Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

50

6. Casgliadau ac argymhellion

Casgliadau

6.1 Mae ’ r gweithrediad wedi ’ i gyflawni yn erbyn cefndir herio l. Wedi ’ i lansio ym mis Awst 2019, effeithiwyd yn uniongyrchol ar y Labordy Cyfreithiol gan bandemig Covid-19 a ’ r cyfyngiadau a ’ r heriau cysylltiedig i unigolion a sefydliadau. Dylanwadodd y pandemig hefyd ar batrymau gwaith a ’r disgwyliadau, gyda goblygiadau i ’ r gweithrediad wrth iddo gael ei sefydlu ac wedi hynny wrth geisio symud ymlaen a chyflymu cyflawniad. 6.2 Yn y cyd-destun hwn, mae canfyddiadau ’ r Gwerthusiad Terfynol hwn o weithrediad LILW yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae ’ r gweithrediad wedi trosoli ’ n effeithiol ac wedi datblygu ymhellach arbenigedd, profiad a phroffil Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, i fynd ar drywydd ymchwil o ’ r radd flaenaf a sicrhau incwm ymchwil cystadleuol ar draws disgyblaethau Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau. Mae ’ r Labordy wedi llwyddo i adeiladu a gosod y cyfleusterau Technoleg Gyfreithiol, Seiberfygythiadau a Chlinig y Gyfraith, sefydlu timau ymchwil ag arbenigeddau perthnasol yn y ddau faes ymchwil, ac wedi ymgymryd ag ymgysylltu a gweithgareddau lledaenu gydag ystod eang o randdeiliaid. 6.3 Yn hollbwysig, mae ’ r gweithrediad wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i weithgarwch ymchwil. Mae hyn yn cynnwys sicrhau incwm ymchwil – gan ddangos cynnydd cryf yn erbyn Amcan Penodol 1.1 i wella llwyddiant sefydliadau ymchwil yng Nghymru yn denu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat, gyda gwerth £2.7 miliwn o ymchwil wedi ’ i sicrhau erbyn mis Ionawr 2023 – ac yn fwy cyffredinol yn ymwneud â chapasiti, cwmpas ac ansawdd ymchwil Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau yn Abertawe. Nododd y Gwerthusiad hefyd amrywiaeth o fuddion ehangach yn ymwneud â gwell gwybodaeth/dealltwriaeth, ymddygiad cydweithredol, a symud ymlaen â datblygu cymwysiadau technolegol newydd gyda ’ r potensial i greu buddion cymdeithasol, busnes ac economaidd sylweddol yn y dyfodol, na fyddent wedi ’ u gwireddu heb ymyrraeth. 6.4 Yn sail i ’ r perfformiad cadarnhaol hwn, mae ’ r gweithrediad wedi ’ i reoli ’ n dda. Mae ymgynghoriadau ’ n awgrymu bod rheolaeth prosiect a chefnogaeth weinyddol gref yn amlwg drwy gydol y gweithrediad. Bu newid yn y Rheolwr Prosiect yn ystod ail hanner y gweithrediad a oedd yn cynrychioli risg i ’ r gweithrediad. Fodd bynnag, cafodd y trosglwyddiad hwn ei drin yn dda, ac ni chafodd effaith andwyol ar gynnydd. Mae prosesau monitro ac adrodd wedi ’ u gweithredu ’ n effeithiol ar y cyfan. Fodd bynnag, roedd lle i gasglu data ’ n well ar fuddion ehangach LILW y tu allan i ddangosyddion ffurfiol ERDF. Ceisiodd y gweithrediad ddefnyddio ffurflen ar-lein i staff bob chwe wythnos, ond roedd ansawdd a chwmpas y deunydd a ddarparwyd mewn ymateb yn amrywiol iawn ac nid oedd yn gynhwysfawr.

Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Made with FlippingBook HTML5