ADDYSG AC ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD
PRIFYSGOL ABERTAWE YN SAFLE 126-150 AM ADDYSG (Times Higher Education World Rankings 2024)
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR 3 YDD YN Y DU AM ANSAWDD YMCHWIL (Complete University Guide 2024)
Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/gwyddorau-cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf.
CROESO
Croeso cynnes i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel mentoriaid academaidd. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.
RYDYM YN CYNNIG:
Cyfleoedd Blwyddyn Dramor Lleoliadau gwaith mewn sefydliadau fel ysgolion, awdurdodau lleol, busnesau ac elusennau. Astudiaethau sy’n tynnu ar ddisgyblaethau seicoleg, athroniaeth, hanes a’r gwyddorau cymdeithasol.
Cyfathrebu a gweithio mewn tîm Datrys problemau Rheoli amser SGILIAU I’W CAFFAEL:
Yn meddu ar sgiliau ar gyfer gyrfaoedd gwerth chweil Manteisio ar gefnogaeth ac arweiniad helaeth Cymryd rhan weithredol yn yr Ysgol gweithgareddau ac ymchwil MAE EIN MYFYRWYR YN:
Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
PRIFYSGOL ABERTAWE YN SAFLE 251-300 AR GYFER Y GWYDDORAU CYMDEITHASOL (Times Higher Education World Rankings 2024)
ADDYSG AC ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD Rydym yn gartref i ymchwilwyr blaengar, addysgu arloesol, a phrofiad a chefnogaeth eithriadol i fyfyrwyr, gyda thîm ymroddedig sy’n darparu cymorth cyflogadwyedd, academaidd a phersonol. Mae ein holl raglenni addysg wedi’u cynllunio i alluogi myfyrwyr i ennill ystod eang o wybodaeth mewn meysydd sy’n ymwneud ag addysg, gan gynnwys astudio’r cwricwlwm ac addysgeg, arweinyddiaeth a rheolaeth mewn addysg, anghenion dysgu ychwanegol, cydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymgysylltiad rhieni ag addysg, ymhlith llawer o rai eraill.
4
YN Y DU AM ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR (COMPLETE UNIVERSITY GUIDE 2024)
ydd
EIN GRADDAU
X311 X312
Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
X31F
Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnig dull cyfannol o ddeall plant o enedigaeth hyd at wyth oed. Mae’n nodi pwysigrwydd plentyndod cynnar fel cyfnod arwyddocaol mewn bywyd sy’n sail i ddysgu gydol oes, lle mae plant yn cael eu hystyried yn aelodau galluog a chymwys o gymdeithas. Byddwch yn dysgu sut i gefnogi plant a chydnabod eu bod yn ganolog i deuluoedd, cymunedau a’r byd economaidd- gymdeithasol ehangach. Byddwch yn astudio amrywiaeth, unigrywiaeth pob plentyn a sut y gall gweithwyr proffesiynol Plentyndod Cynnar gefnogi plant mewn sefyllfaoedd anodd, fel y rhai sy’n dioddef o drawma ac mewn argyfwng cymdeithasol. Nod y cwrs yw darparu addysg a hyfforddiant penodol i’r rhai sydd am weithio mewn rôl broffesiynol gyda babanod, plant bach a phlant ifanc.
X200 X202 X204
Addysg, BA (Anrh) Addysg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen Addysg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
Mae’r radd addysg yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i astudio Addysg ac mae’n ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r cwricwlwm, asesu, addysgeg; anghydraddoldebau, amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol; datblygiad plant, anghenion dysgu ychwanegol ac astudiaethau plentyndod. Mae myfyrwyr yn graddio gyda sylfaen wybodaeth eang sy’n cwmpasu gwybodaeth yn ymwneud ag addysgu a dysgu a chyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol addysg. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad gwaith wrth gymryd rhan yn y rhaglen.
X2M4
Addysg a Seicoleg, BSc (Anrh)
Bydd ein gradd Addysg a Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd, ac ymddygiad, ynghyd â sylfaen ragorol mewn polisi addysg, datblygiad plant, a niwrowyddoniaeth addysgol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o arfer addysgol mewn oes ddigidol, addysg mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol, arweinyddiaeth a rheolaeth, ac amrywiaeth a llesiant mewn addysg. Byddwch yn dysgu am y prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy’n sail i weithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, gan ddatblygu sylfaen gadarn mewn seicoleg wybyddol, gymdeithasol, ddatblygiadol, glinigol a biolegol.
X2P5 X2P7 X2P6 X2P8
Addysg a’r Gymraeg, BA (Anrh) Addysg a’r Gymraeg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Addysg a’r Gymraeg (Llwybr Y Fyfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) Addysg a’r Gymraeg (Llwybr Y Fyfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
Mae Addysg a Chymraeg yn faes astudio sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n tynnu ar ddisgyblaethau’r Gymraeg, hawliau’r Gymraeg, amlddiwylliant ac iaith a chymdeithas a llenyddiaeth yn ogystal â seicoleg, athroniaeth, hanes a’r gwyddorau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar ddeall sut mae pobl yn dysgu a sut mae strwythurau addysg yn gweithredu i feithrin dysgu gydol oes a datblygiad personol.
R9XO
Ieithoedd Modern gydag Addysg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio dwy iaith, wedi’u dewis o Ffrangeg, Almaeneg, neu Sbaeneg, ynghyd ag addysg, gyda’r opsiwn i arbenigo mewn dysgu digidol ac addysg â chymorth technoleg. Byddwch yn treulio blwyddyn dramor a gallwch weithio fel athro Iaith Dramor Saesneg trwy’r Cyngor Prydeinig. Mae’r radd hon yn agor drysau i yrfaoedd yn bennaf mewn addysgu ac addysg, ond hefyd mewn llywodraeth, cyfieithu, marchnata, a chysylltiadau cyhoeddus. Mae’n hyblyg ac yn cynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol, gyda’r cyfle i gwblhau lleoliadau addysgu am brofiad gwerthfawr.
CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD
Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg ac arweiniad. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad eich cwrs penodol: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/addysg-astudiaethau-plentyndod
TEITL Y CWRS
SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL
BAGLORIAETH RYNGWLADOL
CYNNIG NODWEDDIADOL CYFATEBOL BTEC
TGAU NEU GYFWERTH
BBB
32
DDM-DMM
Nid yw Saesneg a/neu Gymraeg a Mathemateg Isafswm Gradd C (4) yn hanfodol ar gyfer rhaglen israddedig, ond fe’u cynghorir ar gyfer dilyniant i TAR yn y dyfodol. Nid yw Saesneg a Mathemateg Isafswm Gradd C (4) yn hanfodol ar gyfer rhaglen israddedig, ond fe’u cynghorir ar gyfer dilyniant i TAR yn y dyfodol. O leiaf pum gradd A*- C (9-4), gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. 5 TGAU gradd C/4 neu uwch sy’n gorfod cynnwys iaith berthnasol (Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg). Bydd pob cais iaith yn cael ei ystyried yn ôl teilyngdod.
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR GYDA STATWS YMARFERYDD BLYNYDDOEDD CYNNAR, BA (Anrh)*
ADDYSG, BA (Anrh)*
ADDYSG A’R GYMRAEG, BA (Anrh)* ADDYSG A’R GYMRAEG (Llwybr Y Fyfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh)*
32
BBB
DDM-DMM
ABB-BBB
32-33
DDM
ADDYSG A SEICOLEG, BSc (ANRH)
BBB
32
DDM-DMM
IEITHOEDD MODERN GYDAG ADDYSG, BA (Anrh)*
* gyda Blwyddyn Dramor, neu hebddo
• Blwyddyn Sylfaen - Yn amodol ar eich graddau a ragfynegir a’ch dewis o gyrsiau, mae’n bosibl y byddwn yn cynnig lle ar flwyddyn sylfaen fel dewis arall – y bydd ei chwblhau yn arwain at Flwyddyn 1 o’ch dewis gwrs. Dysgir y flwyddyn sylfaen hefyd ar Gampws Singleton. • Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. • Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein studyFHSS@abertawe.ac.uk .
MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi o’r hyn y gallech ei astudio ar ein rhaglenni gradd. Mae pob gradd yn cynnig modiwlau amrywiol. Ewch i’n gwefan i weld manylion am yr opsiynau sydd ar gael i chi o fewn eich cwrs. Gellir gweld y rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/addysg-astudiaethau-plentyndod ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR GYDA STATWS YMARFERYDD BLYNYDDOEDD CYNNAR, BA (Hons): Yn ogystal â’r modiwlau a restrir isod, mae myfyrwyr yn treulio lleiafswm o 700 awr ar leoliad mewn sefydliadau blynyddoedd cynnar gan gynnwys ysgolion cynradd, meithrinfeydd, a Dechrau’n Deg dros y rhaglen 3 blynedd, ac mae’n ofynnol iddynt ddangos cymhwysedd mewn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 credyd yn cynnwys 4 modiwl 20 credyd gorfodol ac 1 modiwl 40 credyd gorfodol.
MODIWLAU GORFODOL
Diogelu a Hawliau
Adeiladu Cymdeithasol Plentyndod
Cyflwyniad i Ymarfer Myfyriol (modiwl 40 credyd)
Plant SEMESTER 1
Datblygiad Plant
Polisi a Chwricwlwm yn y Blynyddoedd Cynnar: Safbwyntiau Cenedlaethol a Rhyngwladol
SEMESTER 2
Blwyddyn 2 (Lefel 5): 120 credyd yn cynnwys 4 modiwl 20 credyd gorfodol ac un modiwl 40 credyd gorfodol.
MODIWLAU GORFODOL
Chwarae Trwy’r Blynyddoedd Cynnar SEMESTER 1
Cyfathrebu, Iaith a Llythrennedd
Ymgorffori ac Ymestyn Arfer Myfyriol (modiwl 40 credyd)
Diogelu a Hyrwyddo Llesiant
Ymchwil gyda Phlant, Teuluoedd ac Ymarferwyr
mewn Addysg SEMESTER 2
Blwyddyn 3 (Lefel 6): 120 credyd yn cynnwys 2 fodiwl 20 credyd gorfodol a 2 fodiwl 40 credyd gorfodol a 3 modiwl 20 credyd dewisol.
MODIWLAU GORFODOL
Dysgu ac Addysgu sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn: Ymgorffori Cynigion Arloesol SEMESTER 1
Prosiect Ymchwil (modiwl 40 credyd)
Ymarfer Myfyriol Proffesiynol (modiwl 40 credyd)
Gweithio mewn Partneriaeth ac Arwain Eraill
SEMESTER 2
ADDYSG, BA (Anrh): Blwyddyn 1 (Lefel 4): cyfanswm o 120 credyd yn cynnwys 5 modiwl 20 credyd gorfodol ac 1 modiwl 20 credyd dewisol.
Addysg a Chymdeithas SEMESTER 1 Datblygiad Plant SEMESTER 2 MODIWLAU GORFODOL
Sgiliau Ymchwil Addysg ar Waith
Beth yw Addysgu a Dysgu?
Athroniaeth a Theori mewn Addysg
Blwyddyn 2 (Lefel 5): 120 credyd yn cynnwys 3 modiwl 20 credyd gorfodol a 3 modiwl 20 credyd dewisol.
MODIWLAU GORFODOL
Anghenion Dysgu Ychwanegol SEMESTER 1
Diogelu a Hyrwyddo Llesiant mewn
Dulliau Ymchwil mewn Addysg
Addysg SEMESTER 2
Blwyddyn 3 (Lefel 6): 120 credyd yn cynnwys un modiwl 20 credyd gorfodol, un modiwl 40 credyd gorfodol ac un modiwl 20 credyd dewisol.
MODIWLAU GORFODOL
Tegwch, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Addysg
SEMESTER 1
Traethawd Hir (modiwl 40 credyd)
SEMESTER 2
MODIWLAU DEWISOL
Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea.ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen . Ewch i dudalen eich cwrs am restrau cyflawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol sydd ar gael: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/addysg-astudiaethau-plentyndod Mae’r tablau isod yn ddangosol ac fe’u darperir fel canllaw i ddangos ehangder y modiwlau sydd ar gael. Mae modiwlau yn 15 credyd yr un, oni nodir yn wahanol.
Blwyddyn 1 ADDYSG, BA (Anrh) – MODIWLAU DEWISOL Blwyddyn 2
Blwyddyn 3
Astudiaethau Cwricwlwm ar Waith: Y Cwricwlwm Newydd i Gymru Mae myfyrwyr yn dewis un o’r modiwlau canlynol Plant sy’n Agored i Niwed: Adfyd, Tlodi a Gofal Addysg a Dinasyddiaeth Ieuenctid Mae myfyrwyr yn dewis 2 o’r modiwlau canlynol Gweithio mewn Partneriaeth ac Arwain Eraill
Safbwyntiau Beirniadol mewn Addysg Fyd-eang Mae myfyrwyr yn dewis un o’r modiwlau canlynol Meddwl Creadigol a Beirniadol mewn Ysgolion
Mae myfyrwyr yn dewis 2 o’r modiwlau canlynol
Gwella Cyflogadwyedd
Addysg Ddigidol: Addysgeg ac Ymarfer Theori a Dadleuon y Cwricwlwm
Mae myfyrwyr yn dewis un o’r modiwlau canlynol
Anifeiliaid mewn addysg: Cyflwyniad i anthroswoleg addysgol
Gwneud Penderfyniadau Cyflogadwyedd a Phrofiad Gwaith
Naratifau Newidiol mewn Addysg: Hil, Rhywedd a Rhywioldeb
Astudiaethau Plentyndod
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/addysg-astudiaethau- plentyndod I gael rhagor o wybodaeth, sganiwch y QR neu ewch i’n gwefan.
ACHREDU PROFFESIYNOL
Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh) yn bodloni’r asesiad o gymwyseddau a gydnabyddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru – y corff cenedlaethol sy’n cydnabod ac yn rhestru rhaglenni ar gyfer Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar fel rhai sy’n cydymffurfio â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae myfyrwyr yn treulio lleiafswm o 700 awr ar leoliad dros y rhaglen tair blynedd ac mae’n ofynnol iddynt ddangos cymhwysedd yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Bydd graddedigion yn cymhwyso gyda’r cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar sy’n golygu eu bod yn gwbl gymwys i ymuno â’r gweithlu ar unwaith mewn ystod o leoliadau plentyndod cynnar.
Mae Prifysgol Abertawe yn aelod cyfredol o’r Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar ( ECSDN ) a sefydlwyd yn 1993 i ymgyrchu dros broffesiwn graddedigion plentyndod cynnar statws uchel a darparu safbwynt beirniadol a fforwm ar gyfer hyrwyddo polisïau, mentrau a deddfwriaeth plentyndod cynnar priodol. Mae cymwyseddau ECSDN wedi’u gwreiddio yn yr Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh)
BLWYDDYN SYLFAEN
Mae Blwyddyn Sylfaen Integredig y Dyniaethau yn cynnig cyflwyniad arloesol a chyffrous i Addysg Uwch, ac mae wedi’i chynllunio i ddarparu mynediad ehangach at raddau anrhydedd achrededig. Os nad ydych yn bodloni ein gofynion mynediad traddodiadol ar gyfer cael mynediad uniongyrchol at ein rhaglenni gradd, efallai y gallwch chi ddechrau eich astudiaethau â Blwyddyn Sylfaen. Ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â myfyrwyr ym Mlwyddyn 1 eich gradd ddewisol. Mae pob un o’n cydweithwyr sy’n addysgu ar lefel Blwyddyn Sylfaen yn meddu ar brofiad helaeth o addysgu ym maes Addysg Uwch. Byddwch yn parhau i gael eich addysgu gan lawer ohonynt wedi i chi fynd ymlaen i astudio gradd. Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, bydd y cydweithwyr hyn yn eich cynorthwyo i ennill y wybodaeth hanfodol a’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i ffynnu ar ein cyrsiau gradd. Dyma sampl o destunau y byddwch yn eu hastudio yn ystod eich Blwyddyn Sylfaen: Cyflwyniad i Fod yn Ddynol Ysgrifennu a Datblygu Sgiliau Academaidd Cyflwyniad i Ymchwil Myfyrio Beirniadol a Datrys Problemau Traethawd Ymchwil Mae myfyrwyr sy’n cwblhau ein Blwyddyn Sylfaen yn y Dyniaethau yn mynd ymlaen i’w llwybrau gradd dewisol wedi’u paratoi’n drylwyr â sylfaen wybodaeth gref, sgiliau academaidd cadarn, a lefelau uchel o hyder, yn deillio o flwyddyn gefnogol a dreuliwyd yn y Brifysgol. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gyflawni marciau rhagorol ar eu cyrsiau gradd, sicrhau rolau amlwg o fewn y Brifysgol (gan gynnwys Cynrychiolydd Myfyrwyr, Llysgennad a swyddi interniaeth), a chael eu cydnabod am y gwahaniaeth a wnânt i’r rheiny o’u cwmpas. Cewch deimlo’n rhan o’r gymuned mewn amgylchedd hamddenol ac anogol lle byddwch yn cael eich addysgu mewn ffyrdd cynhwysol a dynamig. Gydag athroniaeth addysgol bersonoledig a chefnogol, byddwch yn cael eich annog i gyrraedd eich potensial academaidd gorau. Mae ein carfan amrywiol, gyda myfyrwyr o amryw wledydd a chefndiroedd, yn cyfoethogi profiad myfyrwyr, ymhellach. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am fodiwlau a chyrsiau, ewch i dudalennau gwe ein cyrsiau.
BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.
Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,
byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith
Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Cwblheais flwyddyn yn astudio dramor ym Mhrifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada. Y rhan orau oedd cael teithio a chwrdd â nifer fawr o bobl newydd. Caniataodd hyn i mi ehangu fy ngorwelion a thyfu fy rhwydwaith proffesiynol.
Byddwn yn argymell y profiad 100%; mae wedi bod fy hoff ran o’m gradd hyd yn hyn.
HELENA BAILEY Blwyddyn Dramor: Prifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada
CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:
Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau
Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio
Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:
• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.
GYRFAOEDD MEWN ADDYSG AC ASTUDIAETHAU PLENTYN CYNNAR YN Y DYFODOL
Addysgu Blynyddoedd Cynnar Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd a Chymunedol
Gwasanaethau Dydd/Cymunedol; Gofal dydd llawn, meithrinfa ddydd a chyfleusterau creche
Cynorthwywyr Addysgu Astudiaeth ôl-raddedig
Bydd angen astudiaeth ychwanegol arnoch ar gyfer rhai gyrfaoedd, fel Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) neu gymhwyster Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) i ddod yn athro.
Yn ystod Haf 2022 cefais gyfle gwych i weithio yn Walt Disney World yn Fflorida lle roeddwn yn rhan o dîm nwyddau EPCOT rhwng fy astudiaethau yn y brifysgol. Roedd y profiad cyfan yn werthfawr ar lefel bersonol a phroffesiynol. Rhoddodd gymaint o sgiliau ymarferol trosglwyddadwy i mi, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ac ymwybyddiaeth o sefyllfa yr oeddwn yn gallu eu defnyddio ar gyfer fy ngradd, tra hefyd yn fy ngalluogi i feithrin cyfeillgarwch gydol oes gyda phobl o bob rhan o’r byd.
NATASHA MOORE Walt Disney World, Fflorida
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:
Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol
Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni
Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol
Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd
Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr
ARIAN A CHYNGOR
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu
PROFIAD MYFYRWYR
Cymuned: Mae digonedd yn digwydd bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau rhyngweithio ag anifeiliaid ecsotig, dysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio trwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau crefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!
Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol a gwneud i newid ddigwydd. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil eu hunain, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Gofalu Amdanoch Chi’ch Hun: Mae gofalu amdanoch chi’ch hun yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr yn gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth â themâu sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn. Mae gan y gyfadran galendr amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol sy’n parhau trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae’r tîm Profiad Myfyrwyr ac Ymgysylltu yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i drefnu digwyddiadau pwrpasol. Mae cymdeithasau’n rhan hanfodol o’ch profiad fel myfyriwr ac mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl o’r un anian a gwneud ffrindiau newydd. Gall hefyd roi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i chi ar gyfer cael cyflogaeth yn y dyfodol. Mae gan Brifysgol Abertawe dros 150 o gymdeithasau, felly mae digon i chi ddewis o’u plith.
Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies
SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Yn y semester cyntaf, fe wnes i wir fwynhau dysgu am bolisïau ac arferion diogelu sydd ar waith i amddiffyn plant. Tynnodd fy sylw at bwysigrwydd rhai o’r rolau y gellir eu dilyn gyda’r radd hon. Mwynheais hefyd y modiwl creadigrwydd a meddwl beirniadol yn yr ail semester.
CATHERINE MCWILLIAM-TAYLOR Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh)
Dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd ei bod yn cael ei chyfrif yn uchel iawn ar gyfer fy nghwrs, mewn dinas a oedd yn fodern ond heb fod yn rhy brysur. Roeddwn i’n hoffi pa mor groesawgar oedd y Brifysgol yn edrych; roedd y brifysgol gerllaw traeth, ac roeddwn i eisiau mynd i Brifysgol yng Nghymru oherwydd ei hanes cyfoethog. Cefais lawer o brofiad ymarferol gyda phlant ac roeddwn i wrth fy modd â’r ochr ddamcaniaethol. Roeddwn eisiau cynyddu fy ngwybodaeth yn hyn o beth, felly dyma oedd y grym arweiniol ar gyfer bod eisiau astudio’r cwrs hwn. Mae’n bendant yn bodloni fy nisgwyliadau ac rwyf wrth fy modd â phopeth rydw i’n ei ddysgu.
AYAN IBRAHIM Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh)
Astudiais ystod eang o fodiwlau, o hanes addysg i astudiaethau cwricwlwm. Roedd rhai o fy hoff fodiwlau yn ymwneud ag Anthroswoleg a oedd yn canolbwyntio ar anifeiliaid mewn addysg, ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd y modiwlau hyn yn gyffrous, yn canolbwyntio ar astudiaethau a pholisïau newydd sydd ar flaen y gad ym myd addysg yng Nghymru ac yn canolbwyntio ar gynhwysiant a chefnogi plant a allai fod angen cymorth ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth.
LAUREN MORRIS Addysg, BA (Anrh)
Rwyf wedi profi ystod o fodiwlau gwahanol ar draws Addysg a Seicoleg. Un o fy hoff fodiwlau oedd Anghenion Dysgu Ychwanegol o fewn Addysg gan fod hwn yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol amdano ac rwyf wrth fy modd yn gallu helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
ELINOR BANKS Addysg a Seicoleg, BA (Hons)
Roedd fy nghwrs MA Addysg ym Mhrifysgol Abertawe yn wych. O theori addysg i anghenion arbennig ac amrywiaeth ddiwylliannol, buom yn ymdrin ag ystod eang o bynciau a roddodd ddealltwriaeth gynhwysfawr i mi o addysg. Fe wnaeth y cwrs fy annog i feddwl yn feirniadol ac yn fyfyriol, yn ogystal â dod yn fwy meddwl agored a thosturiol tuag at eraill. Roedd y gyfadran a’r staff yn wybodus, yn hawdd siarad â nhw, ac yn barod eu cymwynas. Fe wnaethon nhw roi adborth a mewnwelediadau defnyddiol i ni, a helpodd ni i wella ein gwaith a thyfu fel addysgwyr.
HUAFENG YU Addysg, MA
YMCHWIL
Nod ein Hysgol yw cynhyrchu ymchwil cydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr disgleiriaf a gorau o bob rhan o’r wlad. Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, partneriaid a sefydliadau cydweithredol, a myfyrwyr trwy weithio mewn partneriaethau sefydledig a’n perthynas â chyn-fyfyrwyr. Y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer (CRIP) yw prif lwybr y Brifysgol ar gyfer cynnal ymchwil addysgol. Cafodd ei sefydlu ar adeg o ddiddordeb o’r newydd mewn ymchwil addysgol ac ysgogiad i ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Wrth gynnal ymchwil, mae’r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod wedi ymrwymo i werthoedd craidd y Brifysgol, sef proffesiynoldeb, cydweithio a gofal.
Mae gan y Ganolfan bedair nod: Codi ymwybyddiaeth o newyddion a gweithgareddau’r Ganolfan. Datblygu adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi ymchwil addysgol. Meithrin gallu ymchwil addysgol. Cryfhau partneriaethau ar gyfer ymchwil cydweithredol ac ymholi proffesiynol.
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn sylfaenol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflwyno i’n myfyrwyr. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu:
Ymyriadau a Gynorthwyir gan Anifeiliaid
Arweinyddiaeth Addysgeg Blynyddoedd Cynnar
Mentora Chwarae Gydol Oes Hanes Addysg
Ymgysylltu â Rhieni Llesiant
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ymchwil
CYFLEUSTERAU
HYB CYFLOGADWYEDD Mae myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd dynodedig. Mae gan y tîm hanes o gael swyddi i fyfyrwyr ac yn gallu eich cynorthwyo trwy gydol eich astudiaethau, yn ogystal â chynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. GOFODAU CYMDEITHASOL A GOFODAU ASTUDIO AR GYFER MYFYRWYR Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol amrywiaeth o ofodau cynllun agored y gallwch eu defnyddio i ymlacio a chymdeithasu rhwng darlithoedd neu gael ychydig o amser tawel i astudio. Mae nifer o socedi trydanol a phyrth, ynghyd â Wi-Fi ar draws yr adeiladau, yn cynorthwyo mynediad at adnoddau digidol. DARLITHFEYDD AC YSTAFELLOEDD SEMINAR Mae’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf wedi’i gosod yn ein hystafelloedd addysgu, gan gynnwys technoleg cofnodi darlithoedd, i’ch galluogi i ailedrych ar unrhyw un o’ch darlithoedd ar-lein ar unrhyw adeg. Byddwch yn cael profiad o addysgu mewn darlithfeydd, sy’n gallu dal dros 150 o fyfyrwyr, ac ystafelloedd seminar llai, sy’n gallu dal hyd at 30, ar gyfer eich gwaith grwp a sesiynau mwy personoledig gyda darlithwyr a thiwtoriaid.
SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL
STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.
EICH CAMAU NESAF
MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.
HYD - TACH DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.
TACH - RHAG ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.
EBR CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £
CHWEF - MAW DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!
ION DYDDIAD CAU UCAS Cyflwyno’ch cais ar amser.
MEH CWMNI AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.
AWS DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.
MAI LLETY
Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk
YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau
CHWARAEON
Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:
•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian
DARPARIAETH GYMRAEG
DIWYLLIANT
Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.
DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR
I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!
Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored
CYSYLLTWCH Â NI
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU
E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk
www.swansea.ac.uk/cy/gwyddorau- cymdeithasol
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Chwiliwch am Prifysgol Abertawe
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28Made with FlippingBook HTML5