Academi Arloesi

ACADEMI ARLOESI

UNIVERSITY RANKINGS 2023

O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL SYDD WEDI’I GRADDIO’N ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL 100%

Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg argraffu. Fodd bynnag, gall newidiadau ddigwydd i raglenni, lleoliadau astudio, cyfleusterau neu ffioedd. Ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/addysg-weithredol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

CROESO

Rydym yn falch iawn o estyn y croeso cynhesaf i’r Academi Arloesi, sydd wedi’i lleoli yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu deinamig yn mynd law yn llaw ag ymchwil clodwiw ac arfer blaenllaw mewn diwydiant. Mae ein Hysgol fywiog yn dwyn ynghyd arbenigwyr arloesi sy’n arweinwyr yn ein sefydliadau ymchwil a’n rhwydweithiau sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Rydym yn credu yng ngrym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddedig yn galluogi ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol gwybodaeth a damcaniaethau academaidd, gan ddarparu cefnogaeth mewn darlithoedd, seminarau, ac fel mentoriaid academaidd. Mae’n bleser gen i eich cyflwyno i’r pecyn hwn o lyfrynnau sy’n hyrwyddo’r cyfleoedd a gynigir gan yr Academi Arloesi. Dan arweiniad arweinwyr academaidd uchel eu parch o ystod o sectorau a disgyblaethau, mae’n cynnig cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol a sefydliadau gymryd rhan mewn addysg, ymchwil a gwasanaethau ymgynghori. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein hymrwymiad i feithrin arloesedd a newid trawsnewidiol. P’un a ydych yn unigolyn sy’n ceisio gwella eich datblygiad proffesiynol eich hun, neu’n sefydliad sydd am weithredu mentrau newid, mae’r Academi yn darparu gwasanaethau addysg, ymchwil ac ymgynghori wedi’u teilwra i ddiwallu eich anghenion. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau ar-lein, wyneb-yn-wyneb a chyrsiau tymor byr neu hir, pob un ohonynt yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol. Wrth i chi bori drwy’r pecyn hwn, rwy’n eich gwahodd i gael golwg ar ein rhaglenni a darganfod sut y gall yr Academi Arloesi eich helpu i gyflawni eich nodau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Academi a’ch cefnogi ar eich taith tuag at lwyddiannau newydd.

RYDYM YN CYNNIG:

Addysg Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau yn amrywio o rai addysg gweithredol byr i raglenni cyfunol, gweithdai a digwyddiadau ôl-raddedig i helpu i gyfarparu arweinwyr y presennol a’r dyfodol gyda’r gallu i ddarparu arloesedd ar draws gwahanol sectorau. Mae’r rhain wedi’u dylunio ar gyfer dysgwyr proffesiynol ac yn rhai y gellir eu haddasu i ymrwymiadau gwaith. Ymchwil Arloesol Mae gan ein tîm ymchwil gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, gan ddarparu’r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a datblygu polisi. Gwasanaeth Ymgynghori Pwrpasol Mae ein gwasanaeth ymgynghori pwrpasol yn cynnig datrysiadau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion a nodau unigryw eich sefydliad. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ddatblygu strategaethau sy’n eich helpu i lwyddo.

Yr Athro Gareth Davies Cyfarwyddwr yr Academi Arloesedd

CYRSIAU ADDYSGOL PROFFESIYNOL Mae ein cyrsiau addysgol wedi’u teilwra ar gyfer amrywiaeth o sectorau ac yn helpu i gyfarparu arweinwyr â’r hyder, y sgiliau a’r gallu i ddarganfod arloesedd yn eu sector.

MSc Rheoli Uwch (Trawsnewid Iechyd ac Arloesedd)

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel bod rheolwyr canol ac uwch reolwyr o fewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU ac yn fyd-eang yn cael eu cyfarparu’n well i arwain newid trawsnewidiol a sbarduno arloesedd o fewn systemau, prosesau a thechnolegau gofal iechyd. Mae’r cwrs hwn wedi derbyn 25 credyd DPP gan y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol a 50 pwynt DPP gan y Swyddfa Safonau DPP.

MSc Rheoli Uwch (Systemau Cymhleth)

Mae’r cwrs arloesol hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i reoli systemau cymhleth yn effeithiol mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i Beirianneg, Awyrofod, TGCh, Dyframaethu, Amddiffyn, Seiberddiogelwch ac Iechyd a Gofal.

PGCert Rheolaeth Uwch (Arloesedd Cymhwysol)

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ddatblygu eu sgiliau arwain a rheoli wrth gymhwyso dulliau arloesol i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu. Rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio rhaglen dysgu drwy brofiad berthnasol.

E-Ddysgu

Dysgu ar-lein hunangyfeiriedig, yn ôl eich pwysau eich hun ar gyfer y rhai sy’n ceisio gwella eu gwybodaeth ac ymgorffori newid arloesol a thrawsnewidiol yn eu gwaith.

MSc RHEOLI UWCH (TRAWSNEWID IECHYD AC ARLOESEDD) - MODIWLAU Mae’r rhaglen hon yn cael ei chyflwyno mewn amgylchedd dysgu a arweinir gan ymchwil ac ymarfer, ac mae’n darparu cyfleoedd dysgu cyfunol rhan-amser a llawn amser ar ffurf model cyflwyno hyblyg; lle mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei defnyddio i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr; gan sicrhau’r canlyniadau dysgu gorau posib. Byddwch hefyd yn cael eich annog i ddod yn gyd-grewyr ymchwil yn ystod y modiwl Ymchwil ar Waith a’r asesiadau ffurfiannol a chrynodol mewn modiwlau eraill. Bydd eich dysgu yn cael ei ddatblygu drwy gymwysiadau gwreiddiol o wahanol gysyniadau a modelau i achosion o’ch profiad gwaith a bywyd eich hun. Bydd y rhaglen hefyd yn defnyddio cymdeithasau a rhwydweithiau rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Bydd yr ehangder hwn o ymchwil, addysgu ac arbenigedd proffesiynol yn cyfoethogi’n fawr eich datblygiad o ran arloesi a thrawsnewid yn y maes iechyd a gofal. Mae’r modiwlau gaiff eu hastudio ar y cwrs MSc mewn Rheoli Uwch (Trawsnewid Iechyd ac Arloesedd) wedi’u rhestru isod. Gall strwythurau’r cwrs newid, a gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am yr amrywiolion llawn amser a rhan-amser ar ein gwefan: swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes/msc-rheoli-uwch-thrawsnewid-iechyd- arloesedd

RHAN-AMSER

Llywio Arloesedd a Newid: Hanfodion BLWYDDYN 1: MODIWLAU Archwilio Diben Sefydliadol: Hanfodion Llywio Arloesedd a Newid: Cymhwysol

Arloesedd Iechyd a Gofal Darbodus BLWYDDYN 2: MODIWLAU Iechyd a Gofal Cymhleth: Systemau Iechyd a Gofal Cymhleth: Gwella Ymchwil ar Waith

Medi-Ion Medi-Ion

Medi-Ion Medi-Ion Meh-Medi Ion-Meh

Ion-Meh

Ion-Meh

Archwilio Diben Sefydliadol: Ymatebion a Chymwysiadau Iechyd a Gofal Darbodus - Polisi ac Ymarfer

Meh-Medi

AMSER-LLAWN

Archwilio Diben Sefydliadol MODIWLAU Llywio Arloesedd a Newid Iechyd a Gofal Darbodus - Polisi ac Ymarfer

MODIWLAU

Medi-Ion Medi-Ion

Iechyd a Gofal Cymhleth, Pobl a Systemau Ymchwil ar Waith

Ion-Meh

Blwyddyn Academaidd

Ion-Meh

Arloesedd Iechyd a Gofal Darbodus

Ion-Meh

Rhaid i fyfyrwyr gael 2:1 (neu gyfwerth dramor) mewn gradd israddedig a bydd unrhyw bwnc gradd yn cael ei ystyried. Byddem hefyd yn barod i ystyried y rhai sydd â chefndiroedd eraill a phrofiad gwaith yn y sector, yn lle’r gofyniad i fod â gradd. Rhaid i fyfyrwyr hefyd feddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad gwaith perthnasol. GOFYNION MYNEDIAD

ACHREDIAD

Dyfernir MSc Rheoli Uwch (Trawsnewid Iechyd ac Arloesedd) ym Mhrifysgol Abertawe gan 25 credyd DPP gan y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol a 50 pwynt DPP gan y Swyddfa Safonau DPP.

FMLM :Mae’r Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol (FMLM) yn gorff achredu ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant yn y DU ac mae achrediad yn rhoi sicrwydd i aelodau, meddygon, deintyddion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau gofal iechyd FMLM fod rhaglen wedi’i hasesu’n annibynnol a’i barnu fel un sy’n bodloni eu safonau cenedlaethol pwysig.

CPD : Mae’r Swyddfa Safonau DPP yn darparu gwasanaethau achredu DPP ar gyfer ystod eang o weithgareddau hyfforddi a dysgu o ansawdd uchel. Bydd achrediad gan y Swyddfa Safonau DPP yn darparu nod barcud o ansawdd a fydd yn gwasanaethu gweithwyr proffesiynol a darparwyr ac yn helpu i godi safonau cyffredinol.

CMI: Mae graddedigion ein MSc Rheoli Uwch (Trawsnewid Iechyd ac Arloesedd) yn gallu gwneud cais am statws Rheolwr Siartredig trwy broses trac cyflym CMI.

MSC RHEOLI UWCH (SYSTEMAU CYMHLETH) - MODIWLAU

Mae’r cwrs arloesol hwn wedi’i gynllunio i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i reoli systemau cymhleth yn effeithiol mewn gwahanol sectorau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Beirianneg, Awyrofod, Dyframaethu, Amddiffyn, Seiberddiogelwch TGCh ac Iechyd a Gofal. Mae’n cynnig cyfuniad unigryw o gysyniadau damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol sy’n deillio o astudiaethau achos yn y byd go iawn o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Byddwch yn dysgu am egwyddorion rheoli asedau, rheoli gweithrediadau, systemau cymdeithasol-dechnegol a theori cymhlethdod a sut y gellir ei gymhwyso i sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i ddysgu am bwysigrwydd systemau cymdeithasol-dechnegol a sut maent yn hanfodol ar gyfer rheoli systemau cymhleth yn effeithiol. Mae’r modiwlau a astudir ar y cwrs MSc Rheoli Uwch (Systemau Cymhleth) i’w gweld isod. Gall strwythurau’r cwrs newid, a gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am yr amrywiolion llawn amser a rhan-amser ar ein gwefan: swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes/msc-rheoli-uwch-systemau-cymhleth

RHAN-AMSER

Llywio Arloesedd a Newid: Hanfodion BLWYDDYN 1: MODIWLAU Archwilio Diben Sefydliadol: Hanfodion Llywio Arloesedd a Newid: Cymhwysol

Ymarfer gydag Egwyddorion BLWYDDYN 2: MODIWLAU Systemau Cymhleth: Cymwysiadau a Gwelliant

Medi-Ion Medi-Ion

Ion-Meh Medi-Ion

Ion-Meh

Ymchwil ar Waith

Blwyddyn Academaidd

Ion-Meh

Archwilio Diben Sefydliadol: Ymatebion a Chymwysiadau

Meh-Medi

Rheoli Gweithrediadau

Meh-Medi

Rheoli Asedau mewn Ymarfer

FULL-TIME

Archwilio Diben Sefydliadol MODULES Llywio Arloesedd a Newid Rheoli Gweithrediadau

MODULES

Medi-Ion Medi-Ion

Rheoli Asedau mewn Ymarfer Systemau Cymhleth

Ion-Meh

Ion-Meh

Blwyddyn Academaidd

Ymchwil ar Waith

Ion-Meh

Rhaid i fyfyrwyr gael 2:1 (neu gyfwerth dramor) mewn gradd israddedig a bydd unrhyw bwnc gradd yn cael ei ystyried. Byddem hefyd yn barod i ystyried y rhai sydd â chefndiroedd eraill a phrofiad gwaith yn y sector, yn lle’r gofyniad i fod â gradd. Rhaid i fyfyrwyr hefyd feddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad gwaith perthnasol. GOFYNION MYNEDIAD

PGCert RHEOLI UWCH (ARLOESEDD CYMHWYSOL)

Rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio rhaglen dysgu drwy brofiad berthnasol.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal ddatblygu eu sgiliau arwain a rheoli wrth gymhwyso dulliau arloesol i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu.

Mae’r PGCert Uwch Reoli (Arloesedd Cymhwysol) hwn yn darparu dull unigryw ac arloesol o ddatblygu arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector iechyd a gofal, sy’n hanfodol ar gyfer cwrdd â’r heriau sy’n wynebu’r sector heddiw ac yn y dyfodol trwy ymchwil ac arloesi.

Os yw dysgwyr, ar ôl cwblhau’r PGCert, am ddatblygu eu hastudiaethau i radd Meistr lawn, byddant yn gallu gwneud cais am yr MSc Rheoli Uwch (Trawsnewid Iechyd ac Arloesedd) trwy gyfnewid eu credydau presennol.

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno ochr yn ochr â’r MSc Rheoli Uwch (Trawsnewid Iechyd ac Arloesedd) cyfredol. Gall strwythurau’r cwrs newid, a gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein gwefan

swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes/pgcert-rheoli-uwch-arloesi-cymhwysol

Rhaid i fyfyrwyr fod yn ymgymryd â rhaglen dysgu drwy brofiad berthnasol. Rhaid i fyfyrwyr hefyd feddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad gwaith perthnasol. GOFYNION MYNEDIAD

RHAGLEN YR ACADEMI DYSGU DWYS

Mae Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o Raglen yr Academïau Dysgu Dwys (ILA) a grëwyd gan ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru, y cynllun hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Academïau’n cefnogi’r gallu proffesiynol a’r arweinyddiaeth systemau sy’n addas ar gyfer yr heriau i systemau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac yfory. Mae’r Academïau wedi’u sefydlu gan Brifysgolion Cymru ac maent yn gweithredu fel canolfannau ar gyfer meysydd blaenoriaeth o ran polisi neu her. Anogir dull o ddysgu ac addysgu sy’n ‘seiliedig ar achosion’, a meddwl yn greadigol, wedi’i seilio ar ddysgu ymarferol. Mae’r rhaglenni addysg yn cael eu llywio gan yr ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf a rhennir profiadau ar draws gwledydd a sectorau.

Mae ein Hacademi yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y tair Academi arall: • Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth (Prifysgol Abertawe) • Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant (Prifysgol Bangor) • Trawsnewid Digidol (Prifysgol De Cymru) CYLLID YSGOLORIAETH YR ACADEMI DYSGU DWYS Fel rhan o’r ILA, mae ein cyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn ein galluogi i gynnig ysgoloriaethau cyfyngedig i ddysgwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, y GIG a sefydliadau’r trydydd sector ar gyfer ein rhaglenni addysgol. Ewch i’n tudalen bwrpasol ar ysgoloriaethau i gael y newyddion diweddaraf am gyllid, dyddiadau cau ac am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: IHSCAcademy@abertawe.ac.uk

ABERTAWE

CAERDYDD

YMCHWIL

Mae ein tîm o arbenigwyr yn ymroddedig i ymchwil arloesol a hyrwyddo gwybodaeth am arloesedd mewn gwahanol sectorau, yn enwedig yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gall prosiectau ymchwil amrywio o werthusiadau byr i raglenni aml-bartner, gyda chleientiaid sy’n cynnwys llywodraethau’r DU a llywodraethau rhyngwladol, busnesau bach a chanolig lleol, a chwmnïau rhyngwladol. Priodolir enw da’r Academi am ddarparu gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori o ansawdd uchel i’w gallu i ymateb i anghenion newidiol ei chleientiaid. Mae ein hymchwil wedi’i chynllunio i ysgogi newid cadarnhaol a gwella canlyniadau i bawb. Rydym yn defnyddio’r methodolegau a’r technolegau diweddaraf i gasglu a dadansoddi data, datblygu ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a llywio polisi ac ymarfer a darparu prosiectau ymchwil pwrpasol sy’n gofyn am lefel uchel o arbenigedd, arloesedd a chydweithio. Gyda mynediad i ystod eang o arbenigwyr, mae’r Academi mewn sefyllfa dda i ddarparu mewnwelediadau a datrysiadau ar draws amryw o feysydd ymchwil, gan gynnwys llywodraethu, polisi cyhoeddus, datblygu economaidd, ac ymgysylltu â’r gymuned.

PROSIECT:

Chelsea Davies, CEO, CPR Global Tech Ltd

Fe wnaeth CPR Global Tech bartneru gyda’n tîm, darparwyr iechyd lleol a chleifion i gynnal treialon a chasglu adborth ar botensial technoleg y gellir ei gwisgo i wella canlyniadau cleifion. Mae’r prosiect hwn yn hanfodol ar gyfer technoleg fyd-eang CPR a chymdeithas Cymru gyfan, gan fod ganddo’r potensial i chwyldroi sut mae’r GIG yn mynd i’r afael â chleifion sy’n cael codymau, gan arwain at well canlyniadau i gleifion ac arbedion cost. Mae’r prosiect dwy flynedd, a ariennir gan Innovate UK gyda £143,000, yn gwerthuso sut y gall dyfeisiau gwisgadwy hwyluso monitro cleifion o bell a gwella gofal iechyd. Drwy’r bartneriaeth hon, nod CPR Global Tech yw cynhyrchu set ddata gadarn a fydd yn llywio’r defnydd o dechnoleg y gellir ei gwisgo mewn gofal iechyd.

“Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â’r Academi Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe drwy ein Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth. Mae’r gynghrair strategol hon wedi bod yn allweddol wrth lywio ein harloesedd, ymchwil a datblygu, yn ogystal â llunio strategaethau marchnata a gwerthu cadarn. Mae’r cyfoeth o wybodaeth a’r mewnwelediadau arloesol a gyfnewidir yn y bartneriaeth hon yn ein gyrru i uchelfannau newydd yn nhirwedd technoleg a busnes sy’n esblygu’n barhaus.”

Os hoffech edrych ar y modd y gallwch ni helpu eich anghenion ymchwil, gwerthuso neu gydweithio, cysylltwch â: IHSCAcademy@abertawe.ac.uk

ARLOESI AGOR Bydd y prosiect yn cefnogi ecosystem arloesedd Castell-nedd Port Talbot sy’n datblygu, gan ddefnyddio cryfderau arloesi a seilwaith sy’n esblygu yn lleol. Bydd yn helpu i wireddu prif gyfle CNPT o ‘Economi Entrepreneuraidd a Gwydn’. Bydd swyddogaeth addasol ystwyth newydd yn nodi, cwmpasu, ac yn datblygu partneriaethau arloesedd/sgiliau gyda diwydiant, y byd academaidd a’r gymuned ehangach gan gynnwys yr Academi Beirianneg Frenhinol (RAE) a’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Defnyddio’r model Agor sefydledig - a weithredir ar draws CNPT, gan ganolbwyntio’n gychwynnol ar y safleoedd allweddol mewn modd cydweithredol agored gan dynnu cefnogaeth y tu hwnt i’r consortiwm cychwynnol. Bydd swyddogion prosiect ymroddedig sy’n gweithio gyda thîm Adfywio Economaidd CNPT, yn cefnogi sefydliadau sy’n bodoli eisoes ac sy’n buddsoddi o’r tu mewn i sefydlu ac ehangu eu gweithgarwch yn y sir.

CYFLEUSTERAU Mae gan ddysgwyr proffesiynol yn yr Ysgol Reolaeth fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau sy’n arwain y sector, gan gynnwys: CAMPWS Y BAE Mae Campws y Bae yn gartref i lawer o gyfleusterau sydd â’r nod o ddarparu amgylchedd dysgu gwych. Mae hyn yn cynnwys mannau astudio ym mhob adeilad ar draws y campws, llyfrgell o’r radd flaenaf, siopau coffi (gan gynnwys Costa Coffee), Tesco Express ac Subway. YSTAFELLOEDD I DDYSGWYR PROFFESIYNOL Ystafelloedd Dysgu Proffesiynol pwrpasol ar gyfer addysgu a chydweithio wedi’u cyfarparu’n llawn â gorsafoedd cyfrifiadurol yn ogystal â mannau gweithio ar gyfer grwpiau wedi’u cynllunio i feithrin meddwl creadigol a phrosiectau arloesol. YR YSGOL REOLAETH Mae adeilad pwrpasol yr Ysgol Reolaeth yn cynnwys derbynfa, ystafelloedd cyfweld â chleientiaid, mannau cydweithio i fyfyrwyr a swyddfeydd ar gyfer staff. Mae yna hefyd ofod mawr lle gall ein partneriaid gydweithio mewn amgylchedd anffurfiol, creadigol.

LLYFRGELL Y BAE Llyfrgell fodern yw Llyfrgell Campws y Bae sy’n darparu

gwasanaethau gwybodaeth o ansawdd uchel i’r holl fyfyrwyr a staff, yn ogystal â’r cyhoedd. Rydym yn datblygu’r gwasanaethau hyn yn gyson i gefnogi dysgu, addysgu, ymchwil a gweithgareddau corfforaethol y Brifysgol.

YMGYNGHORI

Mae ein tîm profiadol o arbenigwyr yn dod â chyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a rhwydweithiau helaeth, a all ddarparu mewnwelediadau a datrysiadau ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys llywodraethu, polisi cyhoeddus, datblygu economaidd, ac ymgysylltiad cymunedol. Helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, i lywio heriau cymhleth, nodi cyfleoedd ar gyfer twf, a gweithredu strategaethau effeithiol. Mae’r tîm yn cymryd ymagwedd wedi’i theilwra’n benodol tuag at bob prosiect cydweithredol, gan weithio’n agos gyda’n cleientiaid i ddeall eu hanghenion, eu nodau a’u cyfyngiadau unigryw. Mae prosiectau’n amrywio o werthusiadau byr i raglenni aml-bartner wedi’u teilwrio’n bwrpasol.

RHAGLEN DATBLYGU UWCH ARWEINWYR

Wedi’i chyflwyno ym mis Gorffennaf 2022, mae’r Rhaglen Datblygu Uwch Arweinwyr (SLDP) yn enghraifft bendant o’n harbenigedd. Gyda charfan o 29 o uwch reolwyr a chlinigwyr o SBUHB a HDUHB, cefnogir y rhaglen gan Grwp Llywio o uwch gyfarwyddwyr sy’n gweithredu fel arolygwyr a mentoriaid. ˆ Mae’r SLDP yn elfen allweddol o’r fenter ARCH ehangach sy’n canolbwyntio ar Drawsnewid Gwasanaethau ac Addysg y Gweithlu, ac mae’n cwmpasu meysydd hanfodol fel cynllunio gwasanaethau, rheoli prosiectau, arweinyddiaeth, strategaeth, arloesedd, rheoli newid,

rheoli asedau a gweithrediadau, a chynllunio ariannol. Mae’r rhaglen hon yn enghraifft o’n

hymrwymiad i ddarparu datrysiadau hyfforddiant cynhwysfawr wedi’u teilwra i anghenion unigryw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau ymgynghori a sut y gallant helpu eich sefydliad i gyrraedd ei nodau, cysylltwch â: IHSCAcademy@abertawe.ac.uk

TYSTEBAU MYFYRWYR

Dewisais y cwrs hwn yn fy nyddiau cynnar yn y GIG i ddatblygu sgiliau sy’n cyd- fynd â fy rôl a’m hamcanion ar gyfer y dyfodol. Roedd y modiwlau yn uniongyrchol berthnasol i’m gwaith beunyddiol. Ehangodd y cwrs fy ngwybodaeth, gan gwmpasu strategaeth Llywodraeth Cymru, VBHC, ac Egwyddorion Darbodus, gyda chymwysiadau ymarferol yn fy rôl. Roedd yr agweddau rhyngweithiol yn caniatáu i mi ddefnyddio teclynnau yn fy ngwaith o ddydd i ddydd, datrys problemau ar y cyd, a rhannu profiadau gyda chyfoedion a staff. Trwy’r cwrs, rwyf wedi cwrdd â phobl wych—staff a chyd-fyfyrwyr—ac mi wn y byddant yn parhau i fod yn rhan o fy ngyrfa a’m bywyd ar ôl i mi orffen y cwrs.

KELLY WHITE Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth ar gyfer Atal a Llesiant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae’r profiad wedi bod yn heriol ac yn werth chweil ac wedi gwella fy ngwybodaeth, fy sgiliau academaidd, ac wedi darparu adnoddau ymarferol i gefnogi arloesedd yn y sector. Rhoddodd y prosiect seiliedig ar waith gyfle i mi roi popeth yr wyf wedi’i ddysgu ar waith trwy weithredu cynllunio gofal digidol yn y gweithle i wella effeithlonrwydd y gwasanaeth a gwella canlyniadau i ddinasyddion. Fe wnaeth y cwrs hwn fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy ngyrfa fel Uwch Reolwr Gwella.

CAROL HAAKE Rheolwr Ailalluogi Cofrestredig, Cyngor Bro Morgannwg

Roedd dewis astudio rheoli gofal iechyd yn benderfyniad bwriadol i ehangu fy ngwybodaeth y tu hwnt i ymgynghoriadau cleifion. Roedd y ffaith bod y cwrs wedi’i achredu gan y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol a’i gydnabyddiaeth fel rhaglen arloesol yn ffactorau allweddol. Roedd cynnwys pwyntiau DPP gan y Swyddfa Safonau DPP yn atgyfnerthu ei werth. Roedd y profiad ar y cwrs yn ddwys ac yn effeithiol, gyda’r fframweithiau a’r offer a gafwyd yn werthfawr iawn. Yr agwedd amlwg oedd y system gymorth anhygoel a ddarparwyd gan y staff. Roedd y rhyngweithio’n eithriadol, gan gynnig cymorth academaidd, dilysu profiadau personol fel offer addysgu, a darparu arweiniad anacademaidd rhagorol.

PRINCE CHIBUEZE UCHEAGWU IBE Myfyriwr Rhyngwladol Llawn Amser

Dewisais Brifysgol Abertawe am ei hadnoddau academaidd eithriadol a’r lleoliad unigryw, gyda thraeth ar drothwy’r campws. Mae gweithio gyda thîm yr Ysgol Reolaeth, Comisiwn Bevan, a’r Academi Dysgu Dwys wedi bod yn gyfle rhyfeddol. Mae fy ngoruchwylwyr arbenigol wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy, ac rwyf wedi adeiladu rhwydwaith cryf yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae her, cyfleoedd datblygu ac ysgogiad deallusol y rhaglen yn fywiog, gan gynnig cydbwysedd perffaith i’m gwaith clinigol. Rwy’n credu y bydd y daith hon yn fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn gofal iechyd, nid yn unig yng Nghymru ond y tu hwnt.

MICK BUTTON PHd, Ymgynghorydd mewn Oncoleg Glinigol

CYMORTH MYFYRWYR

Mae gennym dîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr ymroddedig wrth law i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, myfyriwr-ganolog ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:

Cefnogi myfyrwyr drwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu

Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol

Eich cefnogi gydag ymholiadau ynghylch amserlen

Arwain a phrosesu ceisiadau newid amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddo rhaglenni, a thynnu arian yn ôl

Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi’n effeithiol

Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd

Cefnogi myfyrwyr drwy broses monitro ymgysylltu y Brifysgol a dilyn i fyny i sicrhau, lle mae myfyrwyr yn wynebu heriau, y gall y tîm ddarparu cymorth proffesiynol a phwrpasol

Cyfarfodydd 1:1 â myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynghylch materion personol neu academaidd

Cefnogi myfyrwyr sydd ag amgylchiadau eithriadol drwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, mewn profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati

Cefnogi myfyrwyr ag anableddau, a’u cysylltu â Swyddfa Anabledd y Brifysgol

Am fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

CYFLEOEDD ADDYSG WEITHREDOL YCHWANEGOL Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn cynnig ystod o raglenni sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau rheoli. Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i alluogi arweinwyr i adeiladu sefydliadau ac economïau cynaliadwy, sy’n perfformio’n dda. Gan weithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, mae ein hacademyddion sy’n flaenllaw yn fyd-eang wedi dylunio rhaglenni Addysg Weithredol hyblyg sy’n arwain at newid cadarnhaol. Mae gennych yr opsiwn i gymryd rhan mewn cyrsiau byr dwys neu raglenni dysgu cynhwysfawr hirach yn seiliedig ar eich anghenion fel unigolyn neu aelod o sefydliad.

Rydym yn cynnig cyrsiau Addysg Weithredol ar draws nifer o sectorau, yn ogystal â’n cwrs e-ddysgu, gan gynnwys:

• Egwyddorion Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth • Sefydliad Siartredig Marchnata Lefelau 4 a 6

GRADDAU ÔL-RADDEDIG AR GYFER GWEITHWYR PROFFESIYNOL: • Gweinyddu Busnes, MBA • MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth) • MSc Rheoli Adnoddau Dynol • MSc Cyfrifeg Proffesiynol

Am fwy o wybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei gynnig o ran Addysg Weithredol, cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar: som-execed@abertawe.ac.uk

YSGOLORIAETHAU ILA Mae ein Hacademi Arloesi Cymru Gyfan mewn Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn aelod o Raglen Academi Dysgu Dwys Llywodraeth Cymru (ILA) sy’n cynnig ysgoloriaethau cyfyngedig i ddysgwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sefydliadau’r GIG a’r Trydydd Sector ar gyfer ein rhaglenni addysgol. Os ydych yn gweithio mewn sefydliad Iechyd, Gofal Cymdeithasol neu Trydydd Sector yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaeth ILA. Ewch i’n tudalen ysgoloriaeth bwrpasol i gael y newyddion diweddaraf am gyllid, dyddiadau cau ac am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: IHSCAcademy@abertawe.ac.uk

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU ÔL-RADDEDIG ERAILL Mae Prifysgol Abertawe’n deall mai cost eich astudiaethau yw un o’r ffactorau pwysicaf wrth benderfynu ar radd ôl-raddedig. Mae Abertawe’n cynnig nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig eraill i fyfyrwyr o fewn a thu allan i Gymru i’ch helpu i ariannu eich astudiaethau. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl gyfleoedd ariannu hyn trwy sganio’r cod QR.

DILYNWCH NI AR INSTAGRAM AM FWY O GYNNWYS @SOMABERTAWE

CYSYLLTWCH Â NI

Academi Arloesi Ysgol Reolaeth Campws y Bae

Abertawe SA1 8EN Cymru, DU

IHSCAcademy@abertawe.ac.uk

swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ academi-arloesi

DILYNWCH NI AR GYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Chwiliwch am ‘SoMAbertawe’

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5