Academi Arloesi

RHAGLEN YR ACADEMI DYSGU DWYS

Mae Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o Raglen yr Academïau Dysgu Dwys (ILA) a grëwyd gan ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru, y cynllun hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Academïau’n cefnogi’r gallu proffesiynol a’r arweinyddiaeth systemau sy’n addas ar gyfer yr heriau i systemau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac yfory. Mae’r Academïau wedi’u sefydlu gan Brifysgolion Cymru ac maent yn gweithredu fel canolfannau ar gyfer meysydd blaenoriaeth o ran polisi neu her. Anogir dull o ddysgu ac addysgu sy’n ‘seiliedig ar achosion’, a meddwl yn greadigol, wedi’i seilio ar ddysgu ymarferol. Mae’r rhaglenni addysg yn cael eu llywio gan yr ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf a rhennir profiadau ar draws gwledydd a sectorau.

Mae ein Hacademi yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y tair Academi arall: • Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth (Prifysgol Abertawe) • Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant (Prifysgol Bangor) • Trawsnewid Digidol (Prifysgol De Cymru) CYLLID YSGOLORIAETH YR ACADEMI DYSGU DWYS Fel rhan o’r ILA, mae ein cyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn ein galluogi i gynnig ysgoloriaethau cyfyngedig i ddysgwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, y GIG a sefydliadau’r trydydd sector ar gyfer ein rhaglenni addysgol. Ewch i’n tudalen bwrpasol ar ysgoloriaethau i gael y newyddion diweddaraf am gyllid, dyddiadau cau ac am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: IHSCAcademy@abertawe.ac.uk

ABERTAWE

CAERDYDD

Made with FlippingBook HTML5