52
Argymhellion
6.10 Yng nghyd-destun y casgliadau hyn, gwneir yr argymhellion canlynol:
• Argymhelliad 1: Dylai’r Brifysgol geisio dod i gasgliad prydlon ar gyfer ei hadolygiad parhaus o opsiynau ar gyfer LILW ar ôl diwedd cyllid ERDF. Dylai’r adolygiad hwn ystyried (i) swyddogaeth ac amcanio n y Labordy, i sicrhau eu bod yn parhau’n briodol, ac o ystyried hyn (ii) ffurf a chyllido’r Labordy, gan gynnwys mewn perthynas â gofynion staffio (rheoli, ymchwil a meddalwedd), a natur/pwyslais y gweithgareddau a gyflawnir. • Argymhelliad 2: Ochr yn ochr â ’ r adolygiad o opsiynau, dylai ’ r Brifysgol ystyried dichonoldeb parhau â ’ r gwaith sy ’ n gysylltiedig â ’ r platfform Technoleg Gyfreithiol Rithwir. O ystyried effeithiau posibl y platfform ar allu cwmnïau cyfreithiol Cymru a ’ r DU i gael mynediad at offer Technoleg Gyfreithiol hanfodol, a ’ i botensial i sicrhau buddion etifeddol pwysig o ’ r gweithrediad, dylai archwilio mecanweithiau ariannu posibl i gynnal darpariaeth fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. • Argymhelliad 3: Yn amodol ar ganfyddiadau ’ r adolygiad o opsiynau, dylai ’ r Brifysgol ystyried y cwmpas ar gyfer gwireddu gwell cyfleoedd o ’ r groesffordd rhwng arbenigedd Technoleg Gyfreithiol a Seiberfygythiadau a sefydlwyd/datblygwyd drwy ’ r gweithrediad hyd yma, a sut y gellir rhannu dysgu a gwybodaeth yn fwy cyson i nodi a throsoli cyfleoedd o ’ r fath. • Argymhelliad 4: Dylai ’ r Brifysgol ystyried os a sut y gellir gwella gwaith trawsddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol presennol yn y dyfodol, fel mecanwaith i helpu i gynnal y cynnydd yn yr incwm ymchwil a sicrhawyd yn ystod cyfnod ariannu ERDF. • Argymhelliad 5: Wrth symud ymlaen ar gyfer y Labordy Cyfreithiol, ac mewn unrhyw ymyriadau tebyg yn y dyfodol, dylai ’ r Brifysgol ystyried gweithredu a gwreiddio mecanweithiau a phrosesau monitro a gwerthuso o fewn gweithgaredd lefel prosiect (er enghraifft, arolygon gwaelodlin/dilynol) i sicrhau bod tystiolaeth ar effeithiau academaidd, busnes/cymdeithasol a chydweithredu gweithgarwch y Lab yn cael ei goladu ’ n systematig ac yn rheolaidd.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5