SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Yn y semester cyntaf, fe wnes i wir fwynhau dysgu am bolisïau ac arferion diogelu sydd ar waith i amddiffyn plant. Tynnodd fy sylw at bwysigrwydd rhai o’r rolau y gellir eu dilyn gyda’r radd hon. Mwynheais hefyd y modiwl creadigrwydd a meddwl beirniadol yn yr ail semester.
CATHERINE MCWILLIAM-TAYLOR Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh)
Dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd ei bod yn cael ei chyfrif yn uchel iawn ar gyfer fy nghwrs, mewn dinas a oedd yn fodern ond heb fod yn rhy brysur. Roeddwn i’n hoffi pa mor groesawgar oedd y Brifysgol yn edrych; roedd y brifysgol gerllaw traeth, ac roeddwn i eisiau mynd i Brifysgol yng Nghymru oherwydd ei hanes cyfoethog. Cefais lawer o brofiad ymarferol gyda phlant ac roeddwn i wrth fy modd â’r ochr ddamcaniaethol. Roeddwn eisiau cynyddu fy ngwybodaeth yn hyn o beth, felly dyma oedd y grym arweiniol ar gyfer bod eisiau astudio’r cwrs hwn. Mae’n bendant yn bodloni fy nisgwyliadau ac rwyf wrth fy modd â phopeth rydw i’n ei ddysgu.
AYAN IBRAHIM Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh)
Made with FlippingBook HTML5