5
Theori newid ar gyfer LILW Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe, yn ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer ymchwil i seiberfygythiadau, ac yn sefydliad blaenllaw yn y DU ym maes ymchwil ac arloesi Technoleg Gyfreithiol sy ’ n dod i ’ r amlwg. Mae defnydd technolegau megis deallusrwydd artiffisial a ’r gadwyn flociau yn dod yn fwyfwy pwysig mewn ymarfer cyfreithiol a diogelwch cenedlaethol. Fodd bynnag, mae rhwystrau seilwaith presennol a chyfyngiadau capasiti yn Ysgol y Gyfraith yn rhwystr i ’ r Brifysgol fynd ar drywydd pellach ymchwil sy ’ n arwain y byd a sicrhau incwm ymchwil cystadleuol ar draws disgyblaethau Technoleg Gyfreithiol a seiberfygythiadau. Nid oes gan Ysgol y Gyfraith unrhyw gyfleusterau ar hyn o bryd i gefnogi arloesi cyfreithiol, ymchwil mewn gwybodeg gyfreithiol neu ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn cyd-destun cyfreithiol, na ’ r cyfleusterau sydd eu hangen i weithio ar ddata diogel neu sensitif, nac i gyfarfod mewn amgylchedd diogel â phartneriaid o faes gorfodi ’ r gyfraith neu asiantaethau diogelwch rhyngwladol. Hefyd, nid oes gan y Brifysgol gapasiti ymchwil ar draws y gwasanaethau cyfreithiol, y gwyddorau cymdeithasol cyfrifiannol, a ’ r sbectrwm seiber/gwrthderfysgaeth. Bydd LILW yn galluogi Ysgol y Gyfraith i wella ei safle blaenllaw yn rhyngwladol mewn Technoleg Gyfreithiol, seiberfygythiadau a thechnolegau cysylltiedig (deallusrwydd artiffisial, cadwyn flociau ac ati), gan gyflymu arloesedd ac ymchwil ar gyfer academyddion a sefydliadau sector ledled Cymru, gan gyfrannu at recriwtio a chadw talent academaidd yng Nghymru, a chefnogi datblygiad sector Technoleg Gyfreithiol cadarn a bywiog yng Nghymru ochr yn ochr â’r agenda mynediad at gyfiawnder. Bydd LILW yn rhoi mantais gystadleuol sylweddol i Abertawe o ran sicrhau incwm ymchwil cystadleuol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Bydd yr effeithiau cadarnhaol hyn yn cael eu cyflawni drwy ddatblygu canolfan LILW bwrpasol yn adeilad Technium Digidol Ysgol y Gyfraith. Ategir hyn gan ehangiad y gallu ymchwil a thechnegol presennol drwy recriwtio ymchwilwyr ychwanegol a thîm datblygu meddalwedd DevOps i weithio gyda phartneriaid academaidd a masnachol i ddylunio, datblygu a gweithredu datrysiadau meddalwedd. Hwylusir ymgysylltu â phartneriaid allanol drwy benodiad Swyddog Ymgysylltu Technoleg Gyfreithiol, a chyllid i alluogi ymchwilwyr i nodi, cwmpasu a chyflwyno ceisiadau grant a sicrhau cyllid ymchwil cystadleuol.
Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru
Made with FlippingBook HTML5