Academi Arloesi

CROESO

Rydym yn falch iawn o estyn y croeso cynhesaf i’r Academi Arloesi, sydd wedi’i lleoli yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu deinamig yn mynd law yn llaw ag ymchwil clodwiw ac arfer blaenllaw mewn diwydiant. Mae ein Hysgol fywiog yn dwyn ynghyd arbenigwyr arloesi sy’n arweinwyr yn ein sefydliadau ymchwil a’n rhwydweithiau sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Rydym yn credu yng ngrym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddedig yn galluogi ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol gwybodaeth a damcaniaethau academaidd, gan ddarparu cefnogaeth mewn darlithoedd, seminarau, ac fel mentoriaid academaidd. Mae’n bleser gen i eich cyflwyno i’r pecyn hwn o lyfrynnau sy’n hyrwyddo’r cyfleoedd a gynigir gan yr Academi Arloesi. Dan arweiniad arweinwyr academaidd uchel eu parch o ystod o sectorau a disgyblaethau, mae’n cynnig cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol a sefydliadau gymryd rhan mewn addysg, ymchwil a gwasanaethau ymgynghori. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein hymrwymiad i feithrin arloesedd a newid trawsnewidiol. P’un a ydych yn unigolyn sy’n ceisio gwella eich datblygiad proffesiynol eich hun, neu’n sefydliad sydd am weithredu mentrau newid, mae’r Academi yn darparu gwasanaethau addysg, ymchwil ac ymgynghori wedi’u teilwra i ddiwallu eich anghenion. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau ar-lein, wyneb-yn-wyneb a chyrsiau tymor byr neu hir, pob un ohonynt yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol. Wrth i chi bori drwy’r pecyn hwn, rwy’n eich gwahodd i gael golwg ar ein rhaglenni a darganfod sut y gall yr Academi Arloesi eich helpu i gyflawni eich nodau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Academi a’ch cefnogi ar eich taith tuag at lwyddiannau newydd.

RYDYM YN CYNNIG:

Addysg Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau yn amrywio o rai addysg gweithredol byr i raglenni cyfunol, gweithdai a digwyddiadau ôl-raddedig i helpu i gyfarparu arweinwyr y presennol a’r dyfodol gyda’r gallu i ddarparu arloesedd ar draws gwahanol sectorau. Mae’r rhain wedi’u dylunio ar gyfer dysgwyr proffesiynol ac yn rhai y gellir eu haddasu i ymrwymiadau gwaith. Ymchwil Arloesol Mae gan ein tîm ymchwil gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, gan ddarparu’r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a datblygu polisi. Gwasanaeth Ymgynghori Pwrpasol Mae ein gwasanaeth ymgynghori pwrpasol yn cynnig datrysiadau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion a nodau unigryw eich sefydliad. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ddatblygu strategaethau sy’n eich helpu i lwyddo.

Yr Athro Gareth Davies Cyfarwyddwr yr Academi Arloesedd

Made with FlippingBook HTML5