhadledd TASM 2022 dros 200 o fynychwyr o fwy na 15 o wledydd, gyda chynrychiolaeth o ’ r prif gwmnïau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys TikTok, Facebook a Twitter.

5.14 Hefyd, ers y Gwerthusiad Canol Tymor, mae Cyfarwyddwr CYTREC wedi cymryd y rôl cydlynydd yn rhwydwaith VOX-Pol – rhwydwaith academaidd a ariennir gan yr UE sy ’ n canolbwyntio ar eithafiaeth wleidyddol dreisgar ar-lein – sy ’ n golygu bod y rhwydwaith bellach yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe (gan Brifysgol Dublin City yn flaenorol). Pwysleisiodd ymgyngoreion botensial y rhwydwaith hwn i gyfrannu at gydweithrediadau ymchwil posibl a chyfleoedd ariannu yn y dyfodol. Yn gadarnhaol, mae adborth yn awgrymu bod y gweithrediad wedi cyfrannu at benodi CYTREC yn arweinydd

Mae [VOX-Pol] yn cynnig lle cyffrous iawn ar gyfer syniadau newydd, cydweithio ar ymchwil a datblygu ymchwilwyr

Ymgynghorai sy ’ n randdeiliad mewnol

12 Sylwer, roedd y gynhadledd yn un ddwyflynyddol tan 2021 (pan y’i cyflwynwyd ar -lein oherwydd pandemig Covid-19), ond cafodd ei chynnal y flwyddyn ganlynol yn 2022.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5