CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:
Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau
Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio
Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:
• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.
GYRFAOEDD MEWN ADDYSG AC ASTUDIAETHAU PLENTYN CYNNAR YN Y DYFODOL
Addysgu Blynyddoedd Cynnar Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd a Chymunedol
Gwasanaethau Dydd/Cymunedol; Gofal dydd llawn, meithrinfa ddydd a chyfleusterau creche
Cynorthwywyr Addysgu Astudiaeth ôl-raddedig
Bydd angen astudiaeth ychwanegol arnoch ar gyfer rhai gyrfaoedd, fel Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) neu gymhwyster Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) i ddod yn athro.
Yn ystod Haf 2022 cefais gyfle gwych i weithio yn Walt Disney World yn Fflorida lle roeddwn yn rhan o dîm nwyddau EPCOT rhwng fy astudiaethau yn y brifysgol. Roedd y profiad cyfan yn werthfawr ar lefel bersonol a phroffesiynol. Rhoddodd gymaint o sgiliau ymarferol trosglwyddadwy i mi, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ac ymwybyddiaeth o sefyllfa yr oeddwn yn gallu eu defnyddio ar gyfer fy ngradd, tra hefyd yn fy ngalluogi i feithrin cyfeillgarwch gydol oes gyda phobl o bob rhan o’r byd.
NATASHA MOORE Walt Disney World, Fflorida
Made with FlippingBook HTML5