Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

44

rhwydwaith trwy gefnogi datblygiad “canolbwynt” ar gyfer arbenigedd a gweithgar wch yn y maes ymchwil hwn.

Buddiannau busnes a chymdeithasol

5.15 Mae prosiectau wedi symud ymlaen ymhellach ers y Gwerthusiad Canol Tymor, gyda rhai technolegau / cymwysiadau wedi ’ u dilysu bellach yn symud tuag at y cynhyrchion hyfyw lleiaf (MVP) . Er enghraifft, mae DRAGON-Spotter a DRAGON-Shield yn cael eu treialu a ’ u gwerthuso a disgwylir i ’ r gwaith ddod i ben erbyn mis Gorffennaf 2023. Mae ’ r ap Include Journey a grëwyd gan y Tîm Datblygu Meddalwedd hefyd wedi ’i ddatblygu ymhellach, gyda chrynodeb o gynnydd a buddion ers y Gwerthusiad Canol Tymor a gyflwynir yn y blwch testun isod.

Include Journey

• Sicrhaodd arweinydd y prosiect ddau ddyfarniad cyllid i symud y prosiect yn ei flaen: £120k gan Bartneriaeth SMART Llywodraeth Cymru a £400k gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. • Defnyddiwyd y dyfarniad cyllid cyntaf gan Lywodraeth Cymru i dreialu ’ r ap o fewn Include, ac mae ’ r sefydliad bellach yn ymgorffori ’ r ap yn ei weithrediadau o ddydd i ddydd. Mae ’ r ap yn helpu staff i gefnogi unigolion yn well, yn ogystal â chynhyrchu data ystyrlon y gellir ei ddefnyddio i nodi tueddiadau a mewnwelediadau i ymddygiad cleientiaid ac effeithiolrwydd ymyriadau. • Yn fwy diweddar, sicrhawyd cyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflwyno cynllun peilot 9 mis o ’ r ap gyda gadawyr carchar o Garchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr a Charchar Abertawe. Dri mis i mewn i ’ r cyfnod peilot, mae ’ r nifer sy ’ n manteisio ar yr ap wedi bod yn gryf a dywedir bod yr ap wedi cael derbyniad da gan ddefnyddwyr. Cyn cychwyn ar y cynllun peilot, roedd y Labordy yn cefnogi rhoi rhai addasiadau ymylol i ’ r ap ar waith (e.e. i fynd i ’ r afael â gofynion diogelwch ychwanegol). • Mae buddion (posibl) y prosiect yn amlweddog, o fod o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth a staff, i ddarparu mewnwelediad ac offer ychwanegol i ddarparwyr gwasanaethau a llunwyr polisi. Mae potensial hefyd i ’ r ap gael ei ddefnyddio ar draws gwahanol feysydd gwasanaeth a sectorau.

5.16 Un o fuddion pellach y Labordy yw trosglwyddo gwybodaeth rhwng diwydiant ac academyddion , drwy brosiectau ymchwil cydweithredol neu weithgareddau ymgysylltu/lledaenu ehangach. Amlygodd ymgynghoriadau ar gyfer y Gwerthusiad Terfynol yn benodol rôl y Labordy mewn rhannu gwybodaeth â sector y gyfraith. Mae adnoddau fel y fideos esboniwr technoleg, ynghyd â digwyddiadau fel y sesiynau gwybodaeth i gyfreithwyr dan hyfforddiant, i gyd wedi bod yn fecanweithiau newydd pwysig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng y byd academaidd a diwydiant. Fel y nodwyd uchod, mae ymgysylltu â diwydiant hefyd wedi cynorthwyo i gyflawni yn erbyn Amcan Penodol 1.1 i wella llwyddiant

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5