51
6.5 Gall y Labordy adrodd am gyflawniadau cadarnhaol yn erbyn pob un o ’ r wyth dangosydd lefel achos Themâu Trawsbynciol , gan gyfrannu at nodau WFGA. Nododd y Gwerthusiad Terfynol ffactorau penodol y teimlwyd eu bod wedi cefnogi ’ r cyflawniad llwyddiannus yn erbyn y dangosyddion Themâu Trawsbynciol. Er enghraifft, integreiddio ’ r Themâu Trawsbynciol i gyflawniad pob dydd y gweithrediad, cyfarfodydd Themâu Trawsbynciol chwarterol dan arweiniad yr Hyrwyddwr Themâu Trawsbynciol, ac aliniad cryf rhwng meysydd ymchwil craidd y gweithrediad a ’ r Themâu Trawsbynciol. 6.6 Fodd bynnag, cafwyd rhai heriau. Amlygir dwy her allweddol. Yn gyntaf, er bod y rhan fwyaf o elfennau cyfalaf y seilwaith ffisegol wedi’u cyflawni fel y cynlluniwyd, bu oedi o fwy na blwyddyn ar gyfer cwblhau’r Ganolfan Seiberfygythiadau, o haf 2020 i aeaf 2021, gan gynnwys oherwydd heriau caffael a chymhlethdod dylunio’r g anolfan i gadw at statws PASF. O ganlyniad, nid yw’r Ganolfan Seiberfygythiadau wedi sicrhau achrediad safonol PASF hyd yma, ac nid yw staff wedi gallu cynnal prosiectau sy’n ymwneud â defnyddio data diogel neu sensitif fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. 6.7 Yn ail, roedd oedi wrth recriwtio staff yn her, yn enwedig recriwtio tîm ymchwil Technoleg Gyfreithiol. Mae heriau recriwtio, ochr yn ochr â newidiadau i ’ r strwythur staffio sydd wedi ’ u cynnwys yn yr ailbroffililio, yn golygu, yn ymarferol, bod recriwtio wedi bod yn barhaus am lawer o oes y gweithrediad. Arweiniodd hyn at ddiffyg parhad a pheth colli momentwm yn y ddarpariaeth. 6.8 Yn gyson â ’ r heriau hyn, er gwaethaf ailbroffilio ar y pwynt canol, bu tanwariant cyson yn erbyn y gyllideb drwy gydol oes y gweithrediad. Erbyn diwedd y cyfnod ERDF disgwylir tanwariant sylweddol o £800k. Mae ystod o ffactorau wedi cyfrannu at y tanwariant gan gynnwys yr heriau recriwtio, goblygiadau pandemig Covid-19, a chostau adeiladu is na ’ r disgwyl. Wedi dweud hyn, roedd yr ailbroffilio yn gyfle i ehangu a newid y strwythur staffio a chynnwys gweithgareddau newydd, megis y platfform Technoleg Gyfreithiol Rhithwir y disgwylir iddo sicrhau buddion yn y tymor hwy. 6.9 Cymysg yw ’ r canfyddiadau sy ’ n ymwneud ag effeithiolrwydd llywodraethu ’ r gweithrediad. Yn gadarnhaol, bu parhad ym Mwrdd y gweithrediad o ran llywio ’ r ddarpariaeth, a theimlai ymgyngoreion fod y mecanwaith hwn ar gyfer y Gwerthusiad Terfynol wedi gweithio ’ n dda ar y cyfan; roedd hyn yn gyson â ’ r canfyddiadau yn y cyfnod Canol Tymor. Fodd bynnag, bu sawl newid yn y strwythur llywodraethu yn ymwneud â llinynnau unigol o weithgarwch, ac ni sefydlwyd y Byrddau Cynghori Technoleg Gyfreithiol a ’r platfform Thechnoleg Gyfreithiol Rhithwir arfaethedig. Arweiniodd hyn at lefelau is o fewnbynnau allanol a mewnwelediad strategol i lywio ’ r gwaith o gyflawni ’ r elfennau hyn o weithgarwch, ac i gynnal momentwm nag a fyddai wedi bod yn ddelfrydol; mae hyn yn cyfateb i gyfle a gollwyd ar gyfer y gweithrediad.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5