Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

3

• roedd ystod o brosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol wedi symud ymlaen yn llwyddiannus, gan arwain at brototeipiau diriaethol i ’ w profi a ’ u gwerthuso gyda defnyddwyr, ac mewn rhai achosion platfformau a oedd ar gael i ’ w defnyddio • roedd tystiolaeth o fuddion ehangach sy ’ n dod i ’ r amlwg mewn perthynas â gwell partneriaethau, rhwydweithiau, ac ymddygiadau sy ’ n cefnogi ymchwil a datblygu cydweithredol. 1.9 Tua dwy flynedd ar ôl y Gwerthusiad Canol Tymor, diben craidd y Gwerthusiad Terfynol hwn yw rhoi asesiad o effaith y gweithrediad wrth iddo nesáu at ddiwedd ei gyfnod ERDF yn erbyn y nodau a’r amcanion a nodir yn y Cynllun Busnes. Mae hyn yn cynnwys asesiad o’r graddau y mae’r buddion a wireddwyd yn ‘ychwanegol’ o’u cymharu â’r hyn a fyddai wedi digwydd heb LILW. Mae’r Gwerthusiad Terfynol hefyd yn rhoi asesiad wedi’i ddiweddaru ar gyflawniad y gweithrediad yn erbyn Themâu Trawsbynciol (CCT) ERDF, yn ystyried beth oedd wedi gweithio’n dda a ddim cystal o ran cyflawni, ac yn ystyried goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd/blaenoriaethau’r gweithrediad ar ôl i gyfnod yr ERDF ddod i ben. 1.10 Dechreuodd y Gwerthusiad Terfynol ym mis Medi 2022, gyda gwaith ymchwil sylfaenol yn cael ei gwblhau rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023. Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio ym mis Mai 2023, cyn cwblhau ’ r gweithrediad yn ffurfiol ym mis Mehefin 2023. Felly, mae ’ r Gwerthusiad Terfynol yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd wrth i ’ r gweithrediad ddod i ben, ond tra bod y gweithgarwch yn parhau. Mae angen cofio hyn wrth ystyried y dystiolaeth ar gynnydd yn ymwneud â gwariant a chyflawni dangosyddion targed ERDF, a ’ r canlyniadau ac effeithiau terfynol ehangach.

Methodoleg y gwerthusiad

Model rhesymeg

1.11 Mae modelau rhesymeg yn ddyfeisiadau defnyddiol i lywio gwerthusiad, oherwydd eu bod yn annog meddwl am y camau sydd eu hangen er mwyn i ymyriad gael yr effeithiau a ddymunir, a natur yr effeithiau y gellir eu cwmpasu mewn gwerthusiad. Mae model rhesymeg yn mynegi ’ n benodol y berthynas rhwng mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau, canlyniadau ac effeithiau:

• mewnbynnau yw ’ r adnoddau a ddefnyddir gan yr ymyriad, gan gynnwys cyllid ERDF

• gweithgareddau yw ’ r tasgau hynny a gyflawnir gan yr ymyriad

• allbynnau yw canlyniadau hawdd eu mesur o ’ r gweithgareddau hynny

• canlyniadau yw ’ r newidiadau mewn ymddygiad a pherfformiad y rheini sy ’ n ymwneud ag ymyriad

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5