Addysg a Astudiaethau Plentyndod

YMCHWIL

Nod ein Hysgol yw cynhyrchu ymchwil cydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr disgleiriaf a gorau o bob rhan o’r wlad. Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, partneriaid a sefydliadau cydweithredol, a myfyrwyr trwy weithio mewn partneriaethau sefydledig a’n perthynas â chyn-fyfyrwyr. Y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer (CRIP) yw prif lwybr y Brifysgol ar gyfer cynnal ymchwil addysgol. Cafodd ei sefydlu ar adeg o ddiddordeb o’r newydd mewn ymchwil addysgol ac ysgogiad i ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Wrth gynnal ymchwil, mae’r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod wedi ymrwymo i werthoedd craidd y Brifysgol, sef proffesiynoldeb, cydweithio a gofal.

Mae gan y Ganolfan bedair nod: Codi ymwybyddiaeth o newyddion a gweithgareddau’r Ganolfan. Datblygu adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi ymchwil addysgol. Meithrin gallu ymchwil addysgol. Cryfhau partneriaethau ar gyfer ymchwil cydweithredol ac ymholi proffesiynol.

ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn sylfaenol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflwyno i’n myfyrwyr. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu:

Ymyriadau a Gynorthwyir gan Anifeiliaid

Arweinyddiaeth Addysgeg Blynyddoedd Cynnar

Mentora Chwarae Gydol Oes Hanes Addysg

Ymgysylltu â Rhieni Llesiant

I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ymchwil

Made with FlippingBook HTML5