Cylchgrawn Pwls - Cyf 01 Rhifyn Canmlwyddiant

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE A YDYCH YN FUSNES NEWYDD NEU’N DEILLIO ... Dewch yn aelod o rwydwaith fywiog o fusnesau o’r un meddylfryd mewn gwyddorau bywyd, heb rentu swyddfeydd pwrpasol... Fel Aelod Cysylltiol o’r Athrofa Gwyddor Bywyd (ILS), bydd modd i chi gael gafael ar gyfleusterau a chymorth busnes. Mae ein pecynnau aelodaeth risg isel, gwych eu gwerth, yn cynnwys: • Mynediad at le a chyfleusterau ar gyfer datblygu eich syniad busnes • Y gallu i ddefnyddio cyfeiriad yr ILS ar gyfer postio • Mynediad at ystafelloedd cyfarfod a chynadledda, cyfarpar a chyfleusterau arbenigol yn yr Athrofa • Mynediad at seminarau a gweithdai • Gwahoddiad i ddigwyddiadau rhwydweithio, gan roi cyfle i chi gydweithio a rhannu arferion gorau gyda Sefydliadau Cleientiaid ac Aelodau Cysylltiol eraill • Mynediad at rwydweithiau dosbarthu • Lle ar gyfer defnyddio desgiau poeth a chydweithio MWY O WYBODAETH:

PWLS

Aelodaeth Gysylltiol

YMLAEN Â’R

BETH SYDD AR Y GWEILL YN 2020 IONAWR Diwrnod Ymweld Ymgeiswyr Meddygaeth Dyddiad Cau Ceisiadau UCAS Dyddiad Cau Rhyngwladol (Meddygaeth) CHWEFROR COLLABORATE 2020 MAWRTH Diwrnod Rhyngwladol Menywod Sadwrn Gwyddonol Gwych EBRILL Tîm Prifysgol Cymru, Stadiwm Liberty MAI Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych MEHEFIN Diwrnod Hwyl i’r Teulu a’r Gymuned Penwythnos Dychweliad yr Alumni GORFFENNAF Dawns Haf Undeb y Myfyrwyr

Arloesi Un o brosiecrau arweiniol yr Ysgol Feddygaeth yw’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, sy’n anelu at gyflymu arloesi yn y maes iechyd er mwyn helpu’r GIG.

Fel Ysgol Feddygaeth arweiniol rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd ymchwil, arloesi ac arbenigedd o fewn yr Ysgol yn cael eu defnyddio i atal salwch, datblygu triniaethau gwell a bod ar reng flaen technolegau newydd y gellir eu defnyddio i wella gofal yn y GIG. Mae’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd wedi’i lleoli yn un o’n labordai diweddaraf, ac mae ei thîm o staff ymroddedig yn gweithio ar y cyd â’r GIG a busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau gofal iechyd arloesol, newydd, er mwyn creu gwerth economaidd parhaus yng Nghymru. Mae’n adeiladu ar ein cryfderau ymchwil mewn Biosynwyryddion a Dyfeisiau, Biowybodeg a Bioddadansoddeg. Ar hyn o bryd mae tîm y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn gweithio i gefnogi busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Yn ôl Dr Naomi Joyce, arweinydd prosiect y Ganolfan: “TMae’r prosiect yn awyddus i weithio gyda diwydiannau ar brosiectau arloesi cydweithredol – rydym yn cynnig mynediad at gyfleusterau / cyfarpar o’r radd flaenaf a thîm cyflawni mewnol sy’n cynnwys technegwyr arloesi a chanddyn nhw gefndiroedd yn y byd academaidd ac mewn diwydiant. Gall y Ganolfan hefyd gyfrannu at gostau’r cydbrosiectau.”

Ymhellach, mae’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn gweithio tuag at Wobr Efydd y Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordai (LEAF). Mae’r wobr yn canolbwyntio ar feysydd fel caffael a gwastraff, cyfarpar, awyru, samplau a chemegau, pobl, ac ansawdd yr ymchwil. Nod y Ganolfan yw darparu tystiolaeth ynghylch effaith cynaliadwyedd labordai a dangos bod ymdrechion lleol yn

Diddordeb? Cysylltwch â Thîm Menter ac Arloesi’r ILS ar ilsinnovation@abertawe.ac.uk

@swanseamedicine #collaborateILS

Cinio Graddio / Alumni Dathlu Canmlwyddiant AWST Canlyniadau Safon Uwch Ffoniwch 0800 094 9071 MEDI

gwneud gwahaniaeth. Mwy o wybodaeth am sut y gallai eich busnes weithiogyda’rGanolfan:

COLLABORATE Gweithio gyda’n gilydd er budd iechyd, llesiant a datblygu economaidd yng Nghymru Cynhadledd flynyddol ym Mhrifysgol Abertawe yw COLLABORATE lle ceir siaradwyr blaenllaw, sesiynau gr ŵ p thematig, man arddangos a chyfleoedd rhwydweithio. Mae’n dathlu ac yn hyrwyddo prosiectau a phartneriaethau ar y cyd ar draws diwydiannau, y byd academaidd, y llywodraeth, byrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector yn y sector gwyddor bywyd.

Mae’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechydyn rhano’r rhaglen“Accelerate” £24 miliwn a gynorthwyir gan gyllid Llywodraeth Cymru ac Ewrop. Caiff rhaglen “Accelerate” ei harwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac mae’n gwneud yn fawr o arbenigedd a galluoedd Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

G ŵ yl Wyddoniaeth Abertawe Cyrraedd ac Wythnos y Glas HYDREF Dyddiad Cau UCAS ar gyfer Meddygaeth Peidiwch ag anghofio eich 5ed dewis! TACHWEDD Gwobrau Blynyddol RHAGFYR Cyngerdd y Nadolig

MWY O WYBODAETH: medevents@abertawe.ac.uk

30

31

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online