EICH CAM CYNTAF I Dyfodol Disglair DYMA
PWLS SUTBROFIAD YWBYWYN ABERTAWE? Mae ein dinas ger y môr, gyda’i lleoliad dihafal ar y ffrynt, yn caniatáu i chi wneud yn fawr o lan y môr tra’n parhau i fwynhau bwrlwm y ddinas. Trwy gydol eich astudiaethau cewch eich amgylchynu gan harddwch naturiol, a chithau’n byw ac yn astudio dafliad carreg yn unig o ganol dinas fywiog a milltiroedd o arfordir ysblennydd – Mae Abertawe yn gartref i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU – Penrhyn G ŵ yr. Gyda mwy nag 19 milltir o arfordir hardd i’w archwilio, gallwch dreulio eich amser yn crwydro copaon calchfaen Bae’r Tri Chlogwyn, yn syrffio rhai o donnau gorau’r DU yn Llangynydd, neu’n rhyfeddu at harddwch gerwin Bae Rhosili – sef y Gorau yng Nghymru (2018), y traeth gorau yn Ewrop (2017), a rhywle sy’n gyson ymhlith 10 dewis gorau’r DU yng Ngwobrau “Travellers’ Choice” Trip Advisor. pawb ar ei ennill! PENRHYN G Ŵ YR
YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE
STADIWM LIBERTY LIBERTY
M4 A CHAERDYDD
GORSAF ABERTAWE ERT E
A483
PARC SINGLETON
STRYD Y GWYNT WIND STREET
CANOL Y DDINAS
YSBYTY YSGOL FEDD GAETH
CAMPWS Y BAE
Y PENTREF CHWARAEON E TREF CH ARAEON
Y MARINA
PARC SINGLETON
ABERTAWE YN: 4 awr o Fanceinion
3 awr o Birmingham a Llundain 2 awr o Gaerfaddon a Bryste 1 awr o Gaerdydd
Mae meysydd awyr Caerdydd, Bryste a Heathrow yn hawdd i’w cyrraedd o Abertawe hefyd!
Y MWMBLS
PENRHYN GWYR
Y MWMBWLS Un o gymdogion y Brifysgol yw pentref glan môr cartrefol y Mwmbwls lle ceir Pier Fictoraidd a chastell enwog Ystumllwynarth, strydoedd sy’n frith o siopau bwtîc a lleoedd bwyta annibynnol, ynghyd â siopau hufen iâ enwog Verdi’s a Joe’s.
YR UCHELDIROEDD Os cerddwch am dipyn trwy Barc Singleton fe gyrhaeddwch un o’r lleoedd mwyaf ‘hip’ yng Nghymru. Mae hyb myfyrwyr yr Ucheldiroedd yn gartref i fariau a lleoedd bwyta ffasiynol, y gwellhad gorau trwyGymru ar gyfer pen mawr (diolch, Uplands Diner, am eich brecwast ‘Mega Beast’ anferthol), siopau cyfleustraamarchnadoeddmisol, ynghyd â rhai o’r golygfeydd gorau yn y ddinas.
Y MARINA Pan fo’r môr yn galw, does unlle gwell. Maeymabopeth,ofariau‘nosweithiau allan mawr’ i Theatr Dylan Thomas, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a marchnad fisol yn llawn bwrlwm. Gallwch hyd yn oed giniawa ar ben yr adeilad uchaf yng Nghymru, lle cewch olygfeydd godidog ar draws y bae a chyn belled â gogledd Dyfnaint a Bannau Brycheiniog.
CAMPWS SINGLETON Mae’r Ysgol Feddygaeth wedi’i lleoli yng nghampws Singleton ac mae’n swatio’n braf rhwng glan môr Bae Abertawe a pharc deiliog Singleton – perffaith ar gyfer picnics amser cinio a phenwythnosau ar y traeth. Mae traeth ein campws (fel yr hoffwn ei alw) yn Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon D ŵ r ac yn gyrchfan boblogaidd i fyfyrwyr yn ystod egwylion ac amser cinio.
ARCHWILIO’R DDINAS Mae Canol Dinas Abertawe yn daith gerdded 40 munud ar hyd y lan, neu’n daith5munudmewnbwso’rcampws.Ar ôl cyrraedd, gallwch siopayny stryd fawr ac ym marchnad dan do fwyaf Cymru, diwallu eich dyheadau diwylliannol yn Oriel Gelf Glynn Vivian, neu flasu cynnyrch y lleoedd bwyta, y bariau a’r tafarnau sydd ar un o strydoedd (drwg) enwogAbertawe, sefWind Street.
26
27
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online