Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

45

sefydliadau ymchwil yng Nghymru yn denu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat, gyda thros £130k o incwm ymchwil preifat wedi ’ i sicrhau hyd yma. Wedi dweud hyn, ni wyddys i ba raddau y mae ’ r ymgysylltu hwn wedi bod o fudd i unigolion/cwmnïau yn y sector, gan nad oes tystiolaeth wedi ’ i chasglu ynghylch buddion y gweithgareddau hyn ar gyfer buddiolwyr. Wrth symud ymlaen, mae ’ r platfform Technoleg Gyfreithiol Rithwir, Arsyllfa Technoleg Gyfreithiol, a map cychwyn busnes Technoleg Gyfreithiol Cymru, hefyd yn cael eu hystyried yn arfau pwysig ar gyfer cynnal cyfnewid gwybodaeth rhwng y byd academaidd a diwydiant. 5.17 Roedd y model rhesymeg a oedd yn nodi ’ r llwybrau posibl i effaith ar gyfer y gweithrediad hefyd yn cynnwys dau ganlyniad busnes/cymdeithasol canolraddol wedi ’ u cysylltu i Glinig y Gyfraith: gwell mynediad i amgylchedd gwell ar gyfer profi cymwysiadau technoleg newydd mewn gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, a gwell mynediad at gymorth cyfreithiol i gyfranogwyr mewn treialon/profion prototeip/pecyn cymorth. Ar y cam Gwerthusiad Canol Tymor roedd tystiolaeth ar y canlyniadau hyn yn gyfyngedig, yn bennaf oherwydd cyfnod cynnar prosiectau ac effaith cyfyngiadau cysylltiedig â Covid-19 ar y gallu i ddefnyddio ’ r cyfleusterau fel y cynlluniwyd. Fodd bynnag, ar y cam Gwerthusiad Terfynol hwn, mae ’ r defnydd o ’ r Clinig wedi dychwelyd i lefelau cyn-bandemig, ac fe ’ i defnyddiwyd i dreialu technolegau newydd, megis ap i gefnogi unigolyn sy ’ n mynd i dribiwnlys cyflogaeth a sgwrsfot sy ’ n cynnig cyngor arbenigol ar Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016. Yn ogystal â ’ r buddion uniongyrchol sy ’ n gysylltiedig â threialu ’ r apiau, mae ’ r prosiectau hyn hefyd wedi rhoi mewnweledid defnyddiol ar sut y gellir cyfuno apiau/technolegau o ’ r fath â ’ r cymorth presennol sydd ar gael trwy Glinigau ’ r Gyfraith. 5.18 Yn gysylltiedig â’r agenda hon, roedd tystiolaeth ansoddol gref i awgrymu bod gan lawer o’r prosiectau ar draws portffolio’r Labordy y potensial i gael “effaith wirioneddol ar gymdeithas” . Er y nodwyd gan ymgyngoreion bod rhoi tystiolaeth o fuddion prosiectau Seiberfygythiadau yn arbennig yn aml yn heriol oherwydd eu natur sensitif a chyfrinachol, tynnwyd sylw at brosiectau fel yr apiau Include Journey (a drafodir uchod) ac apiau ‘casineb gweledol’ am eu potensia l i sicrhau buddion cymdeithasol i gymunedau/unigolion yng Nghymru a thu hwnt. “ Nid prosiectau academaidd yn unig yw ’ r rhain – mae ganddynt ddefnydd ac effaith enfawr yn y byd go iawn. Mae ’ r Labordy wedi rhoi ’ r gallu hwn i ni arloesi a symud y syniadau hyn o gysyniadau i gynhyrchion/prosiectau gwirioneddol. Er ein bod i gyd yn ymwybodol o effaith y ffordd yr ydym yn gweithio, dim ond hyn a hyn y gallwch fynd heb yr arbenigedd technegol a ’ r cymorth. Mae ’ r Labordy wedi llenwi ’ r bwlch hwn ac wedi ehangu ein cyrhaeddiad ”. Ymgynghorai sy ’ n rhanddeiliaid mewnol 5.19 Rhoddodd ymgynghoriadau â nifer fach o bartneriaid prosiect hefyd enghreifftiau o fuddion uniongyrchol sy ’ n dod i ’ r amlwg i ’ w sefydliad/busnes o ganlyniad i gydweithio â LILW . Roedd y buddion nodedig yn cynnwys gwybodaeth/mewnwelediadau newydd, buddion rhwydweithio a pherthnasoedd, a chyfleoedd ariannu neu ddatblygu busnes dilynol. Cyfeiriodd sawl partner hefyd at enghreifftiau o welliannau i brosesau mewnol o ganlyniad i

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5